Skip to Main content

Siapio diwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol

02 Mawrth 2026

Y llynedd, fe lansio'n ni'r Canllaw cefnogi diwylliannau cadarnhaol gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Cafodd y canllaw ei ddatblygu i helpu sefydliadau i feithrin diwylliannau gweithlu lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu, a phobl sy'n derbyn gofal yn profi urddas, parch a thosturi.

Lansio’r canllaw

Daeth dros 220 o ymarferwyr, arweinwyr a phartneriaid o bob cwr o Gymru i weminar arbennig i lansio’r Canllaw diwylliannau cadarnhaol.

Yn y gweminar, rhannodd ymarferwyr ac arweinwyr eu profiadau a'u heriau ar adeiladu diwylliannau cadarnhaol.  Tynnodd pob un sylw at yr angen cynyddol am fwy o gyfleoedd i weithio gyda'i gilydd a rhannu dysgu ar draws y sector.

Dywedodd Lisa Trigg, ein Cyfarwyddwr Cymorth a Gwella Gwasanaeth:

"Mae sefydlu, eirioli a chefnogi diwylliannau cadarnhaol yn hanfodol i ddarparu gofal a chefnogaeth dda. Cafodd ein gweminar ei groesawu fel dechrau deialog agored er mwyn i ni ddeall sut y gallwn ni weithio gyda'n partneriaid a'r sector i gefnogi diwylliannau cadarnhaol. 

"Mae'n bwysig fod pawb sy'n gweithio ar draws gofal cymdeithasol yn ymrwymo i amddiffyn a chefnogi hawliau pobl - yn enwedig pobl sydd mewn perygl o niwed neu gamdriniaeth. 

“Rydyn ni’n annog cyflogwyr ac ymarferwyr i gysylltu â Gofal Cymdeithasol Cymru i ddysgu mwy am ein Canllaw diwylliannau cadarnhaol, a'r gefnogaeth y gallwn ni ei gynnig yn y maes hwn."

Dywedodd Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru:

“Yr hyn rydyn ni'n ei weld dro ar ôl tro trwy ein gwaith arolygu yw bod ansawdd y gofal y mae pobl yn ei dderbyn yn gysylltiedig yn ddwfn â'r diwylliant o fewn sefydliad. Mae gweithlu sy'n teimlo ei fod yn cael ei barchu a'i rymuso mewn sefyllfa lawer gwell i ddarparu'r gofal tosturiol, urddasol y mae pobl yng Nghymru yn ei haeddu. 

“Mae'r canllaw hwn yn offeryn gwerthfawr, ac edrychwn ymlaen at ei weld yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws y sector

Gwyliwch gweminar Canllaw diwylliannau cadarnhaol

Gwyliwch gweminar lansio Canllaw diwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol drwy ddilyn y ddolen yma.

Helpwch ni i siapio diwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol

Rydyn ni eisiau clywed eich barn chi am y Canllaw diwylliannau cadarnhaol. Helpwch ni i ddatblygu’r canllaw drwy roi adborth ar ddefnyddioldeb y canllaw, yr offer a'r adnoddau.

Rydyn ni’n gweithio gyda’r Rayne Foundation i hyrwyddo a thyfu diwylliannau cadarnhaol ar draws gofal cymdeithasol. Gyda'u cefnogaeth nhw, rydyn ni’n gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru i ddysgu am eu profiadau o gefnogi a mesur diwylliannau cadarnhaol o fewn eu sefydliadau. Byddwn ni’n defnyddio’r canfyddiadau i ddylunio a phrofi ffyrdd o ymgorffori diwylliannau cadarnhaol ar draws gofal cymdeithasol.

Rhannwch eich barn, profiad ac unrhyw anghenion cefnogaeth rydych chi ei angen gyda ni i hyrwyddo a llunio diwylliannau cadarnhaol yn eich sefydliad ac ar draws gofal cymdeithasol.

Mwy o wybodaeth

I ddysgu mwy neu i roi adborth am y rhaglen Cefnogi diwylliannau cadarnhaol, e-bostiwch diwylliannaucadarnhaol@gofalcymdeithasol.cymru.

I gael mynediad at ymchwil, offer ac adnoddau i'ch helpu i greu diwylliant cadarnhaol yn eich gweithle, darllenwch ein Canllaw cefnogi diwylliannau cadarnhaol yma.