Yn y blog hwn mae Rosalind Phillips, prentis ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), yn cymharu ymarferion ymchwil WCPP a'n tîm crynodebau tystiolaeth.
Cefndir y blog
Fel rhan o'm swydd fel prentis ymchwil gyda WCPP, wnes i leoliad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a'r tîm Ymchwil, Data ac Arloesi, sy'n cynhyrchu cynnwys ar gyfer y Grŵp Gwybodaeth. Fel rhan o'r lleoliad gweithiais i gyda'r tîm crynodebau tystiolaeth i ddysgu mwy am y gwaith maen nhw’n ei wneud a'u defnydd o dystiolaeth. Mae'r profiad hwn wedi gwneud i mi ystyried beth sy'n debyg - ac yn wahanol - rhwng eu harfer nhw ac arfer WCPP.
Pwrpas y dau dîm
Yn WCPP, rydyn ni’n darparu tystiolaeth i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru i wella penderfyniadau a chanlyniadau polisi. Rydyn ni’n gwneud prosiectau ar gyfer Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru sy'n addas i'r meysydd rydyn ni'n rhoi blaenoriaeth iddyn nhw. Mae’r pynciau’n eang ac yn ymateb i anghenion tystiolaeth polisi yng Nghymru.
Mae’r tîm crynodebau tystiolaeth yn ysgrifennu cynnwys yn bennaf ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Eu prif uchelgais yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal cymdeithasol. Mae'r tîm felly yn ymateb yn benodol i anghenion tystiolaeth y gweithlu gofal cymdeithasol i gefnogi a gwella eu hymarfer.
Mae diben a chynulleidfa pob sefydliad yn chwarae rhan allweddol wrth benderfynu ar eu proses a sut maen nhw’n deall ac yn defnyddio tystiolaeth.
Y broses o ddefnyddio tystiolaeth
Er bod y ddau dîm yn bragmatig wrth gasglu a defnyddio tystiolaeth, mae gwahaniaethau o ran maint ac arbenigedd pwnc y timau yn dylanwadu ar y broses gyffredinol. Mae WCPP yn cael ei harwain gan ansawdd tystiolaeth. Mae wedi sefydlu dull o ddefnyddio tystiolaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gyda phob prosiect yn cwblhau pum cam allweddol.
Mewn cyferbyniad, mae tîm crynodebau tystiolaeth Gofal Cymdeithasol Cymru yn defnyddio proses fwy hyblyg, sy’n cael ei harwain gan theori ac ymarfer. Maen nhw’n adlewyrchu mewnbwn cydweithwyr sydd ag arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a theori gymdeithasol berthnasol. Mae’n bosibl y gall ymarfer y tîm crynodebau tystiolaeth hefyd fod yn fwy hyblyg gan ei fod yn dîm bach - tri ymchwilydd o gymharu â 19 WCPP. Mae ganddyn nhw arbenigedd academaidd ac ymarferol yn benodol mewn ymchwil a gofal cymdeithasol. Mewn cymhariaeth, mae arbenigedd a phrofiad tîm WCPP yn llai penodol ac yn troi o amgylch pynciau amrywiol sy’n berthnasol.
Diffiniad o dystiolaeth
Yn WCPP ac o fewn tîm crynodebau tystiolaeth Gofal Cymdeithasol Cymru, mae sgyrsiau rheolaidd am yr hyn sy'n cyfrif fel tystiolaeth. Rydyn ni’n bragmatig yn ein diffiniad o dystiolaeth. Er enghraifft, nid yw hapdreialon wedi eu rheoli (randomised control trials) bob amser yn bosib nac yn rhoi’r dystiolaeth orau i gwrdd â holl anghenion polisi.
Roeddwn i am ddeall sut oedd tîm Gofal Cymdeithasol Cymru yn gosod ffiniau ar gyfer defnyddio tystiolaeth. Hynny yw, sut maen nhw'n gwneud y penderfyniadau angenrheidiol, weithiau cymhleth, ynghylch pa dystiolaeth sy'n briodol i'w defnyddio yn eu crynodebau.
Fe nododd y tîm yn bendant, na fyddai cynhyrchu adolygiadau systematig traddodiadol yn cyflawni eu diben. A dywedodd aelodau'r tîm wrthyf eu bod yn fwriadol hyblyg gyda'u diffiniad o dystiolaeth. Mae hyn yn gysylltiedig â'r nod o greu crynodebau pwrpasol a hawdd eu deall ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol.
Mae hefyd yn deillio o fanteisio ar eu harbenigedd mewnol i asesu addasrwydd gwahanol fathau o dystiolaeth ar gyfer pob pwnc. Mae hyn yn seiliedig ar eu gwaith gosod blaenoriaethau ymchwil, yn ogystal â'r blaenoriaethau sy’n cael eu gosod gan Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru).
Prif ffocws y tîm crynodebau tystiolaeth yw darparu tystiolaeth i gefnogi staff gofal cymdeithasol i gynnig gofal wedi'i bersonoli o’r ansawdd uchaf i bobl yng Nghymru (yn seiliedig ar werthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru).
Yn bennaf, mae’r tîm yn tynnu ar ymchwil wedi ei adolygu gan gymheiriaid ac sydd wedi ei gyhoeddi. Ond nid yw'r dystiolaeth sydd ar gael bob amser yn diwallu eu hanghenion.
O ganlyniad, maen nhw’n hyblyg o ran penderfynu pa dystiolaeth sy’n cael ei chynnwys. Gyda rhai pynciau, roedden nhw’n dadlau bod angen chwilio am fath arall o dystiolaeth, er enghraifft, er mwyn adlewyrchu profiad pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, neu unigolion â chyfrifoldebau gofalu proffesiynol neu bersonol.
Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau
Pwysleisiodd tîm Gofal Cymdeithasol Cymru nad yw ymchwil bob amser yn cael ei hariannu a’i chynhyrchu’n gyfartal neu’n deg ac felly mae angen cynnwys cyfraniadau gan bobl gall cael eu anwybyddu gan ymchwil draddodiadol, academaidd drylwyr. Yn WCPP, rydyn ni wedi croesawu cymrawd ymchwil i archwilio a gwella rôl arbenigwyr trwy brofiad yn ein gwaith. A deall yr heriau a'r risgiau – gan gynnwys rhai methodolegol – o gynnwys arbenigwyr trwy brofiad bywyd mewn ymchwil polisi.
Disgrifiodd y tîm crynodebau tystiolaeth werth profiad bywyd hefyd a'r angen i gydbwyso arbenigedd profiad bywyd â safonau tystiolaeth traddodiadol a thrylwyredd methodolegol. Wrth dynnu ar fathau llai traddodiadol o dystiolaeth, mae'r tîm yn cynnwys gwybodaeth am y ffynhonnell (a'i chyfyngiadau posibl) yn eu crynodebau.
I gloi
Roedd y lleoliad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyfle gwych i mi weld y prosesau a'r ffyrdd gwahanol o ddefnyddio tystiolaeth i ddibenion arbennig. Dysgais i wersi gwerthfawr drwy gymharu gwaith y ddau dîm.