Skip to Main content

Diweddaru rhagamcanion y porth data i ddiwallu anghenion y bobl sy'n eu defnyddio

16 Gorffennaf 2025

Yma mae Claire Miller, ein Harweinydd Porth Data, yn trafod ein gwaith i sicrhau bod y rhagolygon ar Borth Data Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol Cymru yn diwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio.

Wrth gynllunio gofal cymdeithasol, byddai'n ddefnyddiol gwybod faint o bobl allai fod angen gofal a chymorth yn y dyfodol.

Un o'r ffyrdd rydyn ni'n ceisio helpu gyda hyn yw trwy ddarparu data rhagamcanion ar ein porth data

Gan mai yn 2020 y cafodd y data cyfredol ei ddiweddaru ddiwethaf, gofynnon ni i ST Analytics edrych i weld a yw'r rhagamcanion ar y porth yn dal i fod yn ddefnyddiol, a beth y gallen ni ei wneud i'w diweddaru a'u gwella.

Roedd y dull a chafodd ei defnyddio yn flaenorol i gyfrifo'r rhagamcanion yn defnyddio cyfradd yr achosion wedi'u dadansoddi yn ôl oedran a rhyw. Dyma gyfran y bobl sydd â chyflyrau iechyd penodol neu sy'n ofalwyr di-dâl. Roedd wedyn yn cymryd y rhagamcanion poblogaeth ar gyfer ardaloedd lleol, hyd at y 2040au, ac yn cymhwyso’r cyfraddau ar gyfer y cyfnod yma. 

Mae hyn yn tybio bod cyfran y bobl sydd â chyflwr yn aros yr un fath dros amser. Nid yw'n cynnwys y posibilrwydd y gall penderfyniadau polisi neu sut rydyn ni’n diagnosio a thrin pobl gael effaith ar niferoedd.

Felly beth oedd y prosiect hwn eisiau ei wella am ragamcanion? Ei nod oedd:

  • nodi pa bethau y mae pobl ym maes gofal cymdeithasol eisiau rhagamcanion ar eu cyfer
  • dod o hyd i ddata ac ymchwil newydd ar gyfer cyfraddau achosion
  • archwilio dulliau newydd ar gyfer cyfrifo rhagamcanion.

Pa wybodaeth mae pobl ei heisiau?

Fel rhan o'r prosiect hwn, siaradodd ST Analytics â phobl ym maes gofal cymdeithasol am yr hyn yr oedd ei angen arnyn nhw o'r rhagamcanion.

Dywedon nhw wrthym fod rhagweld angen am wasanaethau yn flaenoriaeth uchel. Roedden nhw’n defnyddio data rhagamcanion ar gyfer: 

  • asesu anghenion y boblogaeth, sy'n edrych ar ba wasanaethau fydd eu hangen yn y dyfodol
  • adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad, sy'n edrych ar ba ddarpariaeth sy'n debygol o fod ar gael
  • comisiynu gwasanaethau fel lleoliadau i blant.

Roedd defnyddwyr eisiau gallu troi'r data’n amcangyfrifon ystyrlon o ba wasanaethau fydd eu hangen. Er enghraifft, cartrefi gofal, gwelyau nyrsio a thaliadau uniongyrchol. Roedd deall costau yn y dyfodol hefyd yn bwysig.

Roedd angen rhagamcanion ar lefel leol a rhanbarthol i helpu i wneud penderfyniadau comisiynu. Ond roedd pobl hefyd eisiau dull cenedlaethol i gefnogi'r achos dros fuddsoddi mewn darpariaeth gofal cymdeithasol.

Roedd rhagamcanion hirdymor 10 i 20 mlynedd hefyd yn cael eu gweld yn allweddol ar gyfer yr amser sydd ei angen i recriwtio a hyfforddi'r gweithlu. 

