Hacio'r data, llywio'r dyfodol - dyma'r datathon!
Cymerodd Owen Davies, ein Pennaeth Rhaglenni Data Strategol, ran yn y Datathon 2025 a gynhaliwyd gan YDG Cymru. Yn y blog hwn, mae’n rhannu sut y daeth data cysylltiedig a gwaith tîm ynghyd i archwilio pontio pobl ifanc i fod yn oedolion.
Eleni, cynhaliwyd y gynhadledd Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) yng Nghymru. Roedd y prif ddigwyddiad yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, ond roedd sawl digwyddiad ymylol mewn lleoliadau o gwmpas Caerdydd dros gyfnod o wythnos ym mis Medi.
Dyma pryd gefais i wahoddiad i gymryd rhan mewn rhwybeth o’r enw "datathon".
"Beth yw datathon?" gallaf eich clywed yn gofyn. Wel, gadewch i mi esbonio....
Beth yw datathon?
Gair cyfansawdd (dau air gyda’i gilydd yn creu gair newydd) yw datathon, sef data a marathon.
Mae datathon yn ddigwyddiad tebyg iawn i hacathon lle mae pobl yn dod at eu gilydd i greu timau. Mae’r timau hyn yn adeiladu datrysiad prototeip i ateb her, fel arfer yn cynnwys meddalwedd neu dechnoleg.
Bydd hacathon yn aml yn para dau ddiwrnod, ac yn cynnwys gwobrau, paneli o feirniaid a chyflwyniadau ar ddiwedd y sesiwn. Y gwahaniaeth rhwng datathon a hacathon arferol yw bod disgwyliad i’r her gael ei datrys trwy ddefnyddio technoleg a dadansoddi
Cwestiwn her y datathon
Yn y digwyddiad hwn, cafodd Gofal Cymdeithasol Cymru wahoddiad i fod yn "berchennog yr her". Perchennog yr her sy'n gyfrifol am ysgrifennu'r cwestiwn mae’r timau yn ceisio ei "hacio" yn ystod y ddau ddiwrnod (neu tua 10 awr) a ganiateir iddynt.
Yn y digwyddiad yma, roedd ein cwestiwn yn canolbwyntio ar y broses sy’n cefnogi pobl ifanc trwy’r cyfnod pontio pan fyddan nhw’n troi’n oedolion. Fe ofynnon ni a oedd gwahaniaethau yn y gwasanaethau y gallai pobl ifanc eu disgwyl, yn enwedig gwasanaethau iechyd meddwl, pan oedden nhw’n troi'n 18 oed.
Mae cwestiynau eang fel hyn yn dda iawn ar gyfer y sesiynau hyn gan fod yna lawer o wahanol fathau o ddadansoddi a thechnegau gwahanol y gellir eu defnyddio.
Yr her
Rhoddwyd pedwar tîm o chwe ymchwilydd at ei gilydd a oedd yn cynnwys ystod o gefndiroedd (gwyddonwyr data, ymchwilwyr cymdeithasol, gwyddonwyr cyfrifiadurol) i geisio datrys yr her. Roedd gan bob tîm fynediad at sawl set ddata synthetig o fanc data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw).
Mae set ddata synthetig yn edrych yn union fel set go iawn ond ei bod yn cynnwys data ffug. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at ddata heb orfod mynd trwy lawer o brosesau llywodraethu gwybodaeth a moeseg data.
Roedd y setiau data synthetig yn amrywio o ddata meddygon teulu i PEDW, sef Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru sy'n cael ei defnyddio gyda chleifion mewnol mewn ysbytai. Defnyddiwyd hefyd ddata synthetig Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth, a llawer mwy.
Fel rhan o’r dasg, roedd modd i'r timau gysylltu setiau data gyda’i gilydd er mwyn dechrau casglu mwy o ganfyddiadau.
Roedd tîm o arbenigwyr a mentoriaid ar gael trwy gydol yr her i helpu pobl gydag unrhyw gwestiynau technegol oedd ganddynt.
Datathon: y panel feirniadu a’r broses
Nid y canlyniadau sy’n bwysig yn y broses datathon. Mae'r data yn synthetig, felly mae unrhyw un o'r allbynnau yn ddiystyr. Bydd y tîm buddugol yn cael ei ddewis ar sail nifer o feysydd meini prawf, fel:
- creadigrwydd, a yw'n syniad newydd neu wreiddiol?
- y gallu technegol, a yw'n uchelgeisiol ac yn weithredol?
- effaith, a fyddai hyn yn rhoi mewnwelediad neu ddealltwriaeth newydd i ni?
- gwaith tîm, a yw'r tîm wedi gweithio'n dda gyda'i gilydd?
- ansawdd, a yw'r gwaith o ansawdd uchel?
- cyflwyniad, ydyn nhw wedi cyfleu stori bwerus?
Roedd y panel o feirniaid yn cynnwys ymchwilwyr o Gymru, Llundain a Singapore, ac roedd ein cydweithiwr, Lisa Trigg hefyd yn un o'r panel.
Mae beirniadu yn aml yn dasg anodd. Bydd y timau'n gweithio'n galed iawn ar y dasg a bydd llawer o waith diddorol, o ansawdd uchel yn cael ei wneud.
Canlyniadau'r tîm buddugol
Edrychodd y tîm buddugol (Tîm 4) ar effaith penderfyniadau cymdeithasol ar fynediad at wasanaethau iechyd meddwl ar draws yr oedrannau.
Llwyddodd y tîm i ymgorffori pob un o'r pum set o ddata synthetig. Roedden nhw’n gweithio’n dda fel tîm, ac roedd eu stori’n ein darbwyllo wrth egluro yn eu cyflwyniad terfynol pam eu bod wedi dewis llwybr penodol.
Da iawn Tîm 4, a da iawn hefyd i bawb a gymerodd ran!
Argraffiadau
Os gwelwch chi hysbyseb am ddigwyddiad tebyg yn eich ardal chi, beth am i chi gymryd rhan!
Nid rhywbeth i arbenigwyr mewn data a thechnoleg yn unig yw datathon, mae’n rhywbeth i ymchwilwyr ac ymarferwyr cymdeithasol hefyd. Gallaf eich sicrhau y byddwch chi'n flinedig erbyn y diwedd, ond mae’n gyfle i chi gwrdd â phobl newydd a dysgu rhywbeth newydd.
Diolch i YDG Cymru am fy ngwahodd i fod yn rhan o Datathon 2025 - roedd hi’n wych cael cymryd rhan.
Reit, pryd ddwedoch chi fydd y nesaf....?