Skip to Main content

Rhoi llwyfan i ymchwil gofal cymdeithasol

17 Tachwedd 2025

Mae Tom Slater, Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros dro ar gyfer Ymchwil a Symudedd Gwybodaeth, yn rhannu ei fyfyrdodau ar gynhadledd 2025 Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) wastad yn uchafbwynt, ac yr oedd digwyddiad eleni yng Nghaerdydd yn ddim eithriad. Roedd cymysgedd egnïol o ymchwilwyr, ymarferwyr, gwneuthurwyr polisi ac aelodau’r cyhoedd. Pawb yn unedig yn eu hymrwymiad at wella bywydau drwy ymchwil. Ac i’r rhai ohonom sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, roedd yn arbennig o ysbrydoledig gweld gymaint o ffocws ar ein sector.

Sut y gall ymchwil gofal cymdeithasol effeithio ar bolisi ac ymarfer?

Agorodd y gynhadledd gyda chroeso cynnes gan y cyflwynydd a newyddiadurwr Andrea Byrne. Dilynodd yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru, gan roi’r araith agoriadol. 

Ond y sesiwn cyntaf: “Sut y gall ymchwil gofal cymdeithasol effeithio ar bolisi ac ymarfer?” a wnaeth lywio’r ffordd.

Roedd y sesiwn yn amlygu dylanwad a pherthnasedd cynyddol y sector. Ymunodd Rachel Scourfield, ein Pennaeth Symudedd Gwybodaeth, â’r Athro Donald Forrester o Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) a’r Athro Paul Willis o Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE). 

Roedd y sesiwn yn gyfoethog o ran mewnwelediad, angerdd a pherthnasedd ymarferol. Roedd eu neges yn glir ac yn llawn argyhoeddiad: rhaid i ymchwil mewn gofal cymdeithasol fod yn broses wirioneddol gydweithredol, ddwy ffordd.

Er mwyn sicrhau bod ymchwil yn berthnasol, yn ystyrlon ac yn bwrpasol, mae’n rhaid i ni gynnwys pobl â phrofiad byw, ymarferwyr, llunwyr polisi, a rhanddeiliaid eraill o'r cychwyn cyntaf.

Nid ar ben silff y dylai ymchwil eistedd – mae angen rhoi cyfeiriad iddo, ei ymgorffori mewn ymarfer, a’i ddefnyddio i lywio penderfyniadau yn y byd sydd ohoni. Dim ond felly y gall gyflawni’r math o effaith sy'n trawsnewid gwasanaethau rheng flaen ac yn siapio polisi effeithiol.

Defnyddio gwybodaeth wrth ymarfer

Mae’r weledigaeth hon wrth wraidd datblygu ein cynnig symudedd gwybodaeth. Ein pwrpas yw cefnogi’r sector i droi tystiolaeth mewn i weithredu. Rydyn ni’n helpu sicrhau bod ymchwil yn hygyrch ac yn medru cael ei ddefnyddio i wella canlyniadau. Gwnawn hyn drwy offer ymarferol, adnoddau, cymunedau ymarfer a’r cyfleoedd dysgu ar y cyd rydyn ni’n eu cynnig.

“Nid ar ben silff y dylai ymchwil eistedd – mae angen rhoi cyfeiriad iddo, ei ymgorffori mewn ymarfer, a’i ddefnyddio i lywio penderfyniadau yn y byd sydd ohoni.”

Ysbrydoli newid

Yn ddiweddarach, ymunais â sesiwn i archwilio arloesedd mewn ymchwil - sut y gallwn "gynnal ymchwil yn wahanol". Daeth y siaradwyr â safbwyntiau newydd a syniadau beiddgar, gan ein herio i ailfeddwl dulliau traddodiadol a chofleidio ffyrdd newydd o weithio. Roedd yn ein hatgoffa nad yw arloesi'n ymwneud â thechnoleg yn unig; mae'n ymwneud â meddylfryd, cydweithredu a dewrder.

Daeth un o bwyntiau mwyaf trawiadol y dydd yn ystod cyflwyno’r gwobrau. Cafodd Rachael Vaughan, Rheolwr Ymgysylltu CASCADE, ei chydnabod gyda Gwobr Cyfranogiad Cyhoeddus am ei gwaith gyda Grŵp Ymgynghorol Rhieni CASCADE. 

Roedd yn ddathliad o ragoriaeth ymchwil, ond yn ogystal, yn cydnabod sut y gall profiad byw lywio, siapio a dyrchafu'r broses ymchwil. Roedd yn wych gweld rhieni a gofalwyr – yn aml iawn yn arwain heb unrhyw glod – yn cael eu hanrhydeddu am eu cyfraniad hanfodol a’u mewnwelediad unigryw.

Roedd y diwrnod drwyddi draw yn gyfle i ni glywed am y gwaith anhygoel sy’n digwydd diolch i ariannu HCRW. O waith arloesol clinigol i brosiectau cymunedol, roedd yr effaith yn glir. Mae’r mentrau hyn yn gwella gwasanaethau, llywio polisi ac - yn bwysicach oll - yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Roedd gweld pa mor bell yr ydyn ni wedi dod yn fy ysbrydoli, ac rwy'n teimlo'n gyffrous wrth feddwl am y camau nesaf.

“Roedd yn ddathliad o ragoriaeth ymchwil, ond yn ogystal, yn cydnabod sut y gall profiad byw lywio, siapio a dyrchafu'r broses ymchwil.”

Myfyrdodau i gloi

Yng Ngofal Cymdeithasol Cymru, rydyn ni’n falch iawn o’r bartneriaeth gydag Ymchwil Gofal a Iechyd Cymru. Mae’n fodd i ni glodfori a chefnogi ymchwil ar draws y sector gofal cymdeithasol - uchelgais sy’n rhan sylfaenol o weithredu ar y cyd yn strategaeth Ymlaen

Roedd y gynhadledd yn dathlu’r cydweithredu hyn ac yn symbyliad i yrru pethau ymlaen. Dangosodd, pan fydd ymchwil wedi'i seilio ar brofiad go iawn, wedi'i lywio gan gynhwysiant ac arloesi, ac wedi'i roi ar waith mae ganddo'r pŵer i greu newid parhaol, ystyrlon.

Awdur y blog

Tom Slater

Tom Slater

Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros dro

grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru

Mae gen i gefndir addysg ac ymchwil gwaith cymdeithasol, gyda diddordeb arbennig mewn iechyd meddwl, dylunio dysgu ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rwyf wedi mwynhau’n fawr dysgu gan ymarferwyr a phobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol. Mae’n fraint bod mewn sefyllfa i ddysgu gymaint gan eraill.