
Mae'r Fframwaith adrodd stori ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru'n fyw!
Ynghyd â'n partneriaid yn y rhaglen Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP), rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod y Fframwaith adrodd stori ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru'n fyw.
Mae adrodd stori yn ein helpu i wneud synnwyr o'r byd a chysylltu â'n gilydd. Gall ein helpu i werthfawrogi'r pethau syml a gwneud pethau sy'n gymhleth, yn haws eu deall.
Sut gall adrodd stori gefnogi gofal cymdeithasol?
Mae'n ddefnyddiol mewn gofal cymdeithasol oherwydd gall:
- adeiladu perthnasoedd a dealltwriaeth trwy gyd-gynhyrchu
- helpu pobl i ymgysylltu â thystiolaeth a dysgu ohono
- cefnogi unigolyn neu dîm trwy heriau
- ein helpu i ddeall hanfod rhywbeth (gall hyn fod yn berthnasol i bobl a sefydliadau)
- dangos effaith gwaith
- dathlu ymarfer a denu a recriwtio'r bobl iawn, yn ogystal â'u cadw.
Beth sydd yn y fframwaith?
Mae'r adnodd yn cynnwys gwybodaeth am:
- fanteision adrodd stori
- ystyriaethau moesegol
- enghreifftiau a dulliau o ddefnyddio adrodd stori’n ymarferol ar gyfer llesiant, dysgu a datblygu, a hyrwyddo a recriwtio.

"Mae'n wych gallu cyfeirio pobl at fframwaith sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n cynnwys popeth sydd ei angen arnyn nhw i gynllunio, casglu a defnyddio straeon i wella canlyniadau i'r bobl maen nhw'n eu cefnogi.
Mae'n adnodd da iawn i unrhyw un sydd megis cychwyn. P'un a oes gennych chi ddiddordeb mewn casglu straeon ar gyfer llesiant, hyrwyddo neu werthuso, mae'r adnodd hwn ar eich cyfer chi."
- Natalie Coates-Pryor, Rheolwr Prosiect Gwerthuso ac Arloesi, Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Eisiau gwybod mwy?
Fframwaith adrodd stori ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.