Gwnewch gais i fod yn Esiamplwr Bevan gyda chefnogaeth y Grŵp Gwybodaeth
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer rhaglen Esiamplwyr Comisiwn Bevan – a gall ein tîm anogaeth arloesedd eich cefnogi drwy’r broses ymgeisio.
Mae Comisiwn Bevan yn felin drafod iechyd a gofal blaenllaw sy'n cael ei chynnal a'i chefnogi gan Brifysgol Abertawe.
Mae ei raglen Esiamplwyr yn darparu mentora a hyfforddiant i helpu pobl i ddatblygu’r sgiliau i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o’r tu mewn.
Mae’r rhaglen yn cefnogi Esiamplwyr i brofi eu syniadau arloesol eu hunain dros gyfnod o 12 mis, gyda’r bwriad o gael effaith gadarnhaol ar brofiadau bywyd, canlyniadau gofal cymdeithasol ac iechyd, ac ar effeithlonrwydd gwasanaethau.
Thema eleni yw ‘cyflawni newid gyda’n gilydd’, a gallai’r prosiectau y byddwch yn eu cyflwyno gynnwys:
- cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd
- ffyrdd newydd o weithio
- modelau darparu gwasanaeth neu ymyriadau newydd
- mentrau datblygu sgiliau newydd
- dulliau arloesol eraill o gyflawni newid.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhaglen a sut i wneud cais ar wefan Comisiwn Bevan.
Mae ceisiadau yn cau ar 14 Gorffennaf.
Cefnogaeth gan y Grŵp Gwybodaeth
Fel cymhelliant ychwanegol i wneud cais am y rhaglen, rydyn ni’n cynnig cymorth i geisiadau gofal cymdeithasol trwy ein tîm anogaeth arloesedd.
Gall ein anogwyr helpu i'ch arwain trwy'r broses ymgeisio.
I gael gwybod mwy am sut y gallwn eich cefnogi yn ystod y broses ymgeisio, cysylltwch ag anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru.