Yma mae Angharad Dalton, ein Rheolwr Anogaeth Arloesedd, yn trafod y gwahanol offer rydyn ni'n defnyddio fel rhan o'n gwasanaeth anogaeth arloesedd.
Mae gofal cymdeithasol yn faes sy'n esblygu trwy'r amser, ac mae arloesi yn dod yn sgil angenrheidiol i lawer.
Yma rydyn ni'n trafod rhai o’r adnoddau rydyn ni wedi’u defnyddio fwyaf ers i ni lansio ein gwasanaeth anogaeth arloesedd am ddim.
Eisenhower Matrix
Mae'r Eisenhower Matrix, neu’r Matrics Brys-Pwysig, yn adnodd rheoli amser sy'n helpu i flaenoriaethu tasgau yn ôl brys a phwysigrwydd. Mae'n helpu pobl i rannu eu tasgau'n bedwar grŵp – neu ‘gwadrantau’.
Mae'r adnodd hwn yn arbennig o ddefnyddiol ym maes gofal cymdeithasol, lle mae gweithwyr proffesiynol yn ymdopi’n aml â nifer o chyfrifoldebau sy’n gwrthdaro a phrinder amser.
- Cwadrant un: Brys a phwysig – Tasgau sydd angen sylw ar unwaith, fel rheoli argyfwng neu anghenion brys cleientiaid.
- Cwadrant dau: Pwysig ond nid brys – Tasgau sy'n hollbwysig ar gyfer llwyddiant tymor hir, fel cynllunio strategol a datblygiad proffesiynol.
- Cwadrant tri: Brys ond nid pwysig – Tasgau sydd angen eu gwneud yn gyflym ond sydd ddim yn effeithio'n sylweddol ar nodau tymor hir, fel gwaith gweinyddol arferol.
- Cwadrant pedwar: Dim brys nac yn bwysig – Tasgau gall cael eu lleihau neu eu gadael er mwyn canolbwyntio ar weithgareddau sy'n fwy pwysig.
Trwy osod tasgau yn y cwadrantau hyn, gall gweithwyr gofal cymdeithasol sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar bethau gwirioneddol bwysig, a gwella pa mor effeithlon ac effeithiol ydyn nhw.
Mae llawer mwy o wybodaeth am y dull hwn ar gael ar-lein, gan gynnwys yma.
Mapio a dadansoddi rhanddeiliaid
Mae mapio a dadansoddi rhanddeiliaid yn ddull strategol o ddod i adnabod a deall yr unigolion neu'r grwpiau sydd â diddordeb mewn prosiect.
Ym maes gofal cymdeithasol, mae'r adnodd hwn yn helpu i sicrhau bod yr holl bartïon perthnasol yn cael eu hystyried a'u cynnwys.
Sut gallwch chi fapio a dadansoddi rhanddeiliaid:
- Nodi rhanddeiliaid – Gwneud rhestr o’r holl randdeiliaid posibl, gan gynnwys cleientiaid, teuluoedd, staff, a phartneriaid allanol.
- Dadansoddi rhanddeiliaid – Asesu dylanwad, diddordeb ac effaith pob rhanddeiliad ar y prosiect.
- Mapio rhanddeiliaid – Creu cynrychiolaeth weledol o randdeiliaid, a’u grwpio yn seiliedig ar lefel eu dylanwad a'u diddordeb.
- Cynllun gweithredu – Creu cynllun i weithio gyda rhanddeiliaid
Mae'r broses hon yn helpu timau gofal cymdeithasol i ddeall dynameg y sefyllfa a datblygu strategaethau i ymgysylltu â rhanddeiliaid yn effeithiol.
Mae'r dudalen hon yn rhoi trosolwg da o fapio rhanddeiliaid ac yn cynnig ambell dempled.
Fframio problemau
Mae modd fframio problemau er mwyn diffinio a deall y prif faterion sydd angen eu datrys.
Mae’n golygu torri problemau cymhleth i lawr a’u rhannu’n ddarnau gallwch ymdopi â nhw ac adnabod yr achosion sylfaenol.
Sut mae fframio problemau yn gweithio:
- Diffinio’r broblem – Mynegi’r broblem yn glir, gan sicrhau ei bod yn benodol ac yn gallu cael ei fesur.
- Archwilio’r cyd-destun – Deall y cyd-destun ehangach y mae'r broblem yn bodoli ynddo, gan gynnwys unrhyw ffactorau sy'n cyfrannu.
- Nodi’r achosion sylfaenol – Defnyddio technegau fel y "Pum rheswm" i fynd at wraidd y broblem.
- Fframio'r broblem - Datblygu datganiad cryno o'r broblem sy'n llywio'r broses arloesi.
Trwy fframio problemau yn effeithiol, gall timau gofal cymdeithasol fynd ati i ddatrys y problemau priodol a datblygu atebion wedi’u targedu sy’n cael effaith ystyrlon.
Dyma ddolen ddefnyddiol os ydych chi'n newydd i fframio problemau.
Mapio teithiau
Mae mapio teithiau yn adnodd ar gyfer dychmygu profiadau pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth wrth iddyn nhw ryngweithio â gwasanaethau.
Mae'r adnodd hwn yn helpu i nodi’r mannau anodd a chyfleoedd i wella.
Sut gallwch chi fapio teithiau yn effeithiol:
- Mapio'r daith – Amlinellu camau’r defnyddiwr gwasanaeth o'i gyswllt cyntaf â'r gwasanaeth i'r pwynt lle mae ei anghenion wedi'u diwallu.
- Nodi pwyntiau cyffwrdd – Amlygu rhyngweithiadau allweddol rhwng defnyddiwr y gwasanaeth a'r darparwr gwasanaeth.
- Dadansoddi mannau anodd – Nodi meysydd lle mae defnyddiwr y gwasanaeth yn cael anawsterau neu’n teimlo’n anfodlon.
- Datblygu atebion – Trafod a gweithredu strategaethau i wella profiad y defnyddiwr ym mhob pwynt cyffwrdd.
Mae mapio teithiau yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar brofiad y defnyddiwr, ac yn galluogi timau gofal cymdeithasol i greu gwasanaethau sy'n fwy ymatebol, hawdd eu defnyddio ac effeithlon.
Mae'r adnodd hon yn rhoi cipolwg da ar fapio teithiau, ynghyd ag ambell dempled.
Dyma rai o’r adnoddau rydyn ni'n eu defnyddio i gefnogi pobl gyda’u harferion arloesol trwy ein gwasanaeth anogaeth.
Beth yw eich barn chi am yr adnoddau hyn? Ydych chi wedi rhoi cynnig ar unrhyw un o'r rhain yn eich gwaith? Rhowch wybod i ni pa ddulliau rydych chi’n eu defnyddio amlaf ar gyfer arloesi.
Anfonwch eich sylwadau i anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru.
Oes gennych chi syniad i wella gofal cymdeithasol?
Gwnewch gais am hyd at 12 awr o anogaeth arloesedd am ddim i feithrin sgiliau, datrys problemau a chael effaith.
Ewch i'r dudalen yma i ddarganfod sut i wneud cais, neu cysylltwch ag angharad.dalton@gofalcymdeithasol.cymru i ddysgu rhagor.