Skip to Main content

Gwasanaeth anogaeth ‘hynod o ddefnyddiol’ yn cefnogi model ymarfer newydd yn Rhondda Cynon Taf

09 Gorffennaf 2024

Fe wnaethon ni lansio ein gwasanaeth anogaeth arloesedd ym mis Medi 2023 i gefnogi pobl i wneud newid cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol.

Ers hynny, mae ein anogwyr wedi bod yn gweithio gydag unigolion a thimau ledled Cymru i roi eu syniadau ar waith.

Mae ein gwasanaeth anogaeth arloesedd dal ar agor ar gyfer ceisiadau. Os hoffech chi gael cefnogaeth gan ein anogwyr, gallwch roi gwybod i ni am eich prosiect trwy lenwi ein ffurflen ar-lein.

Yma, mae Kate Aubrey, Rheolwr Arweiniol Ymarfer yng ngwasanaethau plant Rhondda Cynon Taf, yn disgrifio sut mae ein gwasanaeth anogaeth wedi ei helpu i ddatblygu model ymarfer newydd.

Lle gwych i ddechrau

Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl pan wnes i gofrestru ar gyfer anogaeth. Do’n i erioed wedi profi anogaeth o’r blaen, ond o’r sesiwn gyntaf mae wedi bod o gymorth mawr i mi.

Mae ein annogwr yn garedig ac yn dosturiol, a oedd yn golygu ei bod yn hawdd adeiladu perthynas ymddiriedus gyda hi. Mae ei hymagwedd wedi fy helpu i osod y prosiect hwn mewn ffordd sydd wedi’i strwythuro ac sy’n gwneud synnwyr, ac yn bwysicach fyth sy’n canolbwyntio ar ein plant, ein gofalwyr a’n teuluoedd. Rydw i wedi dod i deimlo’n llawer mwy hyderus am gyrraedd y nodau a osodais ar gyfer y prosiect.

Y dasg cafodd ei osod i mi yn fy rôl i ddechrau oedd sefydlu model ymarfer newydd ar draws ein timau gwaith cymdeithasol gwasanaethau plant a fyddai’n caniatáu i’n hymagwedd fod yn fwy seiliedig ar gryfderau, sydd wedi dangos ei fod yn darparu canlyniadau llawer gwell i’n plant a’n teuluoedd. Nid yw’n dasg hawdd yn yr hinsawdd bresennol o doriadau cyllidebol a phrinder gweithwyr cymdeithasol.

Mae bellach wedi datblygu’n ail gam, ac rydyn ni’n creu fframwaith ymddygiad i gefnogi ein timau a’n rheolwyr i ddeall sut mae’r model newydd hwn yn trosi i arfer. Mae hyn yn cael ei yrru gan yr adborth a gafwyd gan blant, teuluoedd ac ymarferwyr i sicrhau dull cydweithredol ystyrlon.

Beth rydyn ni wedi dysgu

Mae cael lle i fyfyrio, trafod syniadau a chael gweld offer sy’n caniatáu i mi weld y darlun ehangach wedi bod yn amhrisiadwy.

Mae hyfforddi wedi rhoi cyfle i mi nid yn unig ymarfer defnyddio offer, ond mae hefyd wedi rhoi adnoddau a dulliau i mi dw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi dod ar eu traws fel arall.

Rwy’n meddwl bod llawer i’w ddysgu gan sectorau eraill ac mae ystod eang o brofiad ein annogwr wedi fy ngalluogi i feddwl am y materion cyffredin ar draws sefydliadau sy’n gweithredu newid a’r rhai sy’n benodol i’n hamgylchiadau.

Meddyliau terfynol

Byddwn i'n argymell anogaeth i eraill yn llwyr. Mae’r anogaeth nid yn unig wedi fy nghefnogi gyda chynhyrchu model gwasanaeth newydd arloesol, ond hefyd ffordd arloesol newydd o’i wreiddio drwy ein fframwaith newydd. Mae'r fframwaith yn rhoi llais i’n plant, pobl ifanc a theuluoedd yn y ffordd rydyn ni’n ymddwyn ac yn gweithio gyda nhw fel proffesiynau gofal cymdeithasol, ond hefyd i ymarfer mewn ffordd sy’n gweithio gyda chryfderau’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

Mae’n deg dweud bod yr heriau o weithio ym maes gofal cymdeithasol yn sylweddol ar hyn o bryd, ac mae llawer o rwystrau a allai atal newid cadarnhaol. Ond mae’r amser a lle mae anogaeth yn cynnig i ystyried nodau a chamau gweithredu wedi cael effaith gadarnhaol ar yr hyn rydw i wedi gallu ei gyflawni gyda’r meysydd gwaith hyn.

Ymgeisiwch nawr

Gallwch roi gwybod i ni am eich prosiect drwy lenwi ein ffurflen ar-lein, neu cysylltwch â anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru i gael gwybod mwy.

Awdur y blog

Kate Aubrey

Kate Aubrey

Rheolwr Arweiniol Ymarfer, Gwasanaethau Plant RCT

Kate Aubrey yw Rheolwr Arweiniol Ymarfer yng Ngwasanaethau Plant Rhondda Cynon Taf. Mae ei rôl yn cynnwys ymchwilio a chefnogi gweithrediad model ymarfer newydd ar draws y gwasanaeth.