Skip to Main content

Gofal a chymorth ar gyfer oedolion hŷn

Mae’r ymarfer gosod blaenoriaethau ymchwil hwn yn cyfeirio at ofal a chymorth i bobl dros 65 mlwydd oed yng Nghymru. Gweithiodd Gofal Cymdeithasol Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) ar y cyd â’r James Lind Alliance (JLA) dros gyfnod o chwe mis yn ystod 2020 i 2021.

Beth oedd amcanion y prosiect?

Roedd ffocws y prosiect ar ddarganfod bylchau mewn ymchwil i ddeall anghenion gofal pobl hŷn. Roedd angen i bawb a gymerodd rhan feddwl am atebion i’r cwestiwn: “Beth yw’r ffordd orau i ddarparu gofal a chefnogaeth gynaliadwy i helpu pobl hŷn fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus?”

Sut gafodd y prosiect ei gynnal?

Roedd bron i 400 o bobl yn rhan o’r prosiect, gan gynnwys pobl hŷn oedd yn defnyddio gofal a chymorth, eu gofalwyr ac ymarferwyr gofal cymdeithasol.

Cafodd y dull arolwg ei ddefnyddio er mwyn datblygu rhestr hir o gwestiynau ymchwil. Wedi arolwg cyntaf, roedd ail arolwg wedyn yn gofyn i bobl dewis y 10 cwestiwn mwyaf pwysig iddyn nhw o’r rhestr hir.

Llwyddodd yr ail arolwg i amlygu 15 cwestiwn oedd heb eu hateb eisoes gan ymchwil.

Cafodd ein rhanddeiliaid gyfle i benderfynu ar y 10 cwestiwn ymchwil buddugol mewn gweithdy ar-lein. Roedd pobl gyda phrofiad bywyd ac ymarferwyr gofal cymdeithasol, o wahanol lleoliadau, yn cael y cyfle i raddio’r cwestiynau yn ôl pwysigrwydd.

Pwy a’n helpodd gyda’r gwaith?

Fe gysyllton ni â grwpiau rhanddeiliaid amrywiol a sefydliadau partner. Roedd gan y proseict hefyd weithgor oedd yn adolygu pob cam o’r broses.

Y 10 cwestiwn buddugol

Dyma’r cwestiynau cafodd eu dethol:

  1. A yw cynllunio gofal cynnar a/neu gyswllt cynnar neu reolaidd gan wasanaethau gofal cymdeithasol, yn helpu i atal problemau ac yn arwain at brofiadau gwell i bobl hŷn nag aros nes bod argyfwng?
  2. Sut allwn ni leihau arwahanrwydd a straen ymysg gofalwyr pobl hŷn ac atal blinder llethol?
  3. Sut y gall gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd, gan gynnwys y sector gwirfoddol, weithio gyda'i gilydd yn fwy effeithiol i ddiwallu anghenion pobl hŷn?
  4. Oes modd teilwra gofal cymdeithasol i bobl hŷn i fuddiannau ac anghenion unigolion, gan gynnwys cymryd rhan yn well mewn penderfyniadau am eu gofal eu hunain?
  5. Sut y gall gofal cymdeithasol gefnogi orau pobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth (e.e. pobl sydd angen cefnogaeth gan ystod o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol)?
  6. Oes modd ariannu gofal cymdeithasol i bobl hŷn mewn ffordd gynaliadwy?
  7. Pa rwystrau y mae pobl hŷn yn eu profi wrth gyrchu gwasanaethau (e.e. mynediad at wybodaeth, amseroedd aros, mynediad at dechnoleg ar-lein, cyfathrebu, costau)? Sut y gellir gwella mynediad?
  8. Oes modd gwella telerau ac amodau, gan gynnwys cyflogau, y staff sy'n darparu gofal cymdeithasol i bobl hŷn? A fydd hyn yn denu mwy o bobl i'r proffesiwn?
  9. Oes modd cadw gofal cymdeithasol i bobl hŷn o ansawdd uchel cyson?
  10. Sut y gall gofal cymdeithasol yn y cartref a'r gymuned alluogi pobl hŷn i gymdeithasu, gan leihau unigrwydd ac arwahanrwydd?

Yn y gweithdy, cafodd y cwestiynau canlynol eu trafod hefyd a'u rhoi yn nhrefn blaenoriaeth:


11. Sut gall gofal cymdeithasol i bobl hŷn fod yn ddigon hyblyg i ymateb i anghenion ac argyfyngau sy'n newid?

12. Sut mae lleoliad mewn gwahanol rannau o Gymru yn effeithio ar ba mor dda y gall pobl hŷn fyw'n annibynnol (er enghraifft, opsiynau trafnidiaeth a llety)?

13. Sut gall cyfleoedd seibiant i ofalwyr pobl hŷn cael eu gwella?

14. Beth yw'r manteision i bobl hŷn o gael cymorth parhaus gan yr un gweithwyr gofal cyflogedig? Beth yw’r ffordd orau i gyflawni hyn?

15. Beth sydd wedi'i ddysgu am y ffordd orau o gefnogi pobl hŷn yn ystod cyfnod Covid, a beth ddylai gael ei flaenoriaethu ar gyfer y dyfodol?

Beth ydyn ni’n gwneud gyda’r blaenoriaethau?

Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid i roi’r cwestiynau ymchwil ar waith. Mae blaenoriaethau ymchwil yr ymarfer hwn wedi cael eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft: