Skip to Main content

Helpwch ddylunio cynnig newydd i gefnogi diwylliannau cadarnhaol

16 Mawrth 2026

Rydyn ni’n galw ar ddarparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i’n helpu i ddylunio cynnig newydd a fydd yn cefnogi diwylliannau cadarnhaol yn y gweithle.  

Yr haf diwethaf, ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) fe wnaethon ni lansio'r Canllaw cefnogi diwylliannau cadarnhaol. Rhwng nawr a mis Ebrill, rydyn ni'n gweithio gyda Basis i gynnal cyfweliadau, grwpiau ffocws ac ymchwil a fydd yn ein helpu i ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach.

Beth yw'r gwaith?

Rydyn ni’n dylunio dull newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth i helpu darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i ymgorffori diwylliannau cadarnhaol yn eu sefydliadau. Mae'n bwysig bod ein cynnig newydd yn ymarferol ac yn ddefnyddiol er mwyn iddo wneud gwahaniaeth go iawn.  Dyna pam rydyn ni angen Unigolion Cyfrifol, rheolwyr cofrestredig a rolau eraill sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i oedolion i’n helpu i lunio'r gwaith hwn. 

I wneud yn siŵr bod y gwasanaeth hwn yn adlewyrchu realiti'r sector, rydyn ni’n chwilio am amrywiaeth o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i oedolion. Byddwn ni’n gofyn i bobl i gymryd rhan mewn cyfweliadau unigol neu grwpiau ffocws er mwyn rhannu eu barn a’u profiadau i helpu siapio’r gwaith. 

Sut gallwch chi helpu

Er mwyn cefnogi ymgorffori diwylliant cadarnhaol yn eich sefydliad chi, rydyn ni eisiau deall:

  • Pa offer, adnoddau, neu ddulliau sy'n ddefnyddiol yn eich ymarfer o ddydd i ddydd?
  • Ble mae'r bylchau presennol neu'r anghenion sydd angen cefnogaeth?
  • Beth sy'n rhwystro ymgorffori diwylliant cadarnhaol?
  • Sut mae hyn yn edrych yn wahanol ar draws lleoliadau penodol (e.e. gofal preswyl, nyrsio, cartrefi gofal, darparwyr bach a mawr)?

Os ydych chi ar ddechrau eich taith neu os oes gennych arferion sefydledig, rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Rydyn ni eisiau clywed beth sy'n gweithio, beth sydd ddim, a beth rydych chi ei angen i'ch helpu i ymgorffori diwylliannau cadarnhaol yn y gweithle.

Cymryd rhan

I fynegi diddordeb i gefnogi'r gwaith hwn e-bostiwch diwylliannaucadarnhaol@gofalcymdeithasol.cymru .

Bydd cyfweliadau a grwpiau ffocws yn cael eu cynnal yn ystod Ebrill 2026, a bydd unrhyw wybodaeth sy'n cael ei rannu yn ddienw.

Gweithio gyda'r Rayne Foundation

Rydyn ni’n gweithio gyda’r Rayne Foundation i hyrwyddo a thyfu diwylliannau cadarnhaol ar draws gofal cymdeithasol. Gyda'u cefnogaeth nhw, rydyn ni’n gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru i ddysgu am eu profiadau o gefnogi a mesur diwylliannau cadarnhaol o fewn eu sefydliadau. 

Dysgu mwy

I ddysgu mwy am ein Canllaw cefnogi diwylliannau cadarnhaol ewch draw i wefan y Grŵp Gwybodaeth