Skip to Main content

Dulliau sy'n ysbrydoli a chefnogi gofal sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd

27 Tachwedd 2024

Ar ôl ymweliad astudio diweddar i weld y dull rhydd ar waith yn Northumbria, aeth Emyr Williams, ein harbenigwr gwerthuso, i gynhadledd ar weithio perthynol a Systemau Dysgu Dynol (HLS). Mae'r profiad wedi ysbrydoli’r blog hwn.

Deall y termau

Efallai bydd rhai o’r dulliau sy'n cael eu disgrifio yn ddieithr i chi. Dyma ddiffiniadau cryno.

Systemau dysgu dynol (HLS)

Mae HLS (sef Human Learning Systems) yn ymagwedd at reolaeth gyhoeddus, sy'n golygu rheolaeth sefydliadau cyhoeddus. Cafodd ei ddatblygu gan grŵp o academyddion a phartneriaid o fewn y sector cyhoeddus. Mae'n ddull sy'n helpu ni i weithio'n effeithiol o fewn amgylchedd cymhleth.

Y dull rhydd

Mae'r dull rhydd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn seiliedig ar egwyddorion HLS. Cafodd ei ddatblygu gan Changing Futures Northumbria. Mae'n canolbwyntio ar berthnasoedd, dysgu a hwyluso creadigrwydd a thosturi gweithwyr rheng flaen i ymateb i anghenion unigolion mewn amgylchedd cymhleth.

Gweithio perthynol

Ystyr y term hwn yw gwaith cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd sy’n cydnabod yr unigolyn. Mae’n ystyried y person cyfan ac yn adeildau ar gryfderau a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’n hybu hyder a gwytnwch.

Theori cymhlethdod

Mae’r theori yma yn deillio o astudio systemau addasol cymhleth. Mae hyn yn golygu systemau sy’n cynnwys darnau sy’n cysylltu a chydweithio er mwyn addasu i amgylchedd sy’n newid. Mae modelau rheoli traddodiadol yn rhoi ffocws ar berthnasoedd arferol, sy’n dilyn trywydd achos ac effaith. Mewn cymhariaeth, mae theori cymhlethdod yn cydnabod bod e’n anodd rhagweld pethau o fewn systemau fel gofal cymdeithasol. Mae hyn oherwydd eu bod yn amrywiol ac yn esblygu’n gyson.

Sut gall y dulliau hyn gefnogi gofal cymdeithasol?

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn pwysleisio llesiant a helpu pobl deimlo rheolaeth drwy ddull perthynol sy’n rhoi’r ffocws ar gryfderau pobl.

Mae hyn yn cyd-fynd â HLS, sy’n pwysleisio perthnasoedd, dysgu parhaus a deall y system i wella bywydau pobl.

Yn 2023, dangosodd gwerthusiad o'r Ddeddf bod rhoi polisi ar waith yn gymhleth:

“…mae ein tystiolaeth yn awgrymu bod systemau a phrosesau traddodiadol sydd wedi ymwreiddio, sydd ddim yn gallu ymdopi gyda dulliau deinamig ac ymatebol gwaith cyd-gynhyrchiol, wedi ei llesteirio rhag gwireddu eu hamcanion.”

Roedd cynhadledd Northumbria’n ategu hyn, gan amlygu heriau creu amgylchedd priodol i weithio perthynol gyda'r systemau presennol. Roedd y rheolwyr ac uwch arweinwyr fues i’n arsylwi, hefyd yn adlewyrchu’r heriau hyn wrth ddefnyddio’r dull rhydd. 

Y nod yw gwneud gwaith gofal cymdeithasol yn wir berthynol ac wedi’i seilio ar gryfderau. Mae’n rhaid felly creu strwythurau rheoli a llywodraethu sy’n cydnabod a gwobrwyo hyn.

Sut mae dull HLS yn gweithio o fewn gofal cymdeithasol?

Mae gofal cymdeithasol yn gymhleth ac mae’n anodd mesur a monitro achos ac effaith syml. Mae hyn oherwydd bod llawer o ffactorau’n effeithio ar unigolion, sefydliadau a systemau.

