
Ymlaen: gweithio gyda’n gilydd i yrru newid mewn gofal cymdeithasol
Rydyn ni wedi cyhoeddi ein cynllun gweithredu 2025 i 26 i gefnogi strategaeth Ymlaen.
Mae’r cynllun yma’n datgan sut bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi a chyflawni uchelgeisiau Ymlaen, ein strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol.
Y llynedd, cyflawnodd ein cynllun gweithredu 2024 i 2025 waith allweddol sydd wedi helpu i lywio'r defnydd o dystiolaeth, a chefnogi gwneud penderfyniadau ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r gwaith yn cynnwys:
- dyfais sy'n asesu eich potensial digidol, ac asesiad aeddfedrwydd data gydag awdurdodau lleol
- Dweud Eich Dweud, ein harolwg blynyddol o’r gweithlu
- crynodebau tystiolaeth sy’n canolbwyntio ar bynciau gofal cymdeithasol allweddol a nodwyd yn ein gwaith blaenoriaeth ymchwil
- cyhoeddi adroddiad cyntaf Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu gofal cymdeithasol, i helpu taflu goleuni ar brofiadau, rhwystrau a chyfleoedd i'r gweithlu gofal cymdeithasol Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yng Nghymru.
Bydd ail flwyddyn y strategaeth yn cynnig cyfleoedd i ni weithio’n agosach fyth gyda'n partneriaid.
Dywedodd Lisa Trigg, ein Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu:
“Gyda’n partneriaid, rydyn ni eisiau creu diwylliant lle mae tystiolaeth yn ganolog i'r broses gyflawni ac yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ar bob lefel o ofal cymdeithasol. Er mwyn helpu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal cymdeithasol, mae’n bwysig fod pobl yn teimlo ysbrydoliaeth a chefnogaeth i drio pethau newydd.
“Mae ein cynllun gweithredu 2025 i 2026 yn adeiladu ar y perthnasoedd a'r cydweithio cryf a wnaeth llwyddiant ein gwaith y llynedd yn bosibl. Drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru, ExChange, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, IMPACT, Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth, ac Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, byddwn ni’n parhau i uno’r dotiau ar draws y sector er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal cymdeithasol.”
I gefnogi'r gwaith o gyflawni Ymlaen, gyda’n partneriaid, rydyn ni’n canolbwyntio ar bum thema:
- Pennu cyfeiriad: nodi blaenoriaethau cyffredin ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella fel y gallwn gyfeirio sylw, adnoddau a chamau gweithredu i'r mannau lle mae eu hangen fwyaf.
- Cysylltu: 'uno'r dotiau' rhwng y gwahanol fathau o gymorth ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella.
- Galluogi: creu amodau sy'n galluogi newid positif a pharhaol ym maes gofal cymdeithasol.
- Cefnogi: darparu cymorth uniongyrchol i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i annog ymchwil, arloesi a gwella.
- Amharu: ysbrydoli ffyrdd newydd o weithio.
Cynllun gweithredu 2025 i 2026 strategaeth Ymlaen
Mae gwybodaeth a chanfyddiadau ein gwaith sy'n gysylltiedig â strategaeth Ymlaen ar gael ar wefan y Grŵp Gwybodaeth.