Skip to Main content

Symudedd gwybodaeth: tystiolaeth ymchwil fel rhan gynhenid o ymarfer gofal cymdeithasol

08 Ionawr 2025

Yn y blog hwn mae Dr Micaela Gal o Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ffocysu ar ddulliau symudedd gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'n nodi sut maen nhw'n cymharu â thystiolaeth sydd wedi ei chyhoeddi am symudedd gwybodaeth mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.

Cefndir

Rydyn ni'n gwybod ei fod yn her i rannu tystiolaeth ymchwil a'i defnyddio mewn ymarfer gofal cymdeithasol (lle bo'n berthnasol). Er ein bod ni'n gallu sicrhau bod tystiolaeth ar gael, wedi ei chrynhoi a'i rhannu, does dim gwarantu y fydd yn cael ei defnyddio yn y byd sydd ohoni. 

Er mwyn ymateb i'r heriau hyn, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi datblygu Strategaeth ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol i Gymru. Maen nhw hefyd wedi creu cynnig tystiolaeth. Gall y ddau gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol, arweinwyr a dylunwyr wrth ddefnyddio tystiolaeth ymchwil. 

Mae'r cynnig tystiolaeth yn defnyddio dull o'r enw symudedd gwybodaeth.

Mae dulliau symudedd gwybodaeth yn helpu gwneud tystiolaeth yn haws i'w deall ac mae'n cysylltu pobl at ei gilydd. Mae hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw ddeall y dystiolaeth a'i rhoi ar waith yn eu lleoliadau penodol. 

Roedd Gofal Cymdeithasol Cymru'n awyddus i sicrhau ei bod wedi ystyried pob dull symudedd gwybodaeth. Felly, gofynnon nhw i Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru archwilio'r maes arbennig hwn am dystiolaeth a oedd wedi ei chyhoeddi, a'i disgrifio.

Y dulliau

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn defnyddio dulliau symudedd gwybodaeth fel: 

  • cyfnewid
  • broceru
  • cyd-greu 
  • lledaenu.

Mae'r dulliau hyn yn helpu pobl i ddeall, defnyddio, casglu a chreu ymchwil. 

Rôl y Ganolfan Dystiolaeth

Chwiliodd y tîm am dystiolaeth ymchwil oedd yn disgrifio dulliau symudedd gwybodaeth mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Roedd yn rhaid fod y gwaith wedi ei gyhoeddi.

Weithiau mae pobl yn defnyddio termau gwahanol i ddisgrifio symudedd gwybodaeth. Yn y Gymraeg, fe welwch chi eiriau fel ysgogi, hwyluso, cyfnewid, defnyddio, paratoi neu rannu yn dod cyn 'gwybodaeth' i gyfeirio at y maes arbennig hwn. Defnyddiodd y ganolfan dermau gwahanol wrth archwilio. Edrychon ni am dystiolaeth hyd at fis Mai 2024. 

Canfyddiadau'r Ganolfan Dystiolaeth

Daethon ni o hyd i bum astudiaeth berthnasol oedd yn tynnu ar wybodaeth o sawl gwlad. Roedd amrywiaeth o leoliadau gofal cymdeithasol yn cael eu disgrifio. Roedd y rhain yn cynnwys lles ac amddiffyniad plant, gofal dementia, cam-drin sylweddau a thriniaeth dibyniaeth ar sylweddau, gofal plant a theulu, gofal anabledd meddyliol a chorfforol, gofal pobl hŷn, cymorth cymdeithasol/cymorth gydag incwm, ac atal trais.

Roedd y dulliau symudedd gwybodaeth cafodd eu disgrifio yn yr astudiaethau'n cynnwys:

  • defnyddio adnoddau digidol ac amlgyfrwng
  • cynnal seminarau cyfnewid gwybodaeth a dod â phobl at ei gilydd
  • cael strategaethau trosglwyddo gwybodaeth cynhwysfawr
  • defnyddio adnoddau addysgiadol
  • defnyddio platfformau gwe
  • darparu cefnogaeth yn uniongyrchol i ymarferwyr
  • defnyddio crynodebau ymchwil.

Mae'r dulliau hyn yn gyson gyda model symudedd gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Daethon ni i'r casgliad bod angen mwy o ymchwil i ddeall pa ddulliau symudedd gwybodaeth oedd y rhai mwyaf effeithiol ar gyfer lleoliadau gofal cymdeithasol gwahanol. A bod angen ystyried cynllunio a gwerthuso fel rhan o unrhyw ddull symudedd gwybodaeth neu ymyriad er mwyn hybu gwella. 