Roedd llawer o'r rhai a chafodd eu holi wedi cael problemau wrth ddefnyddio’r data rhagamcanion ar y porth, a hynny o bosibl am nad oedd yn llwytho ac am nad oedd y data’n diwallu eu hanghenion. Dylai rhagamcanion cael eu diweddaru yn rheolaidd. 

Roedd defnyddwyr hefyd yn hoffi'r syniad o adnoddau rhyngweithiol a fyddai’n rhoi cyfle iddyn nhw edrych ar wahanol senarios (fel cyflwyno gwahanol bolisïau) trwy newid newidynnau i weld yr effaith ar ragamcanion.

Felly ble allwn ni ddod o hyd i'r data ar gyfer diweddaru rhagamcanion?

Er mwyn adeiladu modelau data mwy cymhleth, mae angen data ac ymchwil o safon. 

Fodd bynnag, mae adolygiad o'r hyn sydd ar gael yn awgrymu bod diffyg data, yn enwedig data sy’n benodol i Gymru. 

Mae tri phrif fath o ddata y gallen ni eu defnyddio: arolygon trawsdoriadol, ymchwil hydredol, a data gweinyddol. Ond mae diffyg arolwg hydredol o bwys ar gyfer Cymru, lle mae'r un grŵp o bobl yn cael eu dilyn yn rheolaidd dros gyfnod hir. Mae hyn yn golygu bod rhagamcanion yn dibynnu ar ddata arolygon, data gweinyddol neu ddata hydredol o ardaloedd eraill o'r DU. 

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Un o'r prif ffynonellau ar gyfer cyfraddau achosion ar gyfer rhagamcanion 2020 oedd Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae'n cynnwys tua 12,000 o bobl bob blwyddyn ledled Cymru, gan eu holi am amrywiaeth eang o bynciau.

Fodd bynnag, hyd yn oed pan gafodd gwerth tair blynedd o ddata ei gyfuno, roedd maint y sampl yn fach iawn pan ddadansoddwyd yr amcangyfrifon yn ôl oedran a rhyw ar lefel leol.

Mae hyn yn golygu mai ychydig iawn o bobl sy'n adrodd bod ganddyn nhw rai cyflyrau. Mae hyn yn golygu ei bod yn anodd amcangyfrif i sicrwydd nifer yr achosion.

Dim ond cartrefi preifat sy'n cael eu dewis ar gyfer yr arolwg, felly nid yw pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal preswyl yn cael eu cynnwys. Mae hyn yn golygu y bydd amcanion am gyflyrau sy'n fwy cyffredin ymhlith y rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal yn rhy isel.

Data gofal sylfaenol

Ar gyfer rhai cyflyrau iechyd, gall nifer y bobl ar gofrestrau clefydau meddygon teulu fod yn ffynhonnell arall o ddata. Mae’r rhain yn cynnwys y rhai mewn cartrefi preswyl.

Gall y rhain roi darlun cliriach i ni o nifer achosion rhai cyflyrau. Ond gallai hefyd fod yn rhy uchel, felly efallai y byddai Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dal i fod yn fwy defnyddiol. 

Er enghraifft, yn ôl astudiaeth yn defnyddio data gweinyddol o ysbytai a gofal sylfaenol yng Nghymru, roedd cyfraddau uchel iawn o gydafiechedd. Cydafiechedd yw pan fydd pobl yn byw gyda dau salwch cronig neu fwy, sy'n effeithio ar 75.6 y cant o bobl 70 i 79 oed yng Nghymru. 

Wrth ddiweddaru rhagamcanion, mae'n debygol y bydd angen i ni wneud penderfyniadau ynghylch pa ffynonellau data rydyn ni’n defnyddio.

Data ysbyty

Ffactor risg arall ar gyfer mynediad i gartrefi gofal yw torri esgyrn, yn enwedig y glun, sy'n gysylltiedig yn bennaf â chwympiadau. 

Mae data cleifion mewnol ysbytai ar gael ond nid yw wedi’i ddadansoddi yn ôl oedran. Nid yw data o'r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Dorri Clun wedi'i gyhoeddi yn ôl oedran ar gyfer Cymru ac ni fydd yr Adroddiad Blynyddol nesaf ar gael tan fis Medi 2025.

