Skip to Main content

Deall rôl gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol

12 Tachwedd 2024

Yn gynnar yn 2024, fe wnaethon ni gomisiynu astudiaeth er mwyn deall sut mae gwirfoddoli’n cyfrannu at ofal cymdeithasol. Mae’r ymchwil bellach yn cael ei wneud gan Brifysgol De Cymru, Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru a Chanolfan Effeithiolrwydd Elusennau yn Ysgol Fusnes Bayes.

Diweddariad prosiect

Yn ystod chwe mis cyntaf y prosiect rydyn ni wedi gwneud cynnydd gwych. Mae gennym ni grŵp llywio sy’n cynnwys partneriaid o’r sector gofal cymdeithasol a’r trydydd sector. Mae’r grŵp yn ein helpu i adolygu, cefnogi a datblygu’r prosiect.

Rydyn ni wedi cyflawni adolygiad cyflym ar dystiolaeth a data gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol. Mae hwn wedi ein helpu i nodi pa ffynonellau ymchwil a data sydd eisoes yn bodoli ar wirfoddoli yn y sector.

Roedd lleoliadau ledled Cymru wedi cytuno cymryd rhan mewn astudiaethau achos, gyda ffocws ar wirfoddoli mewn cartrefi gofal preswyl ar gyfer oedolion hŷn. Roedden nhw'n cynnwys lleoliadau awdurdod lleol, y sector gwirfoddol a chartrefi gofal preifat.

Mae llawer o bobl gwahanol wedi bod yn rhan o'r sgwrs, gan gynnwys:

  • gwirfoddolwyr a staff mewn cartrefi preswyl
  • sefydliadau’r sector gwirfoddoli
  • awdurdodau lleol
  • cynghorau gwirfoddol sirol
  • Arolygiaeth Gofal Cymru.

Roedden ni’n eu holi am agweddau ar wirfoddoli, er enghraifft: y broses reoli, effaith gwirfoddoli, yr adnoddau sydd angen, a’r heriau a’r cyfleon mae gwirfoddoli'n cynnig iddyn nhw.

Cymerwch ran mewn arolwg byr!

Rydyn ni wedi lansio arolwg yn targedu lleoliadau gofal preswyl cofrestredig ar gyfer oedolion, gan gynnwys y rheiny sy’n cefnogi pobl hŷn, gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau anableddau dysgu.

Os ydych chi’n rheolwr neu’n arweinydd mewn cartref gofal preswyl hoffwn ni glywed sut ydych chi’n gweithio gyda gwirfoddolwyr a pha effaith y mae hynny’n ei chael ar eich lleoliad.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n gweithio gyda gwirfoddolwyr ar hyn o bryd, hoffwn ni gael eich barn er mwyn deall rhwystrau neu heriau ar wirfoddoli.

Dylai’r arolwg gymryd 20 munud neu lai i’w gwblhau.

Dolen gyswllt yr arolwg: https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/southwales/volunteering-in-care-homes

Mae’r arolwg yn cau ar 29 Tachwedd 2024.

Mae'r ymchwil yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru, sydd yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).