Dr Siân de Bell
Prifysgol Caerwysg
Ysgrifennwyd gan Dr Siân de Bell, Prifysgol Caerwysg
Er mwyn ymateb i ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru ar osod blaenoriaethau ymchwil ar ofal a chymorth i bobl hŷn, cafodd ei wneud ar y cyd ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r James Lind Alliance, fe aeth Dr Siân de Bell a’i chydweithwyr ati i gynnal adolygiad o astudiaethau ar rannu data ym maes gofal i bobl hŷn. Gwnaeth y broses o osod blaenoriaethau ymchwil nodi bwlch yn y dystiolaeth ynghylch sut y gall gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol weithio gyda’i gilydd yn fwy effeithiol i ddiwallu anghenion pobl hŷn. Dyma Dr de Bell yn amlinellu rhai o ganfyddiadau allweddol eu hadolygiad.
Wrth i bobl heneiddio, maen nhw'n fwy tebygol o fod â mwy nag un cyflwr iechyd ac anghenion iechyd cymhleth. Mae’n debygol y bydd mwy nag un math o weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn rhan o’u gofal, fel meddygon teulu, nyrsys a therapyddion galwedigaethol, yn ogystal â gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol fel gofalwyr a gweithwyr cymdeithasol.
Mae angen i’r gwahanol bobl hyn, a ddaw o amrywiaeth o sefydliadau, weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu yn y ffordd orau i bob unigolyn. Mae rhannu data yn rhan bwysig o’r broses hon.
Ystyr 'rhannu data' yma yw trosglwyddo gwybodaeth am berson rhwng sefydliadau gofal iechyd a gofal cymdeithasol neu weithwyr gofal proffesiynol – er enghraifft, cofnodion electronig cleifion.
Roedd ein hadolygiad yn canolbwyntio ar y broses o rannu data. Ei nod oedd ateb y cwestiwn canlynol, ‘beth yw’r ffactorau sy’n dylanwadu ar y broses o rannu data yn effeithiol rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys sefydliadau yn y sector preifat a gwirfoddol, at ddibenion gofal pobl hŷn?’
Gallwch chi ddod o hyd i’n prif ganfyddiadau yn ein hadroddiad, a gyhoeddwyd yn NIHR Journals Library, a’r papur briffio tystiolaeth sydd ar gael ar ein gwefan. Fodd bynnag, i grynhoi, cafodd 24 o astudiaethau eu cynnwys yn yr adolygiad a gwelsom bedair prif thema yn dod i’r amlwg:
Nodau: Yn yr astudiaethau hyn, nodwyd pum diben ar gyfer rhannu data: sef cynnal asesiadau ar y cyd o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol, rheoli achosion mewn modd integredig, trosglwyddo cleifion adref o'r ysbyty, ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal, ac ar gyfer gofal lliniarol.
Perthnasoedd: Roedd meithrin perthnasoedd rhyngbroffesiynol, ac o ganlyniad ymddiriedaeth a pharch, rhwng gweithwyr proffesiynol yn cefnogi’r broses o rannu data, tra bod diffyg ymddiriedaeth a rhagfarnu proffesiynol yn gwneud hyn yn anodd.
Prosesau a gweithdrefnau: Roedd angen i sefydliadau ddatblygu prosesau i’w helpu i rannu data, gan gynnwys gwireddu gweledigaeth ar y cyd o gytundebau ffurfiol a gofal – fel ar lywodraethu data, er enghraifft. Roedd y rhain yn cefnogi’r broses o rannu data.
Technoleg a seilwaith: Pan oedd ffactorau o’r ddwy thema arall ar waith, fel perthnasoedd llawn ymddiriedaeth rhwng unigolion, roedd technoleg yn adnodd a allai gefnogi’r broses o rannu data. Roedd ymwybyddiaeth gweithwyr proffesiynol o’r system gofal ehangach, yr wybodaeth yr oedd ei hangen ar bobl eraill er enghraifft, hefyd yn helpu’r broses o rannu data.
Roedd ffactorau penodol yn dylanwadu ar y broses o rannu data, yn dibynnu ar ei bwrpas. Er enghraifft, roedd diffyg fframweithiau cyfreithiol ym maes gofal lliniarol.
Mae ymchwil ansoddol yn cynnwys darllen ac ailddarllen y data rydych chi'n gweithio ag ef. Gall hyn ei gwneud yn hawdd anghofio na fydd y bobl sy’n darllen y canlyniadau, o reidrwydd, yr un mor gyfarwydd â’r data ag ydych chi.
Roedd rhannu data rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn bwnc cymhleth i’w ddeall a’i egluro, felly roedden ni eisiau cyflwyno ein canlyniadau mewn ffordd a oedd mor hawdd i’w deall â phosibl. Er bod y themâu uchod yn nodi ffactorau pwysig sy’n dylanwadu ar y broses o rannu data rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, roedden ni am fynd y tu hwnt iddyn nhw, a dangos model rhannu data a fyddai’n ei gwneud yn fwy amlwg ym mhle y mae modd dylanwadu ar y system i greu newid.
Mae’r model yn dangos y ffactorau sy’n helpu’r broses o rannu data ar wahanol lefelau, boed ar lefel bersonol, sefydliadol, neu allanol, fel y cyd-destun polisi a chyllido, er enghraifft.
Mae’r ffactorau hyn wedyn yn rhyngweithio â’i gilydd mewn ffyrdd sy’n cefnogi neu’n atal data rhag cael ei rannu. Er enghraifft, mae angen deddfwriaeth allanol sy’n galluogi sefydliadau i rannu data, ac ar lefel sefydliadol mae angen cael cytundebau rhwng sefydliadau sy’n eu galluogi i rannu data a chytuno ar ffyrdd o wneud hyn. Yna, bydd angen hyfforddiant a chefnogaeth ar staff unigol fel eu bod yn gwybod sut a phryd i rannu data.
Am fwy o wybodaeth ar y prosiect a'r model cysyniadol, ewch i'r adroddiad.
Prifysgol Caerwysg