Skip to Main content

Gyrru newid trwy ein sioeau teithiol ymchwil

13 Ionawr 2026

Y llynedd fe wnaethom gyflwyno pedair sioe deithiol ymchwil lwyddiannus ar Ddiogelu drwy’r cyfnod pontio, gan ennyn diddordeb ledled Cymru. 

Mae'r ymateb wedi bod yn wych - gyda phob Bwrdd Diogelu Rhanbarthol (RSB) yn gofyn am ei ddigwyddiad ei hun. 

Eleni, gyda dau ddigwyddiad ychwanegol, bydd ein tîm Symudedd gwybodaeth wedi partneru â phob un RSB.

Gwrando ar y sector

Mae gennym ddull syml: rydyn ni'n canolbwyntio ar bynciau y mae'r sector yn dweud ei fod am ddysgu mwy amdanynt. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymarferion gosod blaenoriaethau ymchwil y sefydliad ac yn ategu gwaith ein Tîm ymchwil, sy'n cynhyrchu crynodebau tystiolaeth ar y pynciau hyn.

Yn ddiweddar mae'r ffocws wedi bod ar feysydd blaenoriaeth ynghylch pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.

Dysgu ar daith

Mae'r sioeau teithiol ymchwil yn ein helpu i ddod â phobl at ei gilydd. Rydyn ni'n cysylltu ymchwilwyr, ymarferwyr a phobl gyda phrofiad byw. 

Rydyn ni wedi creu platfform fel bod pobl yn gallu rhannu eu profiadau o Ddiogelu drwy'r cyfnod pontio. Mae hyn wedi bod yn allweddol o ran y dysgu a ddaeth allan o'r sioeau teithiol ymchwil.

Beth sy'n newydd?

Rydyn ni wedi creu fideo i gyflwyno'r model sioau teithiol ymchwil ac archwilio'r thema Diogelu drwy'r cyfnod pontio mewn ffordd hygyrch.