Mae ffyrdd traddodiadol o fonitro ac adrodd yn aml yn rhwystro staff sydd am wneud gwahaniaeth cadarnhaol drwy ddarparu gofal a chymorth perthynol.

Mae theori cymhlethdod a dull HLS yn cydnabod gwerth systemau cymhleth. Mae HLS yn hyrwyddo strwythur rheoli sy’n annog gweithio perthynol drwy newid y pwyslais mewn monitro, adrodd a llywodraethu i gydnabod bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu mewn byd cymhleth.

“…nid yw canlyniadau go iawn bywydau pobl yn cael eu ‘cyflawni’ gan sefydliadau (neu brosiectau, partneriaethau, rhaglenni, ac ati). Mae canlyniadau'n cael eu creu gan gannoedd o ffactorau sy’n rhan o system gymhleth ac unigryw bywyd unigolyn.”

– Toby Lowe, Athro Rheolaeth Gyhoeddus yn Ysgol Fusnes Newcastle, Prifysgol Northumbria https://i2insights.org/2023/01/10/human-learning-systems/.

Felly, yn lle mesur effaith mewn ffordd draddodiadol, mae agwedd HLS yn dadlau bod angen canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig ac ar bethau y gallwn ni eu dylanwadu.

Mae hyn yn cynnwys adeiladu perthnasoedd, deall y system a pharhau i fapio ein dysgu er mwyn gwella canlyniadau.

Sut gall gofal cymdeithasol fabwysiadu'r egwyddorion hyn?

Mae defnyddio dull HLS mewn ffordd effeithiol ym maes gofal cymdeithasol yn golygu newid y ffordd mae timau a sefydliadau cyfan yn adrodd ac yn sicrhau ansawdd.

Mae'n rhaid i'r dull hwn gael ei gydnabod a'i werthfawrogi gan y sefydliad cyfan a'i holl brosesau atebolrwydd.

Mae hyn yn ein symud o ddiwylliant sy’n cael ei yrru yn bennaf gan broses i un sy’n rhoi pwyslais ar dyfu perthnasoedd, deall y system a rhannu dysgu. A bod hyn yn cael ei adlewyrchu a’i annog ar bob lefel.

Gall ddefnyddio dull HLS mewn gofal cymdeithasol greu newid enfawr, yn enwedig yn y tri maes yma:

Llywodraethu: cysylltu pobl, sefydliadau, a'r system

Fel arfer, mae llywodraethu wedi ei selio ar oruchwylio a rheoli. Mae’n sicrhau bod unigolion a sefydliadau yn cydymffurfio â rheolau ac yn cyrraedd eu targedau.

Ond yn aml nid yw llywodraethu fel hyn yn ymateb i realiti gofal cymdeithasol ac mae’n gallu atal pobl sy'n gweithio yn y maes rhag meithrin perthnasoedd effeithiol.

Mae dull HLS yn ein herio i feddwl yn wahanol am lywodraethu ac atebolrwydd.

Gallwn ni wneud hyn drwy:

  • creu system fwy unedig a hyblyg sy'n atebol am berthnasoedd a dysgu
  • rheoli gweithwyr gofal cymdeithasol mewn ffordd sy'n adlewyrchu arfer perthynol ac adfyfyriol
  • gwreiddio dull o oruchwylio sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.

Cyfarch ansicrwydd ac annog arbrofi

Mae systemau gofal cymdeithasol yn cael eu heffeithio'n gyson gan ffactorau sy’n anodd eu rhagweld.

Er enghraifft, newidiadau demograffeg, amodau economaidd, ac amgylchiadau personol pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth.

Yn hytrach na cael gwared ar yr ansicrwydd hwn, mae HLS yn ein hannog i'w groesawu.

Gallwn ni wneud hyn drwy:

  • annog arbrofi ac arloesi ar bob lefel
  • addasu a dod o hyd i ffyrdd effeithiol o rannu ein dysgu ar draws y sector
  • gwneud strwythurau llywodraethu yn fwy ystwyth a rhoi mwy o bwyslais ar ddysgu a fod yn hyblyg.

