Dad-dirgelu Gwerthuso
Cyfres o sesiynau hyfforddi ar-lein yn dod yn fuan!
O ddiwedd mis Ebrill 2024 byddwn ni’n cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi cryno am ddim i helpu pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i ddefnyddio gwerthuso i wella dysgu a dangos effaith eu gwaith yn well. Mae’r rhain yn rhan o’n ‘cynnig’ gwerthuso i gefnogi pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Bydd ein sesiynau ar-lein yn rhoi trosolwg o ddulliau gwerthuso ac maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer:
- arweinwyr/rheolwyr prosiect
- timau perfformiad a gwella
- swyddogion effaith
- arianwyr
- swyddogion arloesi
- arweinwyr ymarfer
- comisiynwyr.
Byddwn ni’n canolbwyntio ar fanteision gwerthuso a sut y gall fod yn ffordd effeithiol o ddysgu, yn ogystal â mesur a dangos effaith. Byddwn ni hefyd yn trafod rhai o’r heriau a’r anawsterau cyffredin sy’n cael eu hwynebu wrth gynnal gwerthusiadau. A byddwn ni’n archwilio offer a thechnegau defnyddiol, gyda digon o gyfleoedd i ofyn cwestiynau a rhannu profiadau.
“Rydyn ni am eich helpu i ddangos effaith eich gwaith pwysig, a meddwl sut y gall gwerthuso eich helpu i ddysgu a gwella’n barhaus. Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio i roi’r hyder i chi gynllunio a chynnal eich gwerthusiadau eich hun a ‘dad-dirgelu'r’ broses werthuso.” Emyr Williams, uwch arweinydd gwerthuso, Gofal Cymdeithasol Cymru.
Sut fydd y sesiynau'n gweithio?
Bydd pob sesiwn yn cymryd tua dwy awr ac yn canolbwyntio ar wahanol elfennau o werthuso. Drwy gydol y gyfres byddwn ni’n archwilio:
- pwysigrwydd meddylfryd gwerthuso
- sut i ddefnyddio ‘stori newid’ i fesur effaith
- ystyriaethau moesegol wrth gynnal gwerthusiad.
Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr pwnc eraill i ddarparu cymorth ar:
- gwerthusiad economaidd mewn gofal cymdeithasol
- defnyddio dulliau creadigol a chyfranogol mewn gwerthusiadau.
Gofal Cymdeithasol Cymru a’n cydweithwyr yn DEEP (Developing Evidence-Enriched Practice) fydd yn cynnal y sesiynau. Bydd pob sesiwn am ddim ac yn agored i unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn am union ddyddiadau ac amseroedd y sesiynau. Ond os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ein sesiynau hyfforddi gwerthuso a’r cymorth y gallwn ei ddarparu, yna anfonwch e-bost at: emyr.williams@gofalcymdeithasol.cymru
“Hyfforddiant hynod ddefnyddiol y gallaf ei roi ar waith yn fy rôl, ac sy’n mynd i’r afael ag un o’r meysydd mwyaf heriol fel darparwr – sut i ddangos tystiolaeth o’r gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud.” - Adborth gan gyfranogwr i sesiynau hyfforddi peilot ar werthuso.