Ymlaen: ein cynlluniau i gefnogi blwyddyn gyntaf y strategaeth
Ym mis Mai, lansiodd Ymlaen: ein strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol.
Rydyn ni eisiau creu diwylliant lle mae tystiolaeth yn ganolog i'r broses gyflawni ac yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ar bob lefel o ofal cymdeithasol. Diwylliant lle mae pobl yn teimlo ysbrydoliaeth a chefnogaeth i roi cynnig ar bethau newydd.
Ymlaen yw’r strategaeth rydyn ni wedi’i datblygu gyda’n partneriaid i gyflawni’r nodau hyn.
Ein cynllun gweithredu: 2024 i 2025
Mae ein cynllun gweithredu yn datgan beth rydyn ni’n ei wneud yng Ngofal Cymdeithasol Cymru yn ystod y flwyddyn gyntaf i gyflawni uchelgeisiau’r strategaeth.
Mae ein cynllun gweithredu yn dweud sut byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i gefnogi pum thema’r strategaeth.
Darllenwch ein cynllun gweithredu 2024 i 2025.
Drwy weithio gyda phartneriaid byddwn ni’n:
- Pennu cyfeiriad: nodi blaenoriaethau cyffredin ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella fel y gallwn gyfeirio sylw, adnoddau a chamau gweithredu i'r mannau lle mae eu hangen fwyaf.
- Cysylltu: 'uno'r dotiau' rhwng y gwahanol fathau o gymorth ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella parhaus.
- Galluogi: creu amodau sy'n galluogi newid positif a pharhaol ym maes gofal cymdeithasol.
- Cefnogi: darparu cymorth uniongyrchol i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i annog ymchwil, arloesi a gwella parhaus.
- Amharu: ysbrydoli ffyrdd newydd o weithio.
Dywedodd Emma Taylor-Collins, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Data ac Arloesi:
“Heddiw, rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein cynllun gweithredu 2024 i 2025 i gefnogi strategaeth Ymlaen.
“Mae strategaeth Ymlaen yn gyfle i ni gyd 'uno'r dotiau' i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Ond nid yw hyn yn rhywbeth gall un sefydliad ei wneud ar ben ei hun. Dyma pam bydd angen cydweithio cryf gyda gwahanol sefydliadau partner er mwyn gwireddu gweledigaeth y strategaeth.
“Dros y misoedd nesaf byddwn ni’n gweithio’n agos gyda phartneriaid i ddeall sut fyddan nhw’n cyfrannu i’n helpu ni i gyflawni’r nodau sydd wedi eu gosod yn Ymlaen.”
Darganfod mwy
Darllenwch strategaeth Ymlaen 2024 i 2029 yn llawn ar ein gwefan.