Skip to Main content

“Does neb yn gwybod beth rydyn ni’n ei wneud”: y stori gudd am y gwahaniaeth cadarnhaol y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud i fywydau pobl hŷn

02 Medi 2024

Ysgrifennwyd gan Paul Willis, Denise Tanner a Geraldine Nosowska

Yr Athro Paul Willis yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Cymdeithasol i Oedolion (CARE) ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae hefyd yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig. Fel rhan o’i swydd flaenorol fel Darllenydd ym maes Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bryste, roedd Paul yn ymwneud â chynnal yr astudiaeth Gwaith Cymdeithasol gyda Phobl Hŷn (‘SWOP’) yn Lloegr. Cafodd y gwaith ymchwil ei ariannu gan yr Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, a bu Prifysgol Birmingham, Prifysgol Bryste ac Effective Practice yn gweithio ar y cyd i roi cyngor a chyfarwyddyd gan banel o bobl hŷn â phrofiadau bywyd ym maes gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol.

Yn y blog hwn, mae'r awduron yn myfyrio ar y gwaith ymchwil hwn ac yn rhannu straeon gobeithiol am y cyfraniadau cadarnhaol y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud yn eu gwaith gyda phobl hŷn.

Deall gwaith gweithwyr cymdeithasol gydag oedolion hŷn

Pan fydd pobl yn meddwl am beth mae gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud, y peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl yw eu rôl yn diogelu plant, ac mae sylwadau negyddol yn y wasg wedi dylanwadu ar hyn. Mae ein gwaith ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth pobl hŷn a oedd yn cael cefnogaeth gan weithwyr cymdeithasol rhwng 2022 a 2023, ac mae'n datgelu sut mae gweithwyr cymdeithasol wedi gwella eu bywydau.

Mae'n waith pwysig gan fod diffyg dealltwriaeth, ofn, neu amheuaeth yn gallu atal pobl hŷn a’u gofalwyr rhag cael cymorth allweddol. Ac os bydd pobl o’r farn bod gwaith cymdeithasol gyda phobl hŷn yn llai hanfodol, gall hyn atal gweithwyr cymdeithasol rhag dewis y maes gwaith cynyddol bwysig hwn.

" 'Rydych chi’n mynd â phlant oddi wrth deuluoedd.' Dyna’r cyfan rydyn ni’n ei wneud yn ôl y bobl yma. Drwy gydol fy ngyrfa, ’dw i heb weld yr un stori gadarnhaol am waith cymdeithasol." 

(Rheolwr tîm gwaith cymdeithasol)

Bu prosiect ymchwil Gwaith Cymdeithasol gyda Phobl Hŷn (SWOP) yn edrych ar 10 gweithiwr cymdeithasol wrth eu gwaith gyda phobl hŷn mewn dau awdurdod lleol yn Lloegr dros gyfnod o chwe mis. Fe wnaethom ni gyfweld â’r gweithwyr hyn, rhai o’r bobl a’r gofalwyr y maen nhw'n eu cefnogi, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill. Mae ein gwaith ymchwil yn taflu goleuni ar yr effaith (anweledig gynt) y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei gael.

Gallai unrhyw un fod angen gweithiwr cymdeithasol ar ôl heneiddio oherwydd salwch, anabledd neu eiddilwch. Gwelsom gweithwyr cymdeithasol yn cefnogi pobl hŷn i gael gafael ar gymorth urddasol, neu gynghori a thawelu meddwl unigolion a’u teuluoedd ynghylch opsiynau gofalu a chyllid, a chynnal hawliau a dymuniadau pan fydd rhywun yn methu gwneud penderfyniadau drosto’i hun.

"Hyd y gwela i, maen nhw’n cael lot o sylw negyddol - y gweithwyr cymdeithasol - ac mae hynny’n gwbl annheg yn fy marn i." 

(Person hŷn)

Yma, byddwn ni’n amlygu rhai o'r straeon cadarnhaol a gawsom drwy brosiect ymchwil SWOP am waith cymdeithasol gyda phobl hŷn.

Mae gweithwyr cymdeithasol yn gwella bywydau pobl hŷn

Gwelsom sut mae gweithwyr cymdeithasol yn cyfathrebu’n arbenigol ac yn defnyddio sgiliau perthynol i weithio ochr yn ochr â phobl hŷn a’u teuluoedd mewn cyfnodau o argyfwng, newid ac ansicrwydd, yn ogystal â chyfnodau o wrthdaro rhwng teuluoedd. Maen nhw’n canfod beth sydd ei angen, ac maen nhw’n cael yr adnoddau cywir, gan weithredu fel galluogwyr a thywyswyr.

"Cafodd Mam ei thrin yn gyfartal ganddi, fel person heb ddementia. Doedd Mam byth yn cael ei bychanu ganddi." 

(Merch person hŷn yn siarad am weithiwr cymdeithasol)

Mae gweithwyr cymdeithasol yn cael eu hyfforddi hyd at o leiaf lefel gradd. Maen nhw’n defnyddio eu gwybodaeth arbenigol i ddeall a mynd i’r afael â heriau cymdeithasol, iechyd, cyllid ac ymarferol cymhleth sy’n wynebu pobl hŷn. Maen nhw’n gweithredu’r gyfraith i lywio systemau a phrosesau cymhleth. Maen nhw hefyd yn arwain ymchwiliadau ar sut mae diogelu rhywun rhag hunanesgeulustod a cham-drin ariannol.

