Skip to Main content

Mesur beth sy'n bwysig mewn gofal cymdeithasol

23 Medi 2025

Mae'r uwch arweinydd gwerthuso, Emyr Williams, yn teimlo’n angerddol dros wella bywydau pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth. Yn y blog hwn, mae'n esbonio sut y gall mabwysiadu dulliau gwerthuso sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau helpu i wella gwasanaethau.

Gwerthfawrogi dull sy'n seiliedig ar ganlyniadau

Mae ein gwaith yn cael ei lywio a'i siapio gan bolisi a deddfwriaeth. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn pwysleisio'n gryf ymagwedd at gefnogi pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. 

Mae'r Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd mesur canlyniadau pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth.

Heriau gwerthuso

Rydyn ni'n cydnabod y gall gwerthuso fod yn broses anodd. Mae deall y canlyniadau y mae pobl eisiau eu cael o'r gefnogaeth yr ydych chi'n ei rhoi yn gymhleth. Mae'n gallu golygu pethau gwahanol i bob unigolyn a gwasanaeth.

Mae'n cymryd amser i adeiladau perthynas a deall beth sy'n wir bwysig, felly mae nodi canlyniadau byth yn beth hawdd. Unwaith y mae gennym y wybodaeth hon, mae gwybod sut i fesur a dangos cynnydd yn gallu teimlo'n llethol, yn enwedig gydag amser ac adnoddau cyfyngedig. 

“Rhoddodd drosolwg eang o werthuso, meysydd newydd i’w harchwilio, ac yr oedd yr adnoddau’n wych!” - Cyfranogwr sydd wedi elwa ar ein hyfforddiant gwerthuso blaenorol

Ein cynnig cefnogaeth

Rydyn ni wedi datblygu ein sesiynau ‘Dad-dirgelu gwerthuso’ er mwyn eich cefnogi drwy’r broses gwerthuso. Mae’r sesiynau hyfforddiant ar-lein yn hygyrch ac am ddim. Maen nhw’n rhoi offer a dulliau sy’n eich helpu i feddwl a gwerthuso canlyniadau mewn ffyrdd gwahanol. 

Mae’r sesiynau’n rhoi: 

  • cyflwyniad syml i werthuso
  • gwybodaeth ar ddefnyddio stori ‘newid’ er mwyn datblygu cynllun gweithredu neu werthuso
  • ystyriaethau moesegol wrth werthuso
  • canllaw ar gynnal gwerthusiad economaidd
  • dulliau creadigol a chyfranogol gall eich helpu i gasglu canlyniadau mewn ffordd arloesol. 

Mae’r agwedd yn un hyblyg felly does dim angen i chi fynychu pob sesiwn. Gallwch chi ddewis y rhai sydd mwyaf perthnasol i chi. 

Rydyn ni hefyd yn cynnig cefnogaeth un i un os oes angen cymorth wedi ei deilwra ar gyfer eich gwasanaeth.

“Roedd y sesiwn yn ddefnyddiol iawn ac roedd yn wych rhannu profiadau gydag eraill.” - Cyfranogwr cyfres flaenorol

Mwy o wybodaeth!

Os hoffech chi wybod sut i ddangos effaith eich gwaith a’r newid rydych chi’n creu ym mywydau pobl, cofrestrwch am ein sesiynau gwerthuso nesaf yma.

Gallwch chi ddysgu mwy am ein cefnogaeth gwerthuso yma: Cefnogaeth gwerthuso - Gofal Cymdeithasol Cymru - Ymchwil, data ac arloesi

Awdur y blog

Emyr Williams

Emyr Williams

Uwch arweinydd gwerthuso

ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru

Rwy'n teimlo'n angerddol am bwysigrwydd gofal cymdeithasol a'r gwahaniaeth mae'n gallu gwneud i fywydau pobl. Dyna'r rheswm rwy'n cefnogi gwerthuso i'ch helpu chi i ddysgu, ac i ddangos yr effaith rydych chi'n ei chael ar fywydau pobl.

Mae gen i dros 15 mlynedd o brofiad o ddangos effaith ar draws amrywiaeth o feysydd polisi cymdeithasol. Fues yn gweithio ym maes darparu gwasanaethau rheng flaen i ddarparu cyngor polisi ar sail tystiolaeth i Lywodraeth Cymru.

Mae fy mhrofiad blaenorol yn cynnwys rhedeg elusen ieuenctid, datblygiad cymunedol, cynnal ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac Y Lab, yn ogystal â chefnogi a gwerthuso effaith datblygiadau arloesol yn y sector cyhoeddus.

Felly, os hoffech chi ddarganfod sut allai helpu chi yn eich gwaith, cysylltwch â fi am sgwrs anffurfiol. Gwnaf fy ngorau i helpu mewn unrhyw ffordd posibl.