Gwerthuso a dysgu: myfyrio a gwella parhaus

Mae dulliau gwerthuso traddodiadol yn aml yn canolbwyntio ar fesur allbynnau neu ddeilliannau, gan ddefnyddio data i bennu llwyddiant neu fethiant. Ond mae HLS yn annog dull gwahanol, sy’n seiliedig ar fyfyrio a dysgu parhaus. 

Mae’r broses o ddysgu a gwella yn ein cefnogi i addasu i amgylchedd cymhleth fel gofal cymdeithasol. Mae'n ffordd i ni sicrhau ein bod bob amser yn symud tuag at ganlyniadau gwell i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

Gallwn ni wneud hyn drwy:

  • sicrhau bod gwerthuso’n broses barhaus sy'n nodi ein dysgu drwy gydol prosiect neu raglen
  • cyd-gynhyrchu arferion gwerthuso
  • nodi ble mae angen newidiadau i wasanaethau a rhoi digon o amser i fyfyrio ar y newidiadau sydd eu hangen.

Symud ymlaen ac adeiladu ar arferion presennol

Mae HLS, y dull rhydd a theori cymhlethdod yn gallu cefnogi gweithio perthynol. Ac mae’n fy nharo gymaint o hyn sy’n teimlo fel estyniad naturiol o’r hyn rydyn ni eisoes yn ei wneud ym maes gofal cymdeithasol.

Does dim angen i ni ddechrau o’r dechrau. Rhaid bod yn fwy pwrpasol yn y ffordd rydyn ni’n cefnogi ac yn gwobrwyo gwaith perthynol drwy ein strwythurau rheoli a llywodraethu. Mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n parhau i ddysgu ac yn oedi i feddwl am sut mae pethau’n effeithio ar y system ehangach. Bydd llawer ohonoch chi’n gweithio fel hyn yn barod. Ond ydy eich dulliau monitro, adrodd a llywodraethu yn adlewyrchu hyn mewn gwirionedd?

Ers y gynhadledd, mae nifer o bobl wedi tynnu sylw at hyn o fewn eu sefydliadau. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda rhai rheolwyr ym maes sicrhau ansawdd i edrych ar bosibiliadau newid y sefyllfa. A thrwy hynny nodi lle mae cyfle i wella prosesau ac atebolrwydd er mwyn helpu gwaith perthynol i ffynnu.

Cysylltwch â ni!

Ydy'r blog hwn yn adlewyrchu eich profiadau chi? A ydych chi wedi dod o hyd i unrhyw rwystrau yn eich systemau a'ch prosesau eich hun sy'n atal gweithio perthynol? 

Oes gennych chi unrhyw lwyddiannau i'w rhannu? Rydyn ni’n croesawu eich barn a'ch adborth yn fawr.

Dysgwch mwy am ein cefnogaeth gwerthuso.

Dewch o hyd i ddulliau sy'n arbrofi ac arloesi ar ein porwr prosiectau.

Awdur y blog

Emyr Williams

Emyr Williams

Uwch arweinydd gwerthuso

ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru

Rwy'n teimlo'n angerddol am bwysigrwydd gofal cymdeithasol a'r gwahaniaeth mae'n gallu gwneud i fywydau pobl. Dyna'r rheswm rwy'n cefnogi gwerthuso i'ch helpu chi i ddysgu, ac i ddangos yr effaith rydych chi'n ei chael ar fywydau pobl. Mae gen i dros 15 mlynedd o brofiad o ddangos effaith ar draws amrywiaeth o feysydd polisi cymdeithasol. Fues yn gweithio ym maes darparu gwasanaethau rheng flaen i ddarparu cyngor polisi ar sail tystiolaeth i Lywodraeth Cymru. 

Mae fy mhrofiad blaenorol yn cynnwys rhedeg elusen ieuenctid, datblygiad cymunedol, cynnal ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac Y Lab, yn ogystal â chefnogi a gwerthuso effaith datblygiadau arloesol yn y sector cyhoeddus. Felly, os hoffech chi ddarganfod sut allai helpu eich gwaith, cysylltwch â fi am sgwrs anffurfiol. Gwnaf fy ngorau i helpu mewn unrhyw ffordd posibl.