Yn y blog hwn mae Rachel Scourfield, ein Pennaeth Symudedd Gwybodaeth, yn rhannu ei myfyrdodau ar gynhadledd gyntaf Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) Rhondda Cynon Taf ym mis Mawrth.
Esboniad o dermau
Mae penderfynyddion iechyd yn cyfeirio at sut mae llawer o ffactorau yn dylanwadu ar ein hiechyd. Gall y rhain gynnwys ein hymddygiad, incwm, addysg, amodau byw a'r amgylchedd.
Pan fydd y rhain wedi'u dosbarthu'n anwastad, gallant greu gwahaniaethau annheg mewn iechyd rhwng cymunedau.
Daeth partneriaid, ymchwilwyr, aelodau o'r gymuned ac arweinwyr at ei gilydd yng Ngwesty Parc Treftadaeth y Rhondda ar gyfer diwrnod o drafod ac ysbrydoliaeth ac i ddathlu'r hyn y mae CYBI wedi cyflawni hyd yma.
Roedd hwyluswyr a siaradwyr nodedig yn cynnwys Paul Mee, yr Athro Kerry Hood, Ben Lewing, Marie Brousseau-Navarro, Zack Scott, yr Athro Dan Bristow, Simon James, Philip Daniels, Louise Davies, yr Athro Alisha Davies, a'r Athro Rhiannon Evans.
Roedd thema'r diwrnod yn glir: rydyn ni'n cael yr effaith fwyaf pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd. Bu'r neges hon yn adleisio drwy'r dydd gyda siaradwyr a thrafodaeth ysbrydoledig.
Cefndir
Roedd Rhondda Cynon Taf (RhCT) yn un o ddau gyngor yng Nghymru i sicrhau dyfarniad pum mlynedd o £5 miliwn gan Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) ym mis Hydref 2023. Y nod oedd ymgorffori diwylliant ymchwil o fewn yr awdurdod lleol er mwyn llywio penderfyniadau ar sail tystiolaeth, data a mewnwelediad lleol.
Mae CYBI yn gydweithrediad rhwng Cyngor RhCT, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Interlink RhCT ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Deall yr heriau
Nododd Prif Weithredwr y Cyngor, Paul Mee, realiti bywyd o fewn yr awdurdod lleol sef: anghydraddoldeb economaidd, cyfraddau uchel o salwch hir dymor, dirywiad sgiliau, a heriau amgylcheddol fel llifogydd a gwytnwch hinsawdd.
"Nid yw parhau i wneud yr hyn y mae cynghorau wedi'i wneud o'r blaen yn bosibl yn ariannol ac nid yw bellach yn diwallu anghenion newidiol y gymuned." - Paul Mee
Sut y mae CYBI wedi cefnogi newid?
Trwy gydol y dydd roedd pobl yn myfyrio ar sut mae cydweithio yn cymryd amser. Ond yn ogystal, dyma'r sbardun mwyaf pwerus sydd gennym ar gyfer newid cynaliadwy.
Disgrifiodd Ben Lewing, Cyfarwyddwr Making Evidence Work, hyn yn berffaith pan ddywedodd:
"Mae democratiaeth yn dod â ni i gyd at ein gilydd. Mae'n gallu bod yn araf ond mae gweithredu ar frys yn arwain at fynd ymlaen ar ein pen ein hunain."
Adeiladodd CYBI berthynas ar draws pob lefel o'r cyngor a thrwy gydol y gymuned. Daeth yn bresenoldeb ym mhob cyfarfod, gan gynnig cefnogaeth, gwybodaeth a sgiliau.
Dathlu'r cynnydd pwysig
Mae gweithio ar y cyd trwy CYBI wedi arwain at nifer o ddatblygiadau pwysig o fewn yr awdurdod lleol.
Mapio gwariant ataliol
Mae gwariant ataliol yn golygu buddsoddi'n gynnar i leihau'r angen am wasanaethau drud yn y dyfodol. Mae'n helpu cyrff cyhoeddus i ddefnyddio adnoddau cyfyngedig yn fwy effeithiol, lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau.
Mae CYBI wedi partneru â'r cyngor, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA) i wneud gwaith arloesol yn y maes hwn.
Disgrifiodd Marie Brousseau-Navarro, Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, wariant ataliol mewn tri cham:
- cynradd: mae'r dull hwn yn mynd i'r afael ag anghydbwysedd ar draws yr holl boblogaeth. Enghraifft o hyn fyddai darparu traciau beicio neu ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus.
- eilradd: mae hyn yn cyfeirio at grŵp neu adran o'r gymuned sy'n wynebu risg yn y dyfodol. Mae gwariant a ffocws yn y cyfnod hwn yn gallu atal problemau yn y dyfodol. Er enghraifft, gall hyn gynnwys gwaith atal tlodi plant CYBI a'r cyngor.
- trydyddol: dyma'r cam argyfwng. Mae'r ffocws wedyn yn troi at leihau niwed. Enghraifft yn RhCT yw prosiect Magu, sy'n atal gwahanu rhieni a'u babanod.
Tlodi plant: gweithio 'gyda' nid 'ar ran' cymunedau
Mae CYBI hefyd wedi helpu i ehangu Grŵp Tlodi Plant y cyngor i fod yn gydweithrediad traws-sector bywiog sydd wedi'i wreiddio mewn profiad byw.
Atgoffodd Ceri-Lynne Higgins, Ymgynghorydd Profiad Byw:
"Mae pobl mewn cymunedau eisiau bod yn rhan o'r ateb, nid cael eu gweld fel rhan o'r broblem yn unig."
Gyda'i gilydd, cynhyrchodd y grŵp adroddiad sy'n tynnu sylw at 18 argymhelliad, bob un wedi'u cefnogi gan dystiolaeth. Mae'r argymhellion hyn yn helpu i siapio gweithredu'r cyngor.
Un o'r argymhellion oedd datblygu cefnogaeth gyd-gysylltiedig ac urddasol ar gyfer anghenion hanfodol teuluoedd. Mae tystiolaeth academaidd yn awgrymu bod dulliau arian parod yn effeithiol wrth fynd i'r afael â thlodi, gyda thystiolaeth profiad byw yn tynnu sylw at bwysigrwydd perthnasoedd wrth gael mynediad at gymorth.
Prif bwyntiau
Y negeseuon pwysig a gymerais o'r diwrnod oedd:
- mae angen i bawb gyfrannu at newid go iawn
- mae angen buddsoddiad parhaus ar dystiolaeth a data
- mae cydweithio'n fodd i ni ddeall beth sy'n wirioneddol bwysig
- mae nodi problemau'n hawdd - mae eu datrys yn llawer mwy cymhleth.
Roedd yn amlwg erbyn diwedd y dydd bod CYBI yn fwy na phrosiect, roedd yn fudiad sy'n tyfu. Drwy'r gwaith hwn, gall RhCT ddefnyddio tystiolaeth i nodi effeithiau cadarnhaol ac ardaloedd gwaith ar gyfer y dyfodol.
Pan ddaw'r ariannu i ben, bydd diwylliant CYBI yn parhau i yrru penderfyniadau gwell, cymunedau cryfach a chanlyniadau iechyd tecach.