Skip to Main content

Hyfforddiant am ddim i arddangos yr offer a’r technegau rydyn ni'n eu defnyddio i gefnogi arloesedd ym maes gofal cymdeithasol

09 Hydref 2025

Ymunwch â ni ym mis Tachwedd i ddysgu mwy am anogaeth arloesedd a darganfod yr offer rydyn ni'n eu defnyddio i helpu pobl i wneud newid cadarnhaol ym maes gofal cymdeithasol.

Fe wnaethon ni lansio ein gwasanaeth anogaeth arloesedd am ddim yn 2023 ac rydyn ni wedi bod yn cefnogi unigolion a thimau i roi eu syniadau ar waith ers hynny.

Rydyn ni hefyd wedi creu rhaglen hyfforddiant a fydd yn rhoi trosolwg i chi o’r gefnogaeth rydyn ni'n ei gynnig, yn ogystal â chyflwyno ystod o offer arloesedd ac anogaeth y gallwch eu cymryd i’w defnyddio yn eich sefydliad eich hun.

Byddwn ni'n cynnal yr hyfforddiant dros ddau ddyddiad - 6 a 13 Tachwedd, o 10am i 4pm.

Archebwch eich lle.

Ar gyfer pwy mae'r hyfforddiant?

Mae’r hyfforddiant ar agor i unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’n addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella’r gwasanaethau gofal maen nhw'n eu cynnig neu y mae eu sefydliad yn eu cynnig. Efallai eich bod yn gweithio yn y sector cyhoeddus, y sector preifat, neu i elusen neu sefydliad gwirfoddol.

Mae’r hyfforddiant ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Bydd yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sydd:

  • â chyfrifoldeb dros wella gwasanaethau gofal
  • â diddordeb yn ein cynnig anogaeth arloesedd ond sydd eisiau gwybod mwy amdano
  • eisoes wedi cymryd rhan mewn anogaeth arloesedd ac sydd eisiau datblygu eu sgiliau ymhellach.

Beth fydd yn cael ei gynnwys?

Bydd cyfranogwyr yn:

  • clywed sut y gallan nhw gyfuno arloesedd ac anogaeth i wella gwasanaethau
  • cael profiad ymarferol o ddefnyddio offer arloesedd ac anogaeth
  • datblygu hyder i’w defnyddio yn eu gwaith.

Sut alla i gymryd rhan?

Byddwn yn cynnal yr hyfforddiant ar 6 a 13 Tachwedd

Ewch i'n ffurflen ar-lein i archebu eich lle am ddim.

Byddwn yn canolbwyntio ar anogaeth ar y dyddiad cyntaf ac arloesedd ar yr ail ddyddiad.

Anogaeth

Bydd y modiwl hwn yn:

  • helpu i ddeall yn well manteision a defnyddiau offer anogaeth
  • cyflwyno ystod o offer anogaeth y gallwch eu defnyddio yn eich gwaith
  • helpu i ddeall sut i ddatblygu perthnasoedd anogaeth da
  • darparu cyfleoedd i ymarfer defnyddio offer i annog eraill.

Arloesedd

Bydd y modiwl hwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio offer arloesedd i:

  • helpu i gael safbwynt newydd ar yr heriau cymhleth rydych yn eu hwynebu
  • osod pobl sy’n defnyddio gwasanaethau wrth galon gwelliannau gwasanaeth
  • feddwl am ffyrdd newydd o ddatrys problemau
  • arbrofi gyda syniadau mewn ffyrdd cost isel a risg isel.

Sut mae hyn yn wahanol i’r anogaeth arloesedd ei hun?

Trwy ein gwasanaeth anogaeth arloesedd, rydyn ni'n cynnig cefnogaeth wedi’i theilwra am ddim i unigolion neu dimau i’w helpu i wella eu gwasanaeth.

Rydyn ni wedi cael adborth cadarnhaol gan bobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth, felly roedden ni eisiau dod o hyd i ffyrdd newydd o’i egluro a dangos beth all wneud dros y sector.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio’r offer a’r technegau rydyn ni'n eu defnyddio yn ein sesiynau anogaeth. Bydd yn rhoi blas i chi o’r hyn y gall anogaeth arloesedd ei gynnig, yn ogystal â chyfle i fynd â’r offer i’w defnyddio eich hun.

Mae croeso hefyd i bobl sydd eisoes wedi defnyddio ein gwasanaeth anogaeth i fynychu er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o’r dulliau cafodd eu defnyddio yn eu sesiynau.

Er na allwn gynnig yr un lefel o gefnogaeth ddwys ag yn ystod sesiynau anogaeth, rydyn ni'n cyfyngu ar nifer y cyfranogwyr i wneud yr hyfforddiant yn ymarferol ac yn rhyngweithiol.

Beth mae pobl yn ei ddweud am ein gwasanaeth anogaeth arloesedd

  • "Roedd yr hwyluswyr yn eich rhoi chi ar eich hyder ac yn egluro cysyniadau newydd mewn termau hawdd eu deall."
  • "Roedd yr hyfforddiant yn teimlo’n berthnasol ac yn ymarferol iawn, gyda llawer o ystyriaeth i’r amgylchedd rydyn ni’n gweithio ynddo. Sesiwn arall wedi’i chynllunio’n dda gyda hwyluso gwych a chefnogaeth dechnegol/weinyddol esmwyth."
  • "Mi wnes i fwynhau pob rhan ohono."

Darganfod mwy

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru neu ewch i’n tudalen anogaeth arloesedd.