Skip to Main content

Ein 10 blaenoriaeth ymchwil buddugol: pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion

08 Awst 2024

Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi bod gennym 10 blaenoriaeth ymchwil buddugol.

Rydyn ni wedi defnyddio dulliau ymgysylltu amrywiol dros yr wyth mis diwethaf i ddarganfod beth sydd gan wahanol grwpiau i'w ddweud am y broses bontio. 

Rydyn ni wedi cyrraedd y pwynt hwn yn dilyn proses dryloyw a gafodd ei hadolygu ar bob cam gan ein gweithgor a'n tîm ymroddedig, gan gynnwys ymchwilydd arbenigol ac arbenigwr gosod blaenoriaethau.

Ein proses

Roedd ein harolwg cyntaf yn fyw rhwng 17 Ebrill ac 8 Mai 2024. Rhoddodd yr arolwg, ynghyd â grwpiau trafod ychwanegol, 72 o ymatebion i ni gan wahanol randdeiliaid gan gynnwys ymarferwyr, cydweithwyr yn y trydydd sector a phobl sydd â phrofiad byw o'r broses naill ai fel person ifanc neu riant neu ofalwr.

Cafodd yr ymatebion eu dadansoddi. Edrychon ni ar ba ymchwil oedd eisoes yn bodoli o'r cwestiynau a oedd yn cael eu codi. Yna, aethon ni ati i gofnodi bylchau mewn gwybodaeth neu dystiolaeth i lunio rhestr hir o 44 cwestiwn, a'u rhoi mewn grwpiau thematig. Fe wnaethom hefyd gynnal rhai grwpiau trafod ychwanegol a chynnwys y wybodaeth yr oeddent yn gofyn amdani ar ein rhestr hir.

Cafodd yr ail arolwg ei gynnal am dair wythnos yn gynnar yn yr haf ac roedd gofyn i bobl flaenoriaethu 10 cwestiwn o'r rhestr hir. Fe wnaeth hyn ein helpu i gyrraedd y rhestr fer o 15 cwestiwn.

“Roedd hwn yn gyfle unigryw i weithio gydag ystod amrywiol o randdeiliaid, gan gynnwys pobl ifanc, gofalwyr, ymchwilwyr, a llunwyr polisi. Ein bwriad oedd nodi’r materion mwyaf brys a’r ansicrwydd yn y maes hwn. Roedd yr ymarfer wedi’i gynllunio a’i hwyluso’n dda, a dysgais lawer am wahanol safbwyntiau o brofiadau’r cyfranogwyr.

Byddwn yn argymell y math yma o ymarfer yn fawr i weithwyr gofal cymdeithasol eraill sydd am gael dweud eu dweud wrth lunio’r agenda ymchwil. Mae’n ffordd dda i wella’r canlyniadau ar gyfer y bobl rydyn ni'n eu cefnogi. Rwy’n edrych ymlaen i weld sut mae'r ymchwil yn datblygu a sut y gall lywio a gwella ymarfer gofal cymdeithasol." 

Jim Wright (Rheolwr Tîm Datblygiad a Chyfleoedd Dydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen)

Y 10 blaenoriaeth buddugol

Ar 7 Awst, cafodd ymarferwyr a phobl â phrofiad personol o bontio eu gwahodd i fynychu gweithdy terfynol i drafod y blaenoriaethau. Gofynnon ni iddyn nhw bleidleisio ar y cwestiynau roedden nhw'n teimlo oedd bwysicaf iddyn nhw.

Dyma'r 10 cwestiwn cafodd flaenoriaeth gan y rheiny a ddaeth i'r gweithdy:

  1. Beth yw'r ffordd orau o ddiwallu anghenion pobl ifanc pan fydd gwasanaethau oedolion yn cynnig cymorth gwahanol, neu lai o gymorth?
  2. Sut mae modd cefnogi pobl ifanc i wneud eu dewisiadau eu hunain am bontio, a beth sy’n digwydd ar ôl y broses bontio?
  3. Sut mae modd i bob asiantaeth a sefydliad sy’n gysylltiedig â chefnogi rhywun weithio gyda’i gilydd i gefnogi proses bontio dda?
  4. Sut gall rhieni a gofalwyr gael eu cefnogi gyda materion cyfreithiol a gwneud penderfyniadau yn ystod ac ar ôl y cyfnod pontio?
  5. Sut mae modd cydgynhyrchu cymorth ar gyfer cynllunio pontio (lle mae pobl a allai ddefnyddio gwasanaethau yn cydweithio â gweithwyr proffesiynol i'w creu)?
  6. Sut mae modd cefnogi pobl ifanc a rhieni/gofalwyr i eiriol drostyn nhw eu hunain/eu plant yn ystod cyfnodau pontio?
  7. Yn ystod y broses bontio, sut mae cefnogi pobl ifanc i ddeall pa wasanaethau y gallant gael mynediad atynt?
  8. Sut mae cost a chyllid gwasanaethau’n effeithio ar ba gymorth sy’n cael ei ddarparu yn ystod ac ar ôl y broses bontio, a beth sy’n gallu cael ei wneud i gefnogi buddiannau gorau unigolion?
  9. Sut mae modd cydbwyso trothwyon oedran ar gyfer cymorth gydag anghenion unigol fel bod cymorth yn cael ei ddarparu’n barhaus?
  10. Sut beth yw perthynas dda rhwng gwasanaethau plant ac oedolion? Sut mae modd cefnogi hyn yn y broses bontio, a sut mae hyn yn cyfrannu at brofiadau pontio da?

Cafodd y pump blaenoriaeth canlynol eu drafod yn ystod y gweithdy ond dim eu dewis ar gyfer y 10 buddugol:

11. Sut beth yw cynllunio da ar gyfer pontio? Pryd dylai'r broses gynllunio ddechrau, beth ddylai ddigwydd ar ba gamau, a beth sydd ei angen er mwyn gwneud hyn yn bosibl?
12. Beth yw'r ffordd orau i bontio ddiwallu anghenion pobl ifanc sy'n cael cymorth iechyd meddwl?
13. Beth yw'r ffordd orau i gymorth pontio ddiwallu anghenion pobl ifanc nad oes gaddyn nhw gymorth teuluol?
14. Sut gall gwybodaeth am y broses bontio fod yn hygyrch i bobl ifanc, rhieni a gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol?
15. Beth sydd angen ar bobl ifanc er mwyn iddynt allu cymryd rhan lawn yn y broses bontio?

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwn ni'n troi'r 10 blaenoriaeth ymchwil buddugol mewn i gwestiynau ymchwil. Byddwn ni'n eu defnyddio i ddethol themâu ar gyfer ein cyfres newydd o grynodebau tystiolaeth. Byddwn ni hefyd yn eu rhannu gyda chyllidwyr ac ymchwilwyr i annog mwy o ymchwil ar y pynciau hyn.

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth

Ewch i'n tudalennau ar bontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol gosod blaenoriaethau ymchwil.