
Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd: Pam ei bod hi’n heriol i recriwtio a chadw staff sy’n gofalu?
Mewn gweithdy diweddar gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, rhoddodd Kerry Cleary, Hyfforddwr Arweinyddiaeth Seiliedig ar Werthoedd, sylw i’r heriau cyffredin sy'n wynebu'r sector gofal cymdeithasol.
Yn y blog hwn, mae Kerry, yn myfyrio ar ei blynyddoedd o brofiad fel arbenigwr recriwtio mewn rolau iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector. Mae hi'n trafod sut y gellid lliniaru heriau trwy ymgorffori Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd, ac mae’n rhannu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i helpu eich proses recriwtio.
Wrth i chi ddarllen hwn, efallai y byddwch chi'n gallu uniaethu â rhai o'r heriau niferus a drafodwyd yn ein gweithdy wrth ystyried y cwestiwn:
"Beth yw'r rhwystrau i recriwtio a chadw staff sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n hangerdd am y gwaith a wnawn?"
Prif themau
Yn ystod y gweithdy, fe wnaethon ni nodi a thrafod nifer o themâu allweddol, gan gynnwys:
Cronfa sy’n lleihau
Ar draws nifer o broffesiynau gofal, mae'r gronfa o staff sydd ar gael yn mynd yn llai am sawl rheswm. Oherwydd hyn, mae llawer o sefydliadau yn chwilio am ymgeiswyr o’r un gronfa fach hon.
Gall Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd helpu sefydliadau i feddwl y tu allan i'r bocs am y mathau o ymgeiswyr maen nhw'n ceisio eu denu. Trwy wneud hyn gallant dargedu amrywiaeth ehangach o ymgeiswyr nad yw, efallai, wedi ystyried gyrfa ym maes gofal o'r blaen, ond sy'n rhannu gwerthoedd y sefydliad.
Y proffil gofal
Nid yw proffil y proffesiynau gofal fel gyrfa mor uchel ag y byddai'r sefydliadau hynny sy'n darparu gofal yn ei ddymuno.
Cyflog cystadleuol
Mewn cyfnod pan fo llawer o bobl yn cael trafferth gyda chostau byw, un o'r pethau rwy'n eu clywed dro ar ôl tro yw bod nifer o weithwyr yn gallu ennill mwy trwy weithio i fanwerthwr. Er eu bod wrth eu bodd yn gweithio yn y maes gofal, i rai, dyma'r prif reswm dros adael eu swydd.
Rydw i hefyd yn clywed straeon am weithwyr sy’n dychwelyd i faes gofal, oherwydd bod boddhad swydd a gweithio mewn diwylliant sy'n cyd-fynd â'u gwerthoedd mor bwysig i'w hapusrwydd.
Gwydnwch a realiti
Mae llawer o bobl yn siarad am yr argyfwng iechyd meddwl presennol, ac rydw i’n gweld hyn fy hun bob wythnos yn fy ngwaith gydag ysgolion, gofal cymdeithasol a sefydliadau iechyd. Ond nid dim ond y rhai sy'n derbyn gofal sydd angen eu cefnogi, ond y staff sy’n darparu'r gofal hefyd.
Nid yw'r realiti o weithio mewn rolau ac amgylcheddau heriol i rai yn cyd-fynd â'r ddelwedd oedd ganddynt o weithio ym maes gofal. Dyna pam rydyn ni'n gweld staff yn adrodd am lefelau cynyddol o straen a llai o wytnwch yn y gweithlu.
Dyma pam ei bod yn bwysig bod sefydliadau yn:
- ymgorffori gwerthoedd yn eu rhaglen sefydlu a hyfforddiant
- cefnogi staff i wneud yn siŵr eu bod wedi'u paratoi i wynebu heriau eu rolau
- drwy Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd, nodi staff sydd â'r gwerthoedd a'r cymhellion i lwyddo mewn rôl ym maes gofal.
Beth yw Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd a sut allwch chi ymgorffori hyn yn eich sefydliad?
Mae Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd yn ddull sy'n canolbwyntio ar nodi a deall gwerthoedd, ymddygiadau a chymhellion eich ymgeiswyr. Mae'r dull yn edrych i ba raddau mae eich ymgeisydd yn cyd-fynd â gweledigaeth a gwerthoedd eich sefydliad.
Mae’n galluogi sefydliadau i fod yn fwy cynhwysol ac ehangu eu cronfa recriwtio trwy edrych y tu hwnt i brofiad a chymwysterau blaenorol. Mae'n helpu i ddewis ymgeiswyr sydd â'r potensial a'r angerdd i fod yn weithwyr arbennig trwy’r ymrwymiad sydd ganddynt i genhadaeth a gwerthoedd y sefydliad.
Model y pump cam: Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd
Wrth weithio gyda Skills for Care, datblygais model y pump cam: Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd. Mae'r model yma yn helpu sefydliadau i ddeall sut y gallen nhw ymgorffori persbectif gwerthoedd ym mhob cam o'u taith recriwtio; o gyfleu'r hyn rydych chi'n chwilio amdano, i gymhathu staff newydd i'ch sefydliad.
Mae’r model yn edrych ar:
- Fynegi eich gwerthoedd. Mae hyn yn bwysig oherwydd ei fod yn eich helpu i wybod beth yw eich gwerthoedd a sut i'w cyfleu i eraill.
- Ddenu ymgeiswyr sy'n rhannu eich gweledigaeth a'ch gwerthoedd yn y gweithle trwy waith wedi'i dargedu.
- Ymgeisio - edrych ar sut rydych chi'n dylunio eich proses ymgeisio i sicrhau y gallwch chi restru ymgeiswyr sy'n dangos eu bod yn rhannu eich gwerthoedd.
- Asesu sut rydych chi'n defnyddio gwahanol adnoddau dethol er mwyn pwyso a mesur a yw’r ymgeisydd yn rhannu eich gwerthoedd, ac felly y person iawn ar gyfer y rôl.
- Cymathu - sut ydych chi'n sefydlu, datblygu, goruchwylio a rheoli staff i sicrhau eu bod yn dangos gwerthoedd eich gweithle yn eu rôl?
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, darllenwch adnodd Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd ar wefan VBA Consulting.