Skip to Main content

Fy lleoliad PhD gyda Gofal Cymdeithasol Cymru

16 Ebrill 2025

Mae’r myfyrwraig PhD Amber Browne yn myfyrio ar ei phrofiad o leoliad gyda rhaglen gofal cymdeithasol Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru.

“Mae pontio ymchwil academaidd â gwaith sy’n seiliedig ar bolisi yn fwyfwy pwysig mewn gofal cymdeithasol. Ac mae’r profiad yma wedi cadarnhau i mi pa mor hanfodol yw ymchwil a data er mwyn gwella gwasanaethau.”

Beth yw'r cefndir?

Mae’r bartneriaeth rhwng YDG Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn hybu defnyddio data cysylltiedig i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer gofal cymdeithasol. Mae'n gwneud hyn drwy helpu pobl i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth o’r byd go iawn.

Rydw i wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm Ymchwil, Data ac Arloesi yng Ngofal Cymdeithasol Cymru. Maen nhw’n cymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â’r defnydd o ddata o fewn Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). A sut gall y data hyn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau. Maen nhw hefyd yn darparu canllawiau wedi’u teilwra i randdeiliaid ynglŷn â manteision a chymhlethdodau rhannu data. Roedd y broses gyfweld yn hygyrch a chefnogol. Ac mae eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth wedi ei gwneud hi’n llawer haws i mi setlo yn fy rôl.

Fel rhan o’m lleoliad, rydw i wedi gweithio ar osod blaenoriaethau ymchwil gofal cymdeithasol ac yn cysylltu â rhanddeiliaid i’w hannog i rannu data. Mae hefyd wedi golygu meddwl am y ffordd orau o gyfathrebu gwerth ymchwil data cysylltiedig drwy adroddiadau, trafodaethau, a deunyddiau ysgrifenedig. Mae wedi bod yn broses ddiddorol, ac mae wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o’r heriau a’r cyfleoedd sydd yn y sector.

“Yr hyn sy’n gwneud y lleoliad yma’n un mor werthfawr yw ei hyblygrwydd. Tra’n cefnogi prosiectau Gofal Cymdeithasol Cymru, rydw i hefyd yn cael cyfle i gysoni rhai tasgau â’m hymchwil PhD. Mae hyn yn creu cydbwysedd sy’n caniatáu i mi gymhwyso’r hyn rydw i’n ei ddysgu mewn amser real.”

Datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd

Mae'r lleoliad wedi bod yn gyfle gwych i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau drwy:

  • ddeall natur gymhleth caffael, cysylltu, a llywodraethu data: Yn y gorffennol roeddwn i’n ystyried data yn bennaf o safbwynt dadansoddi. Erbyn hyn rwy’n deall fod y broses o gaffael a chysylltu data yr un mor bwysig â’r ffordd rydyn ni’n ei ddehongli. Mae gan gysylltu data rôl hollbwysig i’w chwarae er mwyn canfod bylchau yn y gwasanaethau sy’n cael eu darparu a mynd i’r afael â heriau megis gofal tameidiog.
  • archwilio sut mae cyfathrebu effeithiol a gwaith tîm yn ein helpu i oresgyn heriau sy’n gysylltiedig â rhannu a defnyddio data:  Mae PhD yn daith eithaf unig. Mae’n rhoi arbenigedd technegol ac yn adeiladu rhwydwaith, ond nid yw’n eich paratoi’n llawn ar gyfer gweithio fel rhan o dîm mwy. Mae’r lleoliad hwn wedi darparu sylfaen hollbwysig er mwyn datblygu’r sgiliau hyn a deall natur gydweithredol ymchwil y tu hwnt i’r byd academaidd.
  • gymhwyso gwybodaeth am fethodoleg ymchwil i gwrdd ag anghenion sefydliad: Roeddwn i’n gallu cynnig cefnogaeth ymgynghorol i dîm o fewn Gofal Cymdeithasol Cymru i'w cefnogi i ddewis y strategaeth samplu fwyaf priodol er mwyn casglu data mewn adroddiad i’r llywodraeth.
  • dderbyn mentoriaeth, arweiniad a chefnogaeth gan gydweithwyr i'm helpu ddod i'r afael â chymhlethdod ymchwil gofal cymdeithasol: Mae eu dealltwriaeth a’u hanogaeth wedi cryfhau fy ymrwymiad i waith polisi sy’n seiliedig ar ddata ac wedi atgyfnerthu fy mrwdfrydedd i gyfrannu tuag at welliannau ystyrlon yn y maes hwn.
  • gymhwyso cysylltu data i’m thesis PhD fy hun: Rydw i wedi elwa o gael fy amgylchynu gan arbenigwyr data ac ymchwil. Rydyn ni wedi trafod SAIL ac wedi archwilio sut y gallai cysylltu data fynd i’r afael â bylchau mewn gofal lliniarol ym maes gofal cymdeithasol (fy maes arbenigedd i). 