Gofynnodd Gofal Cymdeithasol Cymru i ni chwilio am, a disgrifio, tystiolaeth wedi ei chyhoeddi ar ddulliau symudedd gwybodaeth.

Y dystiolaeth sydd wedi ei chyhoeddi

Rydyn ni wedi archwilio sut mae'r dystiolaeth sydd wedi ei chyhoeddi'n cymharu â fframwaith Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer symudedd gwybodaeth.

1. Defnyddio platfform gwybodaeth i ledaenu ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Gall hyn gwneud gwybodaeth yn hygyrch a thryloyw i weithwyr proffesiynol, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a'r cyhoedd. Mae hyn yn cyd-fynd ag adran ledaenu'r fframwaith.

2. Hyrwyddo cydweithredu rhyngddisgyblaethol

Mae hyn yn golygu bod ymchwilwyr, ymarferwyr, defnyddwyr gwasanaeth, a llunwyr polisi yn gweithio gyda'i gilydd. Mae'n helpu arloesedd, sicrhau bod canfyddiadau ymchwil yn berthnasol i ymarfer, ac yn cefnogi strategaeth symudedd gwybodaeth. Mae hyn yn cyd-fynd ag adran froceru'r fframwaith.

3. Mabwysiadu dulliau symudedd gwybodaeth amrywiol

Mae hyn yn cynnwys pethau fel adnoddau digidol a seminarau cyfnewid gwybodaeth. Gall defnyddio'r strategaethau hyn sicrhau bod ymyriadau wedi'u teilwra i anghenion a chyd-destunau penodol gwahanol leoliadau gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cyd-fynd â meysydd cyfnewid a chyd-greu'r fframwaith.

4. Datblygiad proffesiynol parhaus ac adeiladu capasiti ymarferwyr

Mae hyn yn helpu i wella sgiliau wrth gyrchu, dehongli a chymhwyso tystiolaeth ymchwil yn ymarferol, a hefyd i gefnogi gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae hyn yn cyd-fynd â meysydd cyfnewid a gallu ac adeiladu sgiliau'r fframwaith.

5. Cynnal gwerthuso trylwyr i ystyried effaith symudedd gwybodaeth dros amser

Mae adborth ymchwilwyr ac ymarferwyr yn medru llywio  strategaethau. A gwella eu heffeithiolrwydd mewn lleoliadau go iawn. Nid yw hyn yn rhan penodol o fewn meysydd y fframwaith, a gallwn ni ei ystyried yn faes ychwanegol.

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth

Mae'r Ganolfan Dystiolaeth wedi creu inffograffeg sy'n esbonio'r gwaith hwn: 

Adolygiad cyflym ar ddefnyddio symudedd gwybodaeth mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.

Gallwch chi ddysgu mwy am y prosiect a darllen yr adroddiad llawn.

Mae modd hefyd i chi gysylltu'n uniongyrchol â thîm Gofal Cymdeithasol Cymru: symudeddgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru.

Awdur y blog

Dr Micaela Gal

Dr Micaela Gal

Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Fues i'n gweithio am flynyddoedd yn y GIG fel microbiolegydd cyn symud i Brifysgol Caerdydd fel ymchwilydd mewn treialon ynghylch heintiau a'r defnydd cyfrifol o wrthfiotigau. Fe wnaethon ni'r ymchwil a chyhoeddi mewn cyfnodolion.

Roedd gwneud canfyddiadau ymchwil yn hygyrch ac yn hawdd i'w deall fel eu bod yn medru gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn bwysig iawn i mi. Felly tua 10 mlynedd yn ôl, fe wnes i symud i weithio ar symudedd gwybodaeth ac edrych ar sut i hybu defnyddio ymchwil er mwyn llywio ymarfer.

Yn y Ganolfan Dystiolaeth rwy'n gweithio gydag Elizabeth Doe, sy'n rheoli maes blaenoriaethau ymchwil ac effaith. Rydyn ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynlluniau symudedd gwybodaeth ar gyfer gwahanol ddarnau o ymchwil. Rydyn ni hefyd yn defnyddio fformat inffograffeg, crynodebau hawdd eu deall, darnau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, sesiynau briffio ar dystiolaeth, ac yn mapio pa wahaniaeth mae ymchwil yn ei wneud. 

Rydyn ni hefyd yn canolbwyntio ar ddefnyddio iaith glir sy'n ddealladwy i bobl tu hwnt i'r maes ymchwil.

Yn fy amser fy hun, rwy'n mwynhau'r awyr agored, garddio, cerdded y cŵn a gofalu am Gioia, Genna, Goose, Bart, Charlie a Derek (hen ddefaid sy'n anifeiliad anwes i mi).