Skip to Main content

Dod o hyd i’r cymorth cywir: ymunwch ag un o’n sesiynau galw heibio arloesedd

08 Mehefin 2026

Dewch i ddarganfod sut y gallwn eich cefnogi i ddatblygu a gwella eich ymarfer a’r gwasanaethau rydych yn eu darparu.

O fis Mehefin ymlaen, byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd i roi mwy o wybodaeth i chi am sut rydyn ni'n cefnogi arloesedd ym maes gofal cymdeithasol.

Yn y sesiynau ar-lein hyn, bydd Angharad Dalton, ein Pennaeth Gallu ac Anogaeth Aroloesedd, wrth law i gynnig cyngor ac i’ch cyfeirio at gymorth perthnasol Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae’r sesiynau’n agored, yn anffurfiol ac heb strwythur. Os ydych chi'n chwilfrydig ynghylch pa gymorth sydd ar gael neu eisiau archwilio syniadau newydd, hoffem yn fawr i chi ymuno â ni.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau hyn?

Mae’r sesiynau hyn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sydd â diddordeb yn y cymorth rydyn ni'n ei gynnig i ddatblygu a gwella ymarfer a gwasanaethau.

Efallai fod gennych her penodol neu syniad yr hoffech help gydag ef ond nad ydych yn siŵr pa un o’n cynigion cymorth sy’n addas i chi. Neu efallai eich bod am ddysgu mwy am gynnig penodol.

Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth sy’n iawn i chi.

Pryd mae’r sesiynau?

Rydyn ni wedi trefnu pedair sesiwn rhwng nawr a diwedd mis Hydref, gyda mwy i ddilyn.

Bydd pob sesiwn yn rhedeg o 10am tan ganol dydd. Nid oes angen i chi aros am y sesiwn gyfan – galwch heibio ar unrhyw adeg.

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal ar:

  • 24 Mehefin
  • 29 Gorffennaf
  • 30 Medi
  • 28 Hydref

Ymunwch â sesiwn

Cwblhewch ein ffurflen ar-lein i sicrhau eich bod yn derbyn dolen ar gyfer y sesiwn o’ch dewis.

Cyswllt allwedol

Angharad Dalton

Angharad Dalton

Pennaeth Gallu ac Anogaeth Arolesedd

angharad.dalton@gofalcymdeithasol.cymru

Rwy’n edrych ar ôl ein gwasanaeth anogaeth arloesedd.

Rydyn ni'n cefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sy'n ceisio gwella'r ffordd y maen nhw'n darparu gofal trwy eu helpu i brofi syniadau newydd, datblygu ffyrdd newydd o weithio neu addasu'r hyn sy'n gweithio mewn mannau eraill.

Mae fy nghefndir yn amrywiol, ond mae'r llinyn aur sy'n rhedeg trwy fy ngyrfa yn canolbwyntio ar wneud bywyd yn well i bobl.

Rwyf wedi bod yn is-gadeirydd Cwmpas, a gweithiais fel rheolwr rhaglen i Nesta yn cefnogi arloesedd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Rwyf hefyd wedi datblygu polisi iechyd ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig, a gwaith allgymorth ledled Cymru ar gynhwysiant digidol sy’n canolbwyntio ar stori.

Roeddwn yn rhan o’r tîm sefydlu y tu ôl i Ysgol Fasnach Caerdydd, ac yn rhan o Think ARK – cydweithfa dylunio cymdeithasol.