Rydyn ni wedi rhoi diweddariad mawr a golwg newydd i Borth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru.
Yma, mae Claire Miller, ein Harweinydd Porth Data, yn amlinellu rhai o’r newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud i helpu defnyddwyr y porth i ddeall data gofal cymdeithasol yng Nghymru yn well.
Beth yw'r porth data?
Mae’r porth data yn siop un stop ar gyfer data gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’n cynnwys data am ofal cymdeithasol ei hun a rhai o’r pethau a allai effeithio ar alw ac angen, fel iechyd, amddifadedd a’r boblogaeth.
Rydyn ni’n cael y data o amrywiaeth o ffynonellau. Daw llawer o’r data ar ofal cymdeithasol o gasgliadau sy'n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru, fel y Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth. Daw data arall gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac awdurdodau lleol. Mae'r porth hefyd yn cynnwys ein data cofrestru ein hunain.
Rydyn ni wedi gweithio gyda chwmni o’r enw Grant Thornton i adeiladu platfform newydd ac yna gwella ymhellach sut mae pobl yn cyrchu a defnyddio’r data ar y porth.
Mae’r fersiwn diweddaraf yn disodli’r hen borth a’n Llwyfan Amcanestyniadau Poblogaeth (a elwir hefyd yn Daffodil).
Beth sy'n newydd?
Yn fwyaf amlwg, mae gan y porth golwg newydd. Rydyn ni wedi newid lliwiau’r thema i gyd-fynd yn agosach â’n gwefan Grŵp Gwybodaeth newydd.
Y Grŵp Gwybodaeth yw ein gwasanaeth ymchwil, data, arloesi a gwella sydd â’r nod o gefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn neu sydd â diddordeb mewn gofal cymdeithasol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Mae'r porth yn adnodd a all helpu gyda hyn trwy roi mynediad a mewnwelediad i ddata gofal cymdeithasol i bobl. Mae'n gwneud synnwyr i'r ddau gwefan edrych a theimlo'n debycach.
Rydyn ni hefyd wedi ychwanegu:
Setiau data
Un o’r pethau y dywedodd defnyddwyr wrthym y byddai’n eu helpu oedd y gallu i edrych ar fwy nag un ‘dangosydd’ ar y tro.
Mae dangosyddion yn eitemau data unigol, fel nifer yr oedolion sy’n cael asesiadau ar gyfer gofal a chymorth.
Roedd data ar y porth arfer bod ar gael fel dangosyddion unigol yn unig. Er enghraifft, os oeddech chi'n edrych ar blant sy'n derbyn gofal yn ôl grŵp oedran, dim ond un band oedran ar y tro y gallech chi weld.
Mae'r setiau data newydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi ddewis y wybodaeth rydych chi am ei harddangos yn eich tablau a'ch delweddau.
Delweddau
Unwaith y byddwch wedi dewis set ddata neu ddangosydd i'w harchwilio, fe welwch ein bod ni hefyd wedi diweddaru'r delweddau ar y porth.
Yn ogystal â gallu gweld sawl mesur ar yr un graff, mae mwy o fathau o graff i'w harchwilio hefyd
- Cymharu dangosyddion – mae hyn yn rhoi’r holl fesurau rydych chi wedi’u dewis ar un siart bar fel y gallwch chi weld sut maen nhw’n cymharu. Gallwch ychwanegu daearyddiaethau i weld sut mae niferoedd yn cymharu rhwng gwahanol leoedd.
- Cymharu ardaloedd – mae hwn yn dangos siart bar o'r mesurau a ddewiswyd ar gyfer pob daearyddiaeth a ddewiswyd fel y gallwch weld sut mae'r dadansoddiadau ar gyfer pob ardal yn wahanol.
- Cymharu cyfnodau amser – er bod hyn efallai yn edrych fel yr opsiwn cymharu dangosyddion, os byddwch yn ychwanegu cyfnodau amser ychwanegol, byddwch yn gallu gweld sut mae’r mesurau’n cymharu ar draws cyfnodau gwahanol.
- Cymharu dangosyddion fesul blwyddyn – mae hwn yn dangos siart bar o'r mesurau a ddewiswyd ar gyfer pob cyfnod amser fel y gallwch weld sut mae'r dadansoddiadau ar gyfer pob un yn cymharu.
- Newid canrannol rhwng blynyddoedd – mae’r graff hwn yn dangos yn gyflym y newid canrannol mewn niferoedd rhwng dau gyfnod amser.
- Cymesurol – mae hwn yn siart bar wedi’i bentyrru sy’n dangos sut mae’r mesurau sydd wedi’u cynnwys yn torri i lawr fel cyfran o’r cyfanwaith, gan gymharu’r holl ddaearyddiaethau ar yr un pryd.
- Newid dros amser – mae hwn yn siart llinell sy’n dangos sut mae pob un o’r mesurau wedi newid dros amser ar gyfer un daearyddiaeth ar y tro.
- Cymharu ardaloedd dros amser - mae'r delweddu hwn yn caniatáu i chi gymharu un dangosydd dros amser ond ar gyfer sawl daearyddiaeth wahanol.
- Map – mae hwn yn dangos y mesurau sydd wedi’u mapio ledled Cymru, sy’n ddefnyddiol ar gyfer gweld yn gyflym pa ardaloedd sydd â gwerthoedd uchaf ac isaf.
- Tabl – bydd hwn yn dangos y data mewn tabl i chi. Dyma hefyd lle gallwch chi lawrlwytho data.
Er bod yr holl ddelweddau ar gael ar gyfer yr holl setiau data, ni fydd pob un yn darparu mewnwelediadau defnyddiol ym mhob achos.
Er enghraifft, bydd map o rifau crai yn bennaf yn dangos i chi ble mae llawer o bobl yn byw (felly mae ardaloedd fel Caerdydd ac Abertawe yn debygol o fod yr uchaf). Efallai y bydd defnyddio mapiau gyda chanrannau neu gyfraddau yn fwy defnyddiol mewn enghreifftiau fel hyn.
Crynodebau data
Rydyn ni hefyd wedi ychwanegu crynodebau data at y porth.
Bydd y rhain yn amlygu tueddiadau mewn setiau data, yn rhoi mwy o gyd-destun iddyn nhw, neu’n gwneud cysylltiadau rhwng y data a’r ymchwil.
Un o'r pethau mae pobl wedi'i ddweud wrthym ni yw eu bod am allu deall mwy am y data sy'n cael ei gasglu am ofal cymdeithasol.
Y crynodebau data sydd eisoes ar gael ar y porth yw:
Rydyn ni'n bwriadu parhau i ychwanegu crynodebau data ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd i helpu pobl i gael gwell dealltwriaeth o'r data ar y porth.
Ewch i'r porth data
Ewch i'r porth data i ddechrau defnyddio'r holl nodweddion newydd.
Cysylltwch
Os oes gennych chi unrhyw adborth neu gwestiynau, neu os hoffech awgrymu pwnc ar gyfer crynodeb data, anfonwch e-bost at data@gofalcymdeithasol.cymru.