Skip to Main content

Dangosfwrdd newydd yn ei gwneud hi'n haws darganfod mwy am y gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig

20 Tachwedd 2025

Rydyn ni wedi datblygu dangosfwrdd newydd  a fydd yn ei gwneud hi'n haws i chi ddarganfod mwy am y gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.

Pan fydd pobl yn cofrestru gyda ni, maen nhw'n rhannu gwybodaeth am eu swydd, eu cymwysterau a phwy ydyn nhw. 

Bydd y dangosfwrdd yn rhoi trosolwg i chi o rai o'r data sydd gennym ni fel rhan o'r Gofrestr honno, a gallwch ei deilwra i ddangos y wybodaeth sydd o ddiddordeb mwyaf i chi. 

Bydd yr offeryn newydd hwn yn ei gwneud hi'n haws i chi ddod o hyd i atebion i gwestiynau a allai fod gennych chi am y gweithlu cofrestredig.

Sut i gael mynediad at y ddangosfwrdd

Mae'r dangosfwrdd ar Borth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru.

Gallwch cael mynediad ato drwy glicio ar 'Adroddiad cofrestru' yn y bar dewislen ar ben y porth.

Bydd y dangosfwrdd yn dangos data i chi i ddechrau ar gyfer cyfanswm nifer y bobl ar y Gofrestr ledled Cymru, ac ar gyfer y mis diweddaraf sydd ar gael. Ond gallwch hidlo yn ôl math o swydd a daearyddiaeth, a gweld gwybodaeth am:

  • sector
  • cymwysterau
  • rhesymau dros adael
  • demograffeg.

Diweddariadau i’r porth

Gallwch hefyd ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithlu cofrestredig mewn mannau eraill ar y porth.

Bob mis rydyn ni’n diweddaru'r porth gyda data cofrestru'r mis blaenorol. 

Mae hynny'n golygu y gallwch gael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf am bethau fel faint o bobl sy'n gweithio mewn rôl benodol, dadansoddiadau oedran ar gyfer gwahanol rolau swyddi, neu sut mae lefelau sgiliau Cymraeg yn newid.

Fe welwch y data hwn yn ardal Gweithlu’r porth data. Oddi yno, gallwch archwilio'r is-gategorïau wedi'u rhannu yn ôl rolau swyddi a'r gwahanol fathau o wybodaeth a rannodd pobl pan gofrestron nhw.

Darganfod mwy

Ewch i'r porth data nawr i ddechrau archwilio'r data hwn, neu cysylltwch â data@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech wybod mwy.