Mae gweithwyr cymdeithasol wedi ymrwymo i gynnal lleisiau a hawliau pobl, a gweithio mewn partneriaeth â nhw.

"Roedd hi’n siarad yn agored am y ffaith mai ni ddylai wneud y penderfyniad… ond fe roddodd hi’r holl resymau... Mae hi wedi trefnu popeth i ni, gan gynnwys yr ochr ariannol… mae popeth wedi gweithio allan yn dda i ni." 

(Merch person hŷn yn siarad am weithiwr cymdeithasol)

RHAID I WEITHWYR CYMDEITHASOL WNEUD Y CANLYNOL: bod wrth law i gynnig cymorth pan fydd wir angen eu gwybodaeth a’u sgiliau penodol. Ac mae angen grymuso pobl hŷn i groesawu gwaith cymdeithasol, ac nid ei ofni.

Mae gweithwyr cymdeithasol yn dwyn ynghyd y cymorth y mae pobl hŷn ei angen, ac yn arbed adnoddau prin y GIG

Mae sefyllfaoedd pobl mewn bywyd yn effeithio ar eu hiechyd corfforol. Mae’r GIG yn chwarae rhan hollbwysig yn gofalu am iechyd corfforol pobl, ond gofal cymdeithasol sy’n cynnig y potensial i fyw bywyd ag urddas a rheolaeth.

Mae gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda darparwyr gofal iechyd a chydweithwyr eraill i drefnu cymorth er mwyn i bobl hŷn aros gartref am gyfnod hirach neu ddychwelyd adref yn ddiogel o’r ysbyty. Maen nhw’n cefnogi a chysuro gofalwyr teuluol.

Maen nhw’n hwyluso’r broses o symud i gartref newydd os oes angen. Maen nhw hefyd yn eirioli dros hawliau pobl, ac yn cynghori gweithwyr proffesiynol eraill pan fydd y rheiny o bosibl – drwy bryderon gormodol yn ymwneud â risg – yn gyrru pobl hŷn i gartref gofal pan nad yw hynny’n briodol.

“Mae hi’n [y gweithiwr cymdeithasol] fedrus iawn yn rhoi tawelwch meddwl i bobl, boed hynny i’r cleifion neu’r perthnasau agosaf. Ac mae hi’n egluro pethau’n glir iawn. Mae hi’n agored iawn o ran beth rydyn ni’n ceisio ei wneud … mae hi bob amser yn eirioli, hyd yn oed pan fydd hyn yn golygu anghytuno… mae ganddi wybodaeth heb ei hail.” 

(Asesydd nyrsys mewn ysbyty)

RHAID I WEITHWYR CYMDEITHASOL WNEUD Y CANLYNOL: bod ar gael pan fydd gwasanaethau’n gweithio gyda phobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth, gan gynnwys ym maes gofal sylfaenol ac mewn ysbytai.

Mae gweithwyr cymdeithasol wrth eu bodd yn gweithio gyda phobl hŷn

Mae gweithwyr cymdeithasol yn gwerthfawrogi’r cyfle maen nhw’n ei gael gyda’u swydd i feithrin perthnasoedd â phobl hŷn, gwrando ar eu hanesion, a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

"Braint o’r mwyaf ydy cael gweithio gyda phobl. Ydy, mae’n fraint enfawr, ac rydw i wrth fy modd." 

(Gweithiwr cymdeithasol gyda phobl hŷn)

Fodd bynnag, maen nhw’n wynebu llawer o rwystrau rhag cyflawni gwaith da, a gall hynny gael effaith emosiynol fawr arnyn nhw.

Mae’r rhwystrau’n cynnwys baich gwaith uchel, prinder staff a gwasanaethau gofal, rhwystrau sefydliadol a gofynion gweinyddol. Mae hyn yn achosi i’r gweithwyr dreulio llai o amser â phobl hŷn. Mae gweithwyr cymdeithasol yn cael eu cymell gan oruchwyliaeth, rheolaeth a chymorth da gan gymheiriaid.

RHAID I NI WNEUD Y CANLYNOL: lleihau’r rhwystrau rhag cyflawni arferion da yn ymwneud â gwaith cymdeithasol, a rhoi hwb i’r galluogwyr i sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol yn dewis gweithio yn y maes diddorol a gwerth chweil hwn o waith cymdeithasol.

Eisiau gwybod mwy?

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar brosiect ymchwil Gwaith Cymdeithasol gyda Phobl Hŷn (SWOP).

Cyswllt allweddol

Yr Athro Paul Willis

Yr Athro Paul Willis

Cyfarwyddwr CARE

WillisP4@caerdydd.ac.uk
Mae Paul yn Athro ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion, yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig, ac ef yw Cyfarwyddwr cyntaf y Ganolfan Ymchwil Cymdeithasol i Oedolion (CARE) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae gwaith ymchwil Paul yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol a gofal yn hwyrach mewn bywyd, yn benodol ar gyfer pobl hŷn sy’n perthyn i’r grwpiau lleiafrifol sydd ag anghenion cymorth a gofal. Mae ei arbenigedd a’i ddiddordebau ymchwil yn cynnwys gofalwyr di-dâl ac ynysigrwydd cymdeithasol, pobl LHDTC+ yn heneiddio, gwaith cymdeithasol gyda phobl hŷn, ac arferion a gwasanaethau cynhwysol ym maes gofal cymdeithasol.