Skip to Main content

Gweminar cefnogi diwylliannau cadarnhaol

Beth yw’r Canllaw cefnogi diwylliannau cadarnhaol?

Yn 2025 fe lansiodd Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) y Canllaw cefnogi diwylliannau cadarnhaol.

Mae’r canllaw wedi ei ddatblygu i helpu sefydliadau i feithrin diwylliannau gweithlu lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu, a phobl sy'n derbyn gofal yn profi urddas, parch a thosturi.

Mae ein canllaw yn darparu:

  • trosolwg o'r egwyddorion sy'n cefnogi diwylliant cadarnhaol
  • offer a fframweithiau i gefnogi arweinwyr a thimau
  • fideos o arweinwyr ac ymarferwyr yn rhannu eu profiad o ddatblygu diwylliannau cadarnhaol a'i effaith.

Gweminar Cefnogi diwylliannau cadarnhaol: lansio’r canllaw

Daeth dros 220 o ymarferwyr, arweinwyr a phartneriaid o bob cwr o Gymru i’r gweminar i ddysgu mwy am gefnogi diwylliannau cadarnhaol.

Yn y gweminar rhannodd ymarferwyr ac arweinwyr eu profiadau a'u heriau o adeiladu diwylliannau cadarnhaol. Tynnwyd sylw hefyd at yr angen cynyddol am fwy o gyfleoedd i weithio gyda'i gilydd a rhannu dysgu ar draws y sector.

Gwyliwch ein gweminar lansio Canllaw diwylliannau cadarnhaol

Helpwch ni i siapio diwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol

Rydyn ni eisiau clywed eich barn chi am y Canllaw diwylliannau cadarnhaol drwy dderbyn adborth ar ddefnyddioldeb y canllaw, yr offer a'r adnoddau.

Helpwch ni drwy rannu eich barn, profiadau ac unrhyw anghenion cefnogaeth rydych chi ei angen i hyrwyddo a llunio diwylliannau cadarnhaol yn eich sefydliad chi.

I ddysgu mwy am raglen Cefnogi diwylliannau cadarnhaol, e-bostiwch diwylliannaucadarnhaol@gofalcymdeithasol.cymru.

Gweithio gyda’r Rayne Foundation

Rydyn ni’n gweithio gyda’r Rayne Foundation i hyrwyddo a thyfu diwylliannau cadarnhaol ar draws gofal cymdeithasol. 

Gyda'u cefnogaeth nhw, rydyn ni’n gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru i ddysgu am eu profiadau o gefnogi a mesur diwylliannau cadarnhaol o fewn eu sefydliadau. Byddwn ni'n defnyddio’r canfyddiadau i ddylunio a phrofi ffyrdd o ymgorffori diwylliannau cadarnhaol ar draws gofal cymdeithasol.

I ddysgu mwy am ein gwaith gyda’r Rayne Foundation, darllenwch ein darn newyddion ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.