Skip to Main content

Gweithio gyda Thechnoleg Iechyd Cymru i ddatblygu canllawiau gofal cymdeithasol newydd

31 Mai 2024

Fel rhan o’n gwaith tystiolaeth ag arloesi, rydyn ni’n gweithio gyda Thechnoleg Iechyd Cymru (TIC) i helpu adnabod pynciau allweddol yng ngofal cymdeithasol i gael eu gwerthuso. Bydd y pynciau gwerthuso yn helpu arwain trywydd cyhoeddiadau canllawiau annibynol i helpu cefnogi gwaith gofal cymdeithasol yn y dyfodol yng Nghymru.

Gall y canllawiau gael eu defnyddio i helpu ymarferwyr a phenderfynwyr i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, a helpu gwella ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Canllawiau newydd ar gael

Gyda’n cefnogaeth ni, y ddau ganllaw cyntaf mae TIC wedi ei werthuso yw rhaglenni dwys i gadw teuluoedd gyda’i gilydd ac ymyriadau drwy adborth fideo. Mae’r canllawiau sydd wedi eu cyhoeddi ar y pynciau hyn yn cynnig gwybodaeth i ymarferwyr sydd yn cefnogi teuluoedd a phlant.

Mae rhaglenni dwys i gadw teuluoedd gyda’i gilydd yn ymyriadau dwys a byr-dymor gellir ei ddefnyddio gyda theuluoedd mewn cyfnod o argyfwng. Enghraifft o hyn yw’r risg o blentyn yn mynd mewn i ofal.

Mae ymyriadau drwy adborth fideo yn cefnogi plant a’u teuluoedd sy'n profi newid, neu mewn peryg o brofi niwed. Mae tystiolaeth sy’n cael ei gyflwyno yn y canllaw yn dangos fod rhieni sy’n defnyddio ymyriad adborth fideo yn profi gwelliannau mewn perthnasoedd teuluol a’u hyder fel rhieni.

Sut i gynnig pwnc

Gall unrhyw un gynnig pwnc, model neu dechnoleg gofal cymdeithasol i'w ystyried i werthuso.

Gall esiamplau gynnwys offer a dyluniadau amgylcheddol, neu wahanol fodel o wella gofal a chymorth i deuluoedd, plant, oedolion a’r gweithlu.

Unwaith mae pwnc wedi ei gytuno, bydd TIC yn edrych ar y model gofal, technoleg neu ddull drwy ymchwilio a gwerthuso’r dystiolaeth gorau sydd ar gael. Ar ôl i’r wybodaeth gael ei gymeradwyo gan banel o arbenigwyr pwnc, bydd TIC yn cyhoeddi canllawiau annibynnol i gefnogi ffyrdd newydd o weithio o fewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Dywedodd Lisa Trigg, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Data ac Arloesi: “Gall canllawiau wedi’u llywio gan dystiolaeth helpu pobl sy’n gwneud penderfyniadau i gynllunio ar gyfer ffyrdd newydd o weithio ar draws gofal cymdeithasol. Mae’n bwysig fod y pynciau sy’n cael eu cynnig ar gyfer canllawiau’r dyfodol yn ddefnyddiol, pwrpasol ag effeithiol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni'n falch o fod yn gweithio gyda TIC i lywio’r gwaith hwn.”

Dywedodd Dr Sudan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru: “Mae gan gyhoeddiad y canllawiau hyn y potensial i wneud gwahaniaeth mawr i deuluoedd sydd yn derbyn gofal a chymorth yng Nghymru.

“Mae Technoleg Iechyd Cymru yn cynhyrchu canllawiau cenedlaethol i gefnogi penderfyniadau wedi’u llywio gan dystiolaeth yng ngofal cymdeithasol.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gwybod am dechnoleg gofal anfeddygol a all gefnogi pobl sy’n derbyn gofal cymdeithasol yng Nghymru ei gynnig i'w Dechnoleg Iechyd Cymru i'w gwerthuso.”

Gallwch chi gynnig pwnc yw gwerthuso drwy lenwi’r ffurflen ar-lein TIC. I ddarganfod mwy am feini prawf y gwaith, ewch i wefan TIC.