“Mae’r lleoliad PhD wedi ehangu fy ngorwelion o ran y  broses ymchwil broffesiynol, yn enwedig caffael a chael mynediad at ddata. Rwy’n credu bod y profiad wedi fy ngwneud yn ymchwilydd gwell a byddaf yn mynd â’r gwersi hyn gyda mi ar fy nhaith fel ymchwilydd.”

Edrych i'r dyfodol

Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, roedd gen i ddiddordeb mawr mewn cysylltu data a’i botensial i wella’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu. Ond roedd fy nealltwriaeth o’r heriau ymarferol a’r ymdrechion cydweithredol sydd eu hangen er mwyn hwyluso newid sy’n seiliedig ar ddata yn gyfyngedig. Rwyf wedi dysgu am gymhlethdodau ymchwil data gweinyddol, pwysigrwydd gwaith tîm amlddisgyblaethol, a goblygiadau ymchwil ar gyfer polisi gofal cymdeithasol yn y byd go iawn.

Mae’r profiad hwn wedi rhoi hyder i mi barhau â gyrfa mewn gofal cymdeithasol ar ôl i mi orffen y PhD. Rydw i wedi cael cyfle i ymgysylltu â rhanddeiliaid, a chyfrannu at drafodaethau ar flaenoriaethau ymchwil. Ac rydw i wedi gweld sut mae ymchwil yn dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau. Erbyn hyn rwy’n teimlo bod gennyf  y sgiliau ymarferol a’r wybodaeth i symud o gwmpas y dirwedd ymchwil yn fwy effeithiol.

Awdur y blog

Amber Browne

Amber Browne

Rwy’n fyfyrwraig  PhD ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn cael fy ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ofal lliniarol i unigolion sydd â salwch meddwl difrifol. Mae’n edrych ar ba wybodaeth y mae arnyn nhw ei hangen a pha rwystrau y maen nhw’n eu hwynebu yn y sector gofal cymdeithasol. Fy nghefndir mewn gofal lliniarol a phrofedigaeth wnaeth fy arwain i’r maes hwn, ac rydw i’n gobeithio tynnu sylw at rôl gofal cymdeithasol mewn cefnogaeth diwedd oes.

Drwy fy ymchwil, datblygais ddiddordeb cryf mewn gwyddor data a chysylltu data er mwyn gwella dealltwriaeth o wasanaeth. Mae fy lleoliad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cadarnhau fy ymrwymiad i weithio ym maes ymchwil ar ôl gorffen y PhD. Yn bennaf, mae gen i ddiddordeb mewn parhau i edrych ar gysylltu data a sut i’w ddefnyddio i wella canlyniadau gofal cymdeithasol. Os bydd y cyfle’n codi, hoffwn i gyfrannu tuag at waith Gofal Cymdeithasol Cymru yn y dyfodol!