Skip to Main content

Dod o hyd i'r cymorth cywir: sesiynau galw heibio arloesedd gyda staff arloesedd a gwella Gofal Cymdeithasol Cymru

29 Awst 2025

Dewch i ddarganfod sut y gallwn ni eich cefnogi i ddatblygu a gwella eich ymarfer a'r gwasanaethau rydych chi'n eu darparu.

Yn ystod mis Medi a mis Hydref byddwn ni'n cynnal cyfres o sesiynau galw heibio i roi mwy o wybodaeth i chi am sut rydyn ni'n cefnogi arloesedd ym maes gofal cymdeithasol. 

Yn y sesiynau anffurfiol hyn, bydd ein staff arloesedd a gwella wrth law i gynnig cyngor a'ch cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth yn y sefydliad.

Ar gyfer pwy mae'r sesiynau hyn

Mae’r sesiynau hyn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac sydd â diddordeb yn y cymorth rydyn ni’n ei gynnig i ddatblygu a gwella ymarfer a gwasanaethau. 

Efallai bod gennych chi broblem neu syniad penodol hoffech chi gael cymorth ag ef, ond ddim yn gwybod pa un o’n gwasanaethau sy’n iawn i chi. Neu efallai hoffech chi gael gwybod mwy am gynnig cymorth penodol. 

Gall ein staff eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth rydych chi’n chwilio amdano. 

Pwy fydd wrth law

Yn ystod y sesiynau hyn cewch gyfle i gwrdd â staff o bob rhan o Ofal Cymdeithasol Cymru.

Byddan nhw'n ateb eich cwestiynau am y gefnogaeth y mae eu timau yn ei gynnig, ac yn eich cyfeirio at y gefnogaeth sydd ar gael gan dimau eraill.

Ymhlith y staff a fydd yn ymuno â ni yn ystod y gyfres mae:

Angharad Dalton, Rheolwr Anogaeth Arloesedd – Mae Angharad yn arwain ein gwasanaeth anogaeth arloesedd, sy'n roi mynediad i chi at anogwr a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich syniadau i wella ymarfer, prosesau, gwasanaethau a chanlyniadau.   

Kate Newman, Swyddog Datblygu Iechyd a Llesiant – Bydd Kate wrth law i ateb eich cwestiynau am gefnogi llesiant y gweithlu a datblygu sgiliau hyfforddi.  

Sophie Bennett, Rheolwr Cymorth i Gyflogwyr – Mae Sophie yn arwain ein tîm cymorth i gyflogwyr a gall ateb cwestiynau am ein 'cynnig i gyflogwyr', sef casgliad o gymorth ac adnoddau rydyn ni wedi'u creu a'u tynnu at ei gilydd ar gyfer cyflogwyr.  

Elle Henley, Rhiannon Wright a Lilla Vér - Rheolwyr Cymunedol – Bydd ein rheolwyr cymunedol yn gallu darparu mwy o wybodaeth am ein gwasanaeth cymorth a datblygiad cymunedau ymarfer, sy'n cefnogi pobl i archwilio dull cymunedol o fynd i'r afael â heriau gofal cymdeithasol.  

Emma Davies, Rheolwr Gwella a Datblygu – Mae Emma yn arwain ein gwaith ar greu diwylliannau cadarnhaol a gall ateb cwestiynau sy'n ymwneud â thyfu diwylliannau cadarnhaol mewn lleoliadau gofal.  

Tara Hughes, Swyddog Ymchwil – Bydd Tara ar gael i gynnig gwybodaeth am sut y gall sefydliadau rannu data sy'n cael ei gasglu yn rheolaidd i gefnogi ymchwil.

Aimee Twinberrow, Arweinydd Arloesedd Digidol – Bydd Aimee yn gallu ateb ymholiadau am ddeallusrwydd artiffisial (AI), arloesedd digidol a thrawsnewid digidol.

Pryd mae'r sesiynau?

Rydyn ni'n cynnal y sesiynau hyn rhwng 10am a hanner dydd bron pob dydd Gwener ym mis Medi a Hydref

Byddwn yn cynnal sesinau ar:

12 Medi - Cliciwch i ehangu

Yn ymuno â ni fydd:

  • Angharad Dalton, Rheolwr Anogaeth Arloesedd
  • Elle Henley and Lilla Vér - Rheolwyr Cymunedol
  • Emma Davies, Rheolwr Gwella a Datblygu
  • Tara Hughes, Swyddog Ymchwil
19 Medi - Cliciwch i ehangu

Yn ymuno â ni fydd:

  • Angharad Dalton, Rheolwr Anogaeth Arloesedd
  • Sophie Bennett, Rheolwr Cymorth i Gyflogwyr
  • Rhiannon Wright a Lilla Vér, Rheolwyr Cymunedol
  • Emma Davies, Rheolwr Gwella a Datblygu
  • Tara Hughes, Swyddog Ymchwil
26 Medi - Cliciwch i ehangu

Yn ymuno â ni fydd:

  • Angharad Dalton, Rheolwr Anogaeth Arloesedd
  • Sophie Bennett, Rheolwr Cymorth i Gyflogwyr
  • Elle Henley and Rhiannon Wright, Rheolwyr Cymunedol
  • Aimee Twinberrow, Arweinydd Arloesedd Digidol
3 Hydref - Cliciwch i ehangu

Yn ymuno â ni fydd:

  • Angharad Dalton, Rheolwr Anogaeth Arloesedd
  • Kate Newman, Swyddog Datblygu Iechyd a Llesiant
  • Elle Henley and Rhiannon Wright, Rheolwyr Cymunedol
  • Emma Davies, Rheolwr Gwella a Datblygu
  • Aimee Twinberrow, Arweinydd Arloesedd Digidol
10 Hydref - Cliciwch i ehangu

Yn ymuno â ni fydd:

  • Angharad Dalton, Rheolwr Anogaeth Arloesedd
  • Kate Newman, Swyddog Datblygu Iechyd a Llesiant
  • Rheolwyr Cymunedol
17 Hydref - Cliciwch i ehangu

Yn ymuno â ni fydd:

  • Angharad Dalton, Rheolwr Anogaeth Arloesedd
  • Sophie Bennett, Rheolwr Cymorth i Gyflogwyr
  • Elle Henley and Lilla Vér, Rheolwyr Cymunedol
24 Hydref - Cliciwch i ehangu

Yn ymuno â ni fydd:

  • Angharad Dalton, Rheolwr Anogaeth Arloesedd
  • Kate Newman, Swyddog Datblygu Iechyd a Llesiant
  • Elle Henley and Lilla Vér, Rheolwyr Cymunedol

Ni fydd pob aelod o staff ar gael ar bob dyddiad. Cliciwch ar y dyddiadau uchod i ddarganfod pwy fydd ar gael pryd.

Ymunwch â sesiwn

Cwblhewch ein ffurflen ar-lein i sicrhau eich bod yn derbyn dolen ar gyfer y sesiwn sydd fwyaf cyfleus i chi.

Mae'r sesiynau'n agored, yn anffurfiol ac yn anstrwythuredig. Gallwch ymuno ar unrhyw adeg rhwng 10am a hanner dydd.