Gallai cyhoeddi'r data hwn yn rheolaidd wneud gwaith tebyg i ragamcanion o effaith toriadau clun ar iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol fel sy’n cael ei gwneud yn yr Alban.

Sut gallen ni ddatblygu'r rhagamcanion?

Wrth siarad â defnyddwyr y rhagamcanion, gwelon ni bod y cwestiynau y maen nhw’n ceisio eu hateb angen rhywbeth mwy cymhleth na dim ond nifer yr unigolion â chyflwr yn y dyfodol.

Gallai darganfod pa gwestiynau y mae pobl ym maes gofal cymdeithasol eisiau help i'w hateb ein galluogi i ddarparu rhagamcanion mwy defnyddiol. Fel rhan o hynny, gallen ni nodi'r data a'r ymchwil perthnasol, neu'r bylchau o ran tystiolaeth.

Er mwyn cael mynediad at y data y gallai fod ei angen arnom, gallen ni weithio gyda pherchnogion data ym maes iechyd ac addysg i gyhoeddi data wedi'i ddadansoddi yn ôl oedran a/neu ardal leol yn fwy rheolaidd. Gallen ni hefyd ddatblygu rhestr o gwestiynau ymchwil pellach ac anghenion data yn benodol ar gyfer rhagamcanion gofal cymdeithasol.

Maes arall i'w wella yw rhannu adnoddau sy'n ymwneud â rhagamcanion. Gallai fod yn dudalen sy’n rhoi trosolwg o’r rhagolygon ar y porth a chreu canllaw ar gyfer rhagamcanion. Gallai adnoddau gynnwys gwybodaeth dechnegol ar gyfer ffynonellau penodol o achosion ac amlder, trafodaeth am y gwahanol fathau o ddata a dolenni i ymchwil a data perthnasol. 

Opsiwn arall yw archwilio ffyrdd o ychwanegu adnoddau cynllunio senarios i'r porth. Gallai hyn roi cyfle i bobl ddadansoddi rhagamcanion yn ôl gwahanol grwpiau poblogaeth neu drwy edrych ar effaith syniadau polisi penodol.

Ewch i'r porth data

Ewch draw i Borth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru i gael golwg.

Cysylltwch

Ydych chi'n defnyddio'r data rhagamcanion ar y porth? Beth fyddai'n ddefnyddiol i chi o ran deall anghenion gofal cymdeithasol yn y dyfodol? Sut allwn ni wella'r data rhagamcanion rydyn ni'n eu cynnig? 

E-bostiwch eich sylwadau i data@socialcare.wales.

Pinned contacts

Claire Miller

Claire Miller

Arweinydd y Porth Data Cenedlaethol

data@gofalcymdeithasol.cymru

Rwy’n gyfrifol am gynnal a datblygu’r Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol. Fy ngwaith i yw casglu data o wahanol ffynonellau fel Llywodraeth Cymru neu Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y porth a defnyddio’r data hwnnw i greu cynnwys ystyrlon a defnyddiol. Gweithiais fel newyddiadurwr data ar draws papurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol yn y DU cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Tachwedd 2022. Ar ôl dechrau fel gohebydd ar bapur wythnosol lleol yng Nghaint, ymunais â WalesOnline yn 2010. Tra’n gweithio yn WalesOnline lansiais y Datastore – storfa ar gyfer y data a’r graffeg yn ymwneud â straeon a gyhoeddir mewn papurau newydd Cymreig. Yn ddiweddarach, gweithiais fel olygydd Uned Data Reach ar ôl bod yn allweddol wrth ei sefydlu a'i datblygu. Mae’r uned yn cynhyrchu prosiectau newyddiaduraeth data manwl a chynnwys rhyngweithiol sy’n cael eu cyhoeddi ar draws teitlau cenedlaethol a rhanbarthol Reach.