Skip to Main content
.

Cynllun lleoliad PhD: thema gofal cymdeithasol Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru

09 Medi 2024

Rydyn ni’n cynnig lleoliad PhD fel rhan o’n rôl arweinyddiaeth ar thema gofal cymdeithasol yn rhaglen waith YDG Cymru.  

Mae YDG Cymru yn rhan o fuddsoddiad Administrative Data Research (ADR) UK. Mae ADR UK yn dod â data ac ymchwilwyr cymeradwy ynghyd i alluogi ymchwil gall lywio penderfyniadau polisi a gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol. Yng Nghymru, mae YDG Cymru yn cynnwys arbenigwyr gwyddor data, academyddion blaenllaw o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd a thimau arbenigol o fewn Llywodraeth Cymru. 

Gyda’i gilydd maen nhw’n cynhyrchu tystiolaeth sy’n cael ei gyrru gan ddata gall helpu i lywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol yng Nghymru.

Pwy sy'n gallu ymgeisio?

Rhaid i fyfyrwyr cymwys fod yn ymgymryd â PhD ar ofal cymdeithasol mewn sefydliad addysg uwch yng Nghymru. Gall y lleoliad fod yn llawn amser am gyfnod o dri mis neu'n rhan-amser am chwe mis.

Diben y cynllun

Rydyn ni’n cynnal y lleoliad fel rhan o’n gwaith YDG Cymru er mwyn cefnogi a siapio ymchwilwyr gofal cymdeithasol y dyfodol. Bydd y cynllun yn cryfhau ansawdd ymchwil, a thrwy sicrhau ei fod yn hygyrch i’r gweithlu, bydd hefyd yn gwella ansawdd gofal a chymorth i bawb yng Nghymru.

Bydd ein lleoliadau PhD yn rhoi cyfle i:

  • ddatblygu sgiliau ymchwil a’u rhoi ar waith yn y byd sydd ohoni
  • ennill profiad ymarferol o wneud ymchwil yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
  • gynyddu dealltwriaeth a phrofiad o bolisi ac ymarfer gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • ddatblygu sgiliau personol a phroffesiynol bydd o fudd i yrfaoedd yn y dyfodol
  • ddatblygu rhwydweithiau a chysylltiadau ymhlith academyddion, llunwyr polisi ac ymarferwyr.

Meysydd gwaith

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi i gyfrannu at raglen amrywiol o waith a allai gynnwys:

  • gosod blaenoriaethau ymchwil ar gyfer ymchwil data cysylltiedig
  • cefnogi ein grŵp ymchwil data gofal cymdeithasol oedolion
  • hyrwyddo buddion ymchwil data cysylltiedig mewn gofal cymdeithasol i oedolion drwy ein sianeli Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol Abertawe a YDG Cymru
  • cefnogi ac annog perchnogion data i rannu eu data ym Manc Data SAIL
  • cynnal ymchwil data cysylltiedig ar bwnc sy'n gysylltiedig â gofal cymdeithasol i oedolion (byddwn ni’n cefnogi’r myfyriwr llwyddiannus i wneud cais am fynediad i SAIL).

“Yn ystod fy lleoliad PhD gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, edrychais ar ddata anhysbys o'r gofrestr a'r casgliad blynyddol o ddata'r gweithlu. Helpodd fy ngwaith i roi mewnwelediad i’r rhesymau pam y gallai'r ddwy ffynhonnell ddata allweddol hyn fod yn wahanol. Cefais werthfawrogiad o'r dirwedd gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy’r profiad. A’r cyfle i ddysgu lawer hefyd o gael fy mentora gan dîm gwych o bobl. Dwi’n gwybod y bydd y profiad hwn yn fuddiol iawn wrth i fy ngyrfa ddatblygu.”

- Amy Davies, myfyriwr PhD, Canolfan Gofal a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Sut i wneud cais

Gallwch chi ymgeisio drwy ein porth swyddi: https://swyddi.gofalcymdeithasol.cymru/

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8 Hydref 2024.

Gwnewch yn siŵr bod gennych ganiatâd gan eich goruchwyliwr, sefydliad ac ariannwr cyn gwneud cais am y lleoliad hwn.

Os hoffech fwy o wybodaeth am y lleoliad, cysylltwch ag ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru.