Skip to Main content

Grŵp ymchwil data cysylltiedig gofal cymdeithasol i oedolion: dathlu gweminar cyntaf

22 Ionawr 2025

Ym mis Rhagfyr 2024, cynhaliodd tîm gofal cymdeithasol Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru gweminar cyntaf y grŵp ymchwil data cysylltiedig gofal cymdeithasol i oedolion. Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar hyrwyddo datblygiadau data a chyfleoedd ymchwil cyffrous yn y sector.

Rhai o uchafbwyntiau’r gweminar

Daeth ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o'r sector gofal cymdeithasol i oedolion i rannu eu diddordeb mewn defnyddio data gweinyddol cysylltiedig.

Roedd y sesiwn yn archwilio:

  • Cyfrifiad oedolion sy’n derbyn gofal a chymorth (ARCS) a Chyfrifiad gofalwyr di-dâl
  • bwriad ymchwilwyr Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) i ddefnyddio data cyfrifiad yn eu hymchwil arfaethedig
  • defnydd o ddata gweinyddol gan y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd dros y ddegawd a mwy diwethaf 
  • adolygiad cwmpasu gan y Ganolfan Treialon Ymchwil sy’n edrych ar ba ddata gofal cymdeithasol oedolion ledled y DU sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer ei gysylltu.

Gallwch chi wylio recordiad y gweminar neu ddarllen blog amdano ar dudalen YDG Cymru.

"Diweddglo gwych i’r flwyddyn gyda gweminar cyntaf y grŵp. Mynychodd pobl oedd yn gweithio yn y maes neu gyda diddordeb mewn ymchwil gofal cymdeithasol i oedolion, yn enwedig ymchwil sy’n defnyddio data gweinyddol cysylltiedig." – Tara Hughes, swyddog ymchwil, tîm gofal cymdeithasol YDG Cymru.

Mwy o wybodaeth

Dysgwch mwy am ein partneriaeth gydag YDG Cymru a beth rydyn ni’n ei feddwl wrth ddefnyddio’r termau data gweinyddol ac ymchwil data cysylltiedig.

Ewch i dudalen thema gofal cymdeithasol YDG Cymru.

Os hoffech chi wybodaeth am y grŵp ymchwil data cysylltiedig gofal cymdeithasol i oedolion neu'r diweddaraf am ei ddigwyddiadau a'i weithgareddau, cysylltwch â Tara Hughes: tara.hughes@gofalcymdeithasol.cymru.