Skip to Main content

Cymuned Dystiolaeth

Mae’r Gymuned Dystiolaeth ar gyfer ymarferwyr, ymchwilwyr, pobl â phrofiad byw a’r rhai sy’n rhannu angerdd a diddordeb mewn ymchwil a thystiolaeth gofal cymdeithasol.

Mae’r gymuned yn cwrdd ar-lein ac wyneb yn wyneb, gan ddarparu lle i aelodau siarad am ymarfer wedi'i gyfoethogi gan dystiolaeth gyda'i gilydd.

Gall aelodau rannu darnau o waith, heriau y maen nhw'n eu hwynebu a gofyn cwestiynau i'w gilydd.

Mae llwyfan ar-lein lle gall aelodau barhau â sgyrsiau rhwng cyfarfodydd. Gallan nhw hefyd rannu adnoddau, newyddion, ysgrifennu blogiau a dod o hyd i ddigwyddiadau sydd i ddod.

Rydyn ni'n cynnal gweithdai rheolaidd lle byddwn ni'n trafod darnau penodol o waith ymchwil neu dystiolaeth gofal cymdeithasol gyda’n gilydd. Mae’r rhain yn seiliedig ar themâu sy’n cael eu hawgrymu gan aelodau’r gymuned.

Ein nod yw chwalu'r rhwystrau i ymgysylltu ag ymchwil gofal cymdeithasol. Rydyn ni am wneud ymchwil a thystiolaeth yn fwy hygyrch i ymarferwyr prysur.

Mae gennym ni ffocws ar sut mae ymchwil a thystiolaeth yn gallu cyfoethogi ymarfer a llunio polisi. Y nod yn y pen draw yw gwella canlyniadau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Ymunwch â’r Gymuned Dystiolaeth

Prif gyswllt

Rhiannon Wright

Rhiannon Wright

Rwy'n rheoli ein Cymuned Dystiolaeth. Ei nod yw hwyluso ymchwil a thystiolaeth i ymarferwyr prysur. Rwy’n teimlo'n gryf y dylai ymchwil a thystiolaeth gofal cymdeithasol fod yn hygyrch ac yn haws i’w defnyddio'n ymarferol. 

Rwy’n weithiwr cymdeithasol cymwysedig ac mae gennyf gefndir mewn gwasanaethau plant awdurdodau lleol. Treuliais hefyd flynyddoedd lawer yn y trydydd sector yn gweithio’n therapiwtig gyda phlant, gan ganolbwyntio ar bynciau camfanteisio rhywiol, ymddygiad rhywiol niweidiol a thrawma datblygiadol. 

Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, roeddwn yn gweithio i fwrdd diogelu rhanbarthol, yn cydlynu adolygiadau ymarfer oedolion a phlant ac yn datblygu eu strategaeth sicrhau ansawdd.