Sioeau teithiol ymchwil: dod ag ymchwil yn fyw yn eich ardal chi
Beth yw 'sioe deithiol ymchwil'?
Mae ein sioeau teithiol ymchwil yn canolbwyntio ar y pynciau sydd fwyaf pwysig i ymarferwyr gofal cymdeithasol. Ac maen nhw'n seiliedig ar beth yr ydych chi wedi dweud yr hoffech chi wybod mwy amdano. Mae'r digwyddiadau hyn yn dod ag ymarferwyr, ymchwilwyr a phobl gyda phrofiad byw at ei gilydd.
"Rydyn ni'n cychwyn ar arolygiad o'r gwasanaeth - byddwn ni'n defnyddio'r cysylltiadau o heddiw i lywio'r broses." – Cyfranogwr sioe deithiol ymchwil
Rydyn ni'n cynnal ein digwyddiadau mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill, megis Byrddau Diogelu Rhanbarthol. Mae pawb yn cydweithio i archwilio pynciau sy'n bwysig i'r sector.
Ein nod yw cynnal ein sioeau teithiol mewn ardaloedd lleol fel bod rhwydd hynt i ymarferwyr a chydweithwyr prysur ymuno ac arbed amser teithio ac ati.
Pa fath o ddigwyddiad ydyw?
Mae'r sioeau teithiol ymchwil yn cael eu cynnal yn lleol gan ein tîm cyfeillgar, sy'n cefnogi pawb sy'n mynychu ar y diwrnod.
Rydyn ni'n darparu lluniaeth a chinio fel bod cyfranogwyr yn medru ymlacio a mwynhau'r cyflwyniadau ymarferol ac ysbrydoledig gan ymchwilwyr, arbenigwyr pwnc, ymarferwyr a phobl gyda phrofiad byw.
"Fe wnaeth i mi feddwl yn fwy dwys am yr hyn y gallwn ni ei gynnig fel gwasanaeth a'r effaith y gall hyn ei gael ar bobl ifanc." – Cyfranogwr sioe deithiol ymchwil
Mae pob sesiwn yn rhyngweithiol ac yn ymarferol, wedi eu cynllunio ar gyfer ymarferwyr prysur i fod yn berthnasol a defnyddiol. Yn ddelfrydol, mae pawb yn gadael gyda syniadau a dulliau newydd i'w rhoi ar waith.
Dyma allwch chi ddisgwyl o'n sioeau teithiol ymchwil:
- cysylltu ag ymchwilwyr ar bynciau allweddol
- dysgu am ymchwil gyfredol yng Nghymru a thu hwnt
- myfyrio ar sut y gall ymchwil wella eich ymarfer.
Ein dull gweithredu
Rydyn ni wedi datblygu model sy'n ymatebol, hyblyg ac ymarferol.
Mae hyn yn golygu ein bod ni'n:
- gwrando ar anghenion y sector
- cydweithio gydag eraill yn y sector i gyd-gynhyrchu ein cynnig
- gwahodd cyfranogwyr ar draws y sector er mwyn sicrhau bod pawb yn rhan o'r sgwrs, o uwch arweinwyr i ymarferwyr rheng flaen
- sicrhau bod ein gweithgareddau'n ddefnyddiol i ymarferwyr
- cynnal ein digwyddiadau mewn lleoliadau cymunedol, lle bo hynny'n bosibl.
"Pwysigrwydd cyd-gynhyrchu, llais y cyhoedd. Roedd y dystiolaeth yn ddefnyddiol." - Cyfranogwr sioe deithiol ymchwil
Ffilmio'r sioeau teithiol
Eleni, cafodd pedair sioe deithiol ymchwil eu cynnal, ac mae dwy ychwanegol ar bwnc pwysig Diogelu drwy'r cyfnod pontio ar y gweill am 2026. Rydyn ni'n ail adrodd gan fod pob Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yng Nghymru wedi gofyn am un, ac rydyn ni'n falch iawn o gefnogi.
Rydyn ni hefyd wedi creu fideo sy'n amlygu'r pwnc. Mae'r fideo'n dangos sut a phaham rydyn ni'n cynnal y sioeau teithiol ymchwil yn eu ffurf bresennol.
Mae isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael yn y gosodiadau.
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth!
Hoffech chi gydweithio gyda ni ar sioe deithiol ymchwil? Oes gennych chi bwnc arbennig y gallwn ni helpu chi i archwilio gydag ymchwil a thystiolaeth?
Os felly, cysylltwch â ni: sioeauteithiol@gofalcymdeithasol.cymru.
Blogiau perthnasol
Mae rhagor o wybodaeth am ein digwyddiadau blaenorol yn y blogiau hyn: