Bydd Owen Davies, ein Rheolwr Data a Gwybodaeth, yn siarad yn y Digwyddiad Data Mawr sy’n cael ei chynnal gan yr Adnodd Data Cenedlaethol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar 24 Medi. Yn y blog hwn, mae Owen yn siarad am 'ddata mawr' a sut gallwn ni fanteisio'n llawn arno ym maes gofal cymdeithasol.
Efallai eich bod wedi clywed y term 'data mawr', ond beth yw ystyr y term?
Yn syml, mae data mawr yn derm sy'n disgrifio casgliad mawr iawn o ddata. Does dim angen i'r data gydymffurfio ag unrhyw safon. Mae'r data yn gallu bod yn strwythuredig neu'n anstrwythuredig. Mae'n gallu bod yn fideos neu'n ffotograffau hyd yn oed. Cyn belled â'i fod yn fawr, does dim ots. Hefyd, mae rhai pobl yn ei ddisgrifio fel data sy'n rhy fawr i'w brosesu trwy ddefnyddio dulliau traddodiadol.
Erbyn hyn, mae data mawr yn cynnwys rhai o'r adnoddau a'r dulliau dadansoddi sy'n cael eu defnyddio i 'gloddio' data er mwyn caffael gwybodaeth.
Rydyn ni’n byw yn yr oes ddigidol erbyn hyn. Mae sefydliadau yn casglu llawer iawn o wybodaeth bob tro rydyn ni’n derbyn gwasanaeth. Does dim ots beth yw'r gwasanaeth. Gallai fod yn archfarchnad sy'n casglu gwybodaeth am yr hyn rydych chi'n ei brynu trwy eich cerdyn teyrngarwch, yn wasanaeth ffrydio sy'n deall y mathau o ffilmiau rydych chi'n hoffi eu gwylio, neu'n ddarparwr gofal cymdeithasol sy'n cofnodi manylion y gwasanaethau rydych chi wedi'u defnyddio a'ch rhyngweithio â'r gwasanaethau hyn.
Yn draddodiadol, mae'r maes gofal cymdeithasol wedi dibynnu ar ddadansoddwyr data yn ysgrifennu adroddiadau, yn creu dangosfyrddau ac yn defnyddio amrywiaeth o wybodaeth reoli a dulliau gwybodaeth busnes er mwyn caniatáu i sefydliadau fonitro eu perfformiad a deall sut maen nhw'n gweithredu.
Ond mae'r dulliau hyn yn tueddu i fethu â datgloi llawer o'r wybodaeth sydd ar gael yn y data. Gallai'r wybodaeth hon gynnwys manylion pwysig iawn am dueddiadau neu batrymau mewn symiau enfawr o ddata, neu wybodaeth sy'n helpu i ddeall ein data anstrwythuredig. Mae'n gallu cynnwys elfennau nad oes modd eu prosesu'n hawdd trwy ddefnyddio adnodd fel Excel.
Mae'r byd yn symud o ddadansoddi data i wyddor data. Bydd lle bob amser i ddadansoddi data. Mae angen i ni fonitro'r hyn rydyn ni’n ei wneud a pha mor dda rydyn ni’n ei wneud, ond mae'n bwysig hefyd i ni ddysgu cymaint â phosibl o'r data sy'n cael ei gasglu gennym.
I wneud hyn, mae'n rhaid i ni gael yr adnoddau, y sgiliau i'w defnyddio, a'r polisi sy'n sicrhau ein bod yn gweithio mewn ffordd foesegol a chyfrifol gyda data pobl. Dydy’r maes gofal cymdeithasol ddim mewn sefyllfa i wneud hyn eto fel mater o drefn ac ar raddfa genedlaethol. Ond rydyn ni eisiau cyrraedd sefyllfa lle gallwn wneud mwy o ddefnydd o'n data.
Mae'r heriau o safbwynt data yn debyg iawn ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus. Felly, mae'n gwneud synnwyr i ni geisio mynd i'r afael â'r heriau hyn gyda'n gilydd.
Mae angen i ni greu rolau ar gyfer cenhedlaeth newydd o wyddonwyr data ym maes gofal cymdeithasol. Erbyn hyn, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cyflogi dau berson sydd â chefndir ym maes gwyddor data.
Fodd bynnag, dydy cael gwyddonwyr data yn eich sefydliad ddim yn ddigon. Mae angen mynediad at yr adnoddau, y data ac, yn bwysicaf oll, y canllawiau ar nodweddion gwyddor data gyfrifol. Dylen ni ddim fod yn gwneud y gwaith hwn ar ein pen ein hunain chwaith.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae ein tîm data wedi gweithio'n galed iawn i feithrin cysylltiadau â phobl o sefydliadau amrywiol ledled y maes iechyd a gofal. Mae cydweithio ar brosiectau yn hanfodol os ydyn ni am gyflymu ein dyheadau ym maes data.
Mae'r heriau o safbwynt data yn debyg iawn ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus. Felly, mae'n gwneud synnwyr i ni geisio mynd i'r afael â'r heriau hyn gyda'n gilydd, gan rannu profiad, sgiliau ac adnoddau er mwyn creu amgylcheddau lle mae modd rhoi gwyddor data ar waith a manteisio mwy ar y data rydyn ni’n ei gasglu.
Ar 24 Medi, byddaf yn rhoi cyflwyniad yn y Digwyddiad Data Mawr sy'n cael ei gynnal gan yr Adnodd Data Cenedlaethol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae'r digwyddiad hwn yn ymwneud â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n deillio o ddata mawr, a bydd yn canolbwyntio ar gydweithio.
Mae fy nghyflwyniad yn edrych ar sut y gallwn droi'r heriau yn gyfleoedd trwy weithio ar bethau gyda'n gilydd. Byddaf yn siarad am rai enghreifftiau da lle mae hynny wedi digwydd a sut rydyn ni wedi sefydlu prosesau sy'n gweithio'n dda.
Ond nid dim ond fi a fydd yn siarad yn y digwyddiad. Mae pedwar siaradwr arall yn cymryd rhan yn y digwyddiad ar-lein hwn a bydd ganddyn nhw bethau diddorol i'w dweud. Mae'r digwyddiad yn un di-dâl ac mae'n agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn data, yn enwedig gweithwyr data proffesiynol ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol, darparwyr, y byd academaidd a'r llywodraeth.
Mae gennym ni lawer i'w wneud o hyd i gyrraedd y sefyllfa lle mae gwyddor data a datblygiadau newydd fel dysgu peirianyddol a phrosesu iaith naturiol yn nodweddion cyffredin o'r maes gofal cymdeithasol. Ond mae angen i ni gynnwys cynifer o bobl â phosibl yn ein gwaith er mwyn creu'r momentwm sydd ei angen i gyrraedd y sefyllfa lle rydyn ni’n hyderus ein bod yn cael y gwerth gorau posibl o'n data.
Felly ymunwch â ni ar 24 Medi!