![Sarah Atkinson](https://insightcollective.socialcare.wales/assets/profile-images/Sarah-profile-picture.jpg)
Sarah Atkinson
Cydlynydd Tystiolaeth ac Ymgysylltu
ymchwil@gofalcymdeithasol.cymruRydyn ni'n cynnal yr ymarfer gosod blaenoriaethau ymchwil yma i ddysgu mwy am y rhwystrau, problemau ac ansicrwydd sy'n codi pan fydd pobl ifanc yn symud o wasanaethau gofal cymdeithasol plant i wasanaethau gofal cymdeithasol oedolion.
Ein nod yw darganfod ble mae'r bylchau ymchwil ynghylch y broses bontio hon. Er mwyn cyflawni hyn, rydyn ni'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion iau sy'n defnyddio gofal a chymorth, ynghyd â'u teuluoedd a gofalwyr.
Rydyn ni hefyd yn ymgysylltu â phobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a chydweithwyr eraill mewn awdurdodau lleol, iechyd, y byd academaidd a sefydliadau trydydd sector.
Rydyn ni eisoes wedi cynnal arolwg eleni ac wedi nodi adborth grwpiau trafod er mwyn casglu barn pobl. Mae'r amrywiaeth o ymatebion wedi ein helpu i nodi cwestiynau ymchwil.
Bellach, rydyn ni'n awyddus i gael cymorth i benderfynu ar y cwestiynau a fydd yn cael blaenoriaeth ar gyfer ymchwil y dyfodol gan ymateb i ddiffyg tystiolaeth a gwybodaeth am bontio.
Ydych chi wedi cael profiad o symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, naill ai fel person ifanc neu fel rhywun sy'n cefnogi person ifanc fel aelod o'r teulu, gofalwr neu weithiwr proffesiynol? Os felly, mae angen eich help i gytuno ar y 10 prif gwestiwn blaenoriaeth ar gyfer ymchwil ar y pwnc hwn.
Rydyn ni'n chwilio am bobl i gymryd rhan mewn gweithdy ar-lein i rannu eu profiadau a'u safbwyntiau.
Yn ddelfrydol, hoffwn ni ymgynnull pobl i adlewyrchu ystod eang o brofiadau a chefndiroedd.
Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal ar 7 Awst 2024 ar Zoom, rhwng 1pm a 4pm. Byddwn ni'n trefnu grwpiau trafod bach, bydd yn cael eu hwyluso gan aelod o'n tîm.
Gallwch chi gwblhau'r ffurflen datgan diddordeb neu anfon e-bost atom i nodi eich diddordeb: ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru.
Am ragor o wybodaeth ar yr ymarfer gosod blaenoriaethau ymchwil hwn ewch i'n tudalennau Pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion a Gosod blaenoriaethau ymchwil.
Cydlynydd Tystiolaeth ac Ymgysylltu
ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru