Cefnogi canlyniadau cadarnhaol mewn gofal preswyl i blant
Awst 2024
Ysgrifennwyd gan Dr Kat Deerfield a’i olygu gan Dr Eleanor Johnson a Dr Grace Krause
Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n tynnu sylw at ymchwil berthnasol a chyfredol ynghylch sut i ddarparu gofal preswyl mewn ffordd sy’n cefnogi canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc.
Mae dileu elw preifat o ofal plant yn newid tirwedd gofal preswyl yng Nghymru. Mae’r crynodeb hwn yn canolbwyntio ar dystiolaeth ynghylch y ffordd orau o ddarparu gofal preswyl i blant fel bod plant a phobl ifanc yn cael profiadau cadarnhaol. Rydyn ni hefyd yn tynnu sylw at ymchwil sy’n canolbwyntio ar beth sydd gan blant a phobl ifanc i’w ddweud am beth maen nhw eisiau o ran eu bywyd cartref mewn gofal preswyl.
Cyflwyniad
Mae gofal preswyl i blant yng Nghymru yn newid. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal (Llywodraeth Cymru, 2022). Mae diwedd darpariaeth er-elw wedi arwain at drafodaethau ynghylch y ffordd orau o ddarparu gofal preswyl i blant sy’n derbyn gofal. Mae’r crynodeb hwn yn edrych ar yr ymchwil ar arferion da ym maes gofal preswyl i blant, gan archwilio pa ffactorau sy’n bwysig er mwyn gwneud i’r gwasanaethau hyn weithio i blant a phobl ifanc.
Mae llawer o ffyrdd o redeg gwasanaethau gofal preswyl i blant. Bydd gwahanol wasanaethau yn mabwysiadu dulliau gweithredu, fframweithiau, neu fodelau gofal penodol i lywio eu gwaith. Mewn ymchwil ac ymarfer, y mae’r termau ‘dull gweithredu’, ‘fframwaith’, a ‘model’ yn cael eu defnyddio mewn ffordd anghyson, ac weithiau i olygu’r un peth. Gall fod yn anodd gwybod beth yw’r gwahaniaeth rhyngddyn nhw (Macdonald et al., 2012). Mae’r term ‘model’ yn cael ei ddefnyddio mewn adroddiad gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth ar ddulliau gweithredu therapiwtig mewn gofal preswyl i blant yn yr ystyr cyffredinol o “‘ddull gweithredu’ neu ‘raglen’” (Macdonald et al., 2012). Dyma sut byddwn ni’n defnyddio’r term ‘model’ yn y crynodeb hwn.
Mae llawer o fodelau o ofal preswyl i blant a rhywfaint o dystiolaeth o ymchwil ynghylch beth sy’n gwneud i bob model weithio. Mae llawer o’r modelau hyn yn gorfod cael eu prynu gan y sefydliadau sy’n eu defnyddio. Mewn rhai achosion, nid yw manylion y modelau ar gael i’r cyhoedd, a gall hyn olygu ei bod yn anos dod o hyd i’r dystiolaeth o ymchwil y mae’r modelau hyn yn seiliedig arni. Yn ogystal, mae swm yr ymchwil sy’n cefnogi modelau unigol yn amrywio’n fawr (Cordis Bright, 2018). Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n edrych ar dystiolaeth sy’n berthnasol i ddarparu gofal – heb bwyslais ar ba fodel sy’n cael ei ddefnyddio. Yn hytrach nag edrych ar fodelau penodol, rydyn ni wedi canolbwyntio ar yr hyn sy’n gyffredin rhwng gwahanol fodelau o ofal preswyl plant. Rydyn ni’n archwilio’r dystiolaeth ynghylch pa elfennau o ofal preswyl i blant sy’n hybu canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc waeth pa fodel sy’n cael ei ddefnyddio. Mae llawer o ymchwil ar ofal preswyl i blant hefyd yn canolbwyntio ar fodelau triniaeth neu ddulliau gweithredu penodol sy’n ystyriol o drawma. Mae ein crynodeb o dystiolaeth am ddulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma (Cordis Bright a Taylor-Collins, 2024) yn edrych ar ymchwil am y pwnc hwn yn fwy cyffredinol.
Yn y crynodeb hwn, rydyn ni archwilio’r ymchwil am brofiadau plant a phobl ifanc o’u hamgylchedd cartref mewn gofal preswyl. Mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd creu man lle mae plant a phobl ifanc yn teimlo’n ddiogel, yn gyfforddus, ac yn gartrefol.
Gofal preswyl i blant mewn deddfwriaeth a chanllawiau yng Nghymru
Ym mis Mawrth 2023, roedd 7,208 o blant yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru, ac roedd 10 y cant ohonynt yn byw mewn rhyw fath o ofal preswyl i blant (Llywodraeth Cymru, 2023). Mae sawl darn o ddeddfwriaeth sy’n rheoleiddio gofal plant sy’n derbyn gofal.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)
Daeth y CCUHP yn rhan o gyfraith ddomestig Cymreig yn 2011 ar ffurf Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae’r Mesur yn egluro bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi ‘sylw dyladwy’ i CCUHP yn ei holl bolisïau. Mae’r Confensiwn yn nodi bod gan bob plentyn hawl i gael penderfyniadau wedi’u gwneud er eu lles pennaf a’r hawl i leisio barn am benderfyniadau sy’n ymwneud â nhw.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae’r Ddeddf yn rheoleiddio darpariaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys cynllunio gofal a chymorth a’r lleoliadau lle dylen nhw gael eu lletya. Mae’r Ddeddf hefyd yn rheoleiddio sut i adolygu achosion a pha drefniadau ddylai gael eu gwneud pan fydd pobl ifanc yn gadael gofal.
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2024
Mae Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2024 yn bwriadu dileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal. Os bydd yn cael ei roi ar waith, o fis Ebrill 2026 ymlaen bydd yn ofynnol i bob sefydliad newydd sy’n darparu gofal preswyl i blant gael statws nid-er-elw. Byddai angen i’r darparwyr er-elw presennol newid i statws nid-er-elw erbyn mis Ebrill 2027.
Bydd gan y Bil ganlyniadau pellgyrhaeddol o ran ailstrwythuro darpariaeth i blant sy’n derbyn gofal. Yn 2022, roedd dros 80 y cant o’r cartrefi gofal i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael eu rhedeg gan y sector preifat (Llywodraeth Cymru, 2022). O ganlyniad, bydd y newid i ofal nid-er-elw yn golygu newid sylweddol i dirwedd gofal preswyl i blant ar hyd a lled y wlad.
Mae’r Alban hefyd wedi gwneud newidiadau polisi i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, yn dilyn yr Adolygiad Annibynnol o Ofal (2020). Roedd yr adolygiad hwn yn pwysleisio bod rhaid ailfuddsoddi’r holl elw mewn gofal plant. Yma yng Nghymru, mae Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2024 hefyd yn ceisio sicrhau nad yw arian cyhoeddus sy’n cael ei fuddsoddi mewn gofal i blant sy’n derbyn gofal yn creu elw i unigolion neu fusnesau.
Mae symud i system nid-er-elw yn ceisio gwella canlyniadau drwy newid y ffordd y mae arian yn y system gofal preswyl yn cael ei wario. Mae Llywodraeth Cymru (2022) yn cynnig y bydd arian sy’n cael ei wario ar wasanaethau plant, sydd ar hyn o bryd yn creu elw, yn cael ei ailfuddsoddi er mwyn:
- sicrhau gwell profiadau a chanlyniadau i blant a phobl ifanc
- cynorthwyo i ddatblygu a gwella gwasanaethau
- hybu datblygiad proffesiynol staff.
Mae ystyriaethau eraill sy’n gysylltiedig â symud oddi wrth ddarpariaeth er-elw. Mae tystiolaeth bod rhai plant yn teimlo’n anghyfforddus eu bod yn rhan o system ‘marchnad’ (Comisiynydd Plant Cymru, 2021). Mae tystiolaeth gymysg hefyd ynghylch ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu. Mae rhywfaint o ymchwil yn awgrymu bod ansawdd darpariaeth gan awdurdodau lleol a darparwyr preifat yn debyg (Yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, 2022). Ond mae peth ymchwil yn dangos ansawdd gwell, a gwell canlyniadau, mewn darpariaeth nid-er-elw (Ablitt et al., 2024). Mae tystiolaeth bod gan gartrefi gofal preswyl nid-er-elw gyfraddau trosiant staff is, llai o symud lleoliadau, a llai o leoliadau y tu allan i’r ardal na chartrefi sy’n cael eu rheoli gan gwmnïau mawr (Ablitt et al., 2024).
Beth mae ymchwil yn ei ddweud am fodelau gofal preswyl plant?
Mae’r newid i ofal nid-er-elw yn creu cyfleoedd i newid a datblygu darpariaeth mewn ffordd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ymchwil. Mae llawer o fodelau o ofal preswyl sydd â gwahanol bersbectifau a strwythurau. Nid yw pob un o’r rhain yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth ymchwil glir, felly gall fod yn anodd dweud pa mor dda y mae pob model yn gweithio neu sut y mae modelau yn cymharu â’i gilydd (Bailey et al., 2019; Cordis Bright, 2018). Yn hytrach na disgrifio modelau unigol, mae’r crynodeb hwn yn canolbwyntio ar nodweddion gofal preswyl a all gefnogi canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc.
Yn ein dadansoddiad o’r dystiolaeth ymchwil ar ofal preswyl i blant rydyn ni wedi nodi nifer o nodweddion cadarnhaol sy’n cael eu rhannu ar draws nifer o fodelau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- dulliau gweithredu therapiwtig o gefnogi plant a phobl ifanc (Macdonald et al., 2012; Parry et al., 2023)
- hyfforddiant a chefnogaeth i staff (Cordis Bright, 2018; Parry et al., 2023)
- cael lleoliad priodol a chefnogi cysylltiadau plant a staff â’r gymuned leol, addysg, a rhieni a gofalwyr lle bo’n briodol (Montserrat et al., 2022; Sommerfeldt, 2022; Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant, 2024)
- amgylchedd cartref diogel a chroesawgar (Allcock, 2019; Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant, 2024; Johnson, 2016; Sommerfeldt, 2022)
- cysondeb a pharhad gofal (Cordis Bright, 2018; Park et al., 2020).
Dulliau gweithredu therapiwtig mewn gofal preswyl
Yn aml iawn mae plant a phobl ifanc sy’n byw mewn gofal preswyl wedi profi trawma cymhleth (Macdonald et al., 2012; Parry et al., 2023). Mae’n bosibl hefyd bod ganddyn nhw anghenion emosiynol ac ymddygiadol, ac anghenion iechyd meddwl cymhleth, ambell waith oherwydd esgeulustod a thrawma blaenorol neu berthnasoedd sydd wedi cael eu hamharu (Parry et al., 2023).
Mae gofal preswyl therapiwtig yn cyfeirio at ofal preswyl sydd wedi’i adeiladu ar ddealltwriaeth o seicoleg neu fodelau darparu therapi. Mae’r modelau hyn yn aml wedi’u cynllunio o gwmpas nodau fel adeiladu cymwyseddau, deall ymddygiad plant yn well, neu adeiladu perthnasoedd cryfach (Macdonald et al., 2012). Mae rhai lleoliadau gofal preswyl therapiwtig hefyd wedi’u dylunio mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â beth mae hyn yn ei olygu yn ein crynodeb o’r dystiolaeth am ddulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma (Cordis Bright a Taylor-Collins, 2024).
Mae ymchwil yn dangos bod gofal preswyl therapiwtig yn hybu amgylchedd sy’n iachau ar gyfer plant ag anghenion sy’n galw am gefnogaeth gymhleth, beth bynnag yw model penodol y lleoliad (Macdonald et al., 2012; McNamara, 2020). Mae’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc wella o drawma ac mae’n ceisio gwella canlyniadau sy’n gysylltiedig â llesiant emosiynol ac iechyd meddwl (Macdonald et al., 2012). Mae angen rhagor o ymchwil i egluro’r effaith gadarnhaol y gall dulliau gweithredu therapiwtig ei chael ar fywydau plant sy’n byw mewn gofal preswyl a pha elfennau o’r dulliau gweithredu hyn yw’r rhai pwysicaf. Mae llawer o ymchwil yn canolbwyntio ar fodelau therapiwtig unigol, heb lawer o eglurder ynglŷn â beth sy’n eu gwneud yn wahanol i’w gilydd, neu pam y gallai un dull gweithredu fod yn fwy priodol nag un arall mewn sefyllfa arbennig (Bellonci a Holmes, 2021; James, 2011). Mae llawer o’r modelau hyn wedi’u datblygu gan ddarparwyr er-elw, ac yn eiddo i ddarparwyr o’r fath, ac mae rhai ohonynt yn cael eu cefnogi gan fwy o dystiolaeth ymchwil na’i gilydd (Bellonci a Holmes, 2021; Cordis Bright, 2018).
Mae cartrefi diogel i blant yn defnyddio dulliau gweithredu therapiwtig oherwydd bod plant sydd yn y lleoliadau hyn yn debygol o fod wedi profi trawma lluosog a/neu gymhleth. Mae cartref diogel i blant yn fath o gartref preswyl i blant risg uchel (hynny yw, risg y bydd plentyn neu berson ifanc yn achosi niwed personol neu yn achosi niwed i rywun arall). Mae plant hefyd yn cael eu lleoli yn y cartrefi hyn oherwydd pryderon yn ymwneud â lles pan nad yw lleoliadau eraill yn cael eu hystyried yn ddigon diogel (Williams et al., 2024). Ym mis Mawrth 2024, roedd 46 y cant o’r lleoliadau mewn cartrefi diogel i blant yng Nghymru a Lloegr wedi’u gwneud am resymau yn ymwneud â lles. Mae hyn yn golygu bod pryder bod angen i blentyn gael ei ddiogelu rhag niwed gan eraill, yn hytrach nag oherwydd bod y plentyn yn peri risg niwed personol neu i rywun arall (Yr Adran Addysg, 2024).
Mae gofal preswyl diogel i fod yn ofal tymor byr, oherwydd mae terfynau cyfreithiol ynghylch cyfyngu ar hunanreolaeth plant. Nid oes gennym ddigon o dystiolaeth ynglŷn ag effeithiolrwydd y dulliau gweithredu therapiwtig sy’n cael eu defnyddio yn y lleoliadau hyn. Mae ymarferwyr yn dweud ei bod yn anodd gwneud cynnydd therapiwtig mewn sefydliadau gofal preswyl diogel oherwydd cyfnod byr y lleoliadau (Williams et al., 2024). Mae hwn hefyd yn ei gwneud yn anodd i ymgysylltu’n effeithiol ag asiantaethau eraill sy’n darparu cefnogaeth iechyd meddwl a lles. Mae ymchwil hefyd yn dangos pa mor bwysig yw cael opsiynau addas ar gyfer lleoliadau, fel bod modd diwallu anghenion unigol plentyn sy’n cael ei leoli mewn cartref diogel i blant am resymau yn ymwneud â lles (Williams et al., 2024).
Hyfforddiant a chefnogaeth i staff
Nid oes llawer o ymchwil ar gael am gefnogaeth a llesiant staff gofal preswyl i blant (Parry et al., 2021). Ond mae ymchwil yn dangos bod perthynas buddiol rhwng canlyniadau cadarnhaol i blant sy’n byw mewn gofal preswyl a llesiant y staff sy’n gweithio gyda nhw (Parry et al., 2021). Mae’r ymchwil yma’n darganfod cysylltiadau rhwng canlyniadau cadarnhaol i blant a bodlonrwydd mewn swydd a’r tebygolrwydd y bydd staff yn profi lludded.
Gall y model gofal sy’n cael ei ddefnyddio gan leoliad hefyd effeithio ar y ffordd y mae staff yn cael eu cefnogi a’u hyfforddi. Er enghraifft, mae nifer o fodelau therapiwtig yn cynnwys goruchwyliaeth strwythuredig, barhaus i staff. Mae gwerthusiadau o’r modelau hyn yn dangos bod staff yn gweld goruchwyliaeth fel ffynhonnell gefnogaeth werthfawr (Cordis Bright, 2018).
Mae ein crynodeb o dystiolaeth am wella llesiant a chadw'r gweithlu yn darparu rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gall cyflogwyr ym maes gofal cymdeithasol gefnogi llesiant gweithwyr (Urban Foresight a Deerfield, 2024).
Lleoliad, cysylltiad, a chymuned
Un nod allweddol y newidiadau i ofal preswyl i blant yw bod mwy o blant a phobl ifanc yn aros yn nes at eu cartref, pan mae hynny’n ddiogel. Mae hyn yn golygu y gallan nhw gadw eu cysylltiad â rhwydweithiau cefnogi sy’n bodoli’n barod (Llywodraeth Cymru, 2021).
Mae cysylltiad â’r gymuned yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc sy’n byw mewn lleoliadau gofal preswyl. Mae’n bosibl bod adeiladu’r cysylltiadau hyn wedi bod yn anodd iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn yr ymateb i bandemig COVID-19 a’i fesurau gorfodol. Nid oes gennym lawer o dystiolaeth o effaith hyn ar brofiadau plant sy’n byw mewn gofal preswyl yng Nghymru. Ond mae astudiaeth o Sbaen yn dangos fod pobl ifanc 11 i 14 oed a oedd yn byw mewn gofal preswyl wedi rhoi sgorau bodlonrwydd is ar gyfer ‘ffrindiau a chyd-ddisgyblion’ a ‘lleoliad cartref’ mewn arolwg yn 2020 o’i gymharu ag arolwg yn 2014. Awgrymodd y tîm ymchwil bod y newid hwn yn gysylltiedig ag effaith mesurau a oedd yn cyfyngu ar ryngweithio cymdeithasol ac ar fynediad plant i’r ardal leol yn fwy cyffredinol (Montserrat et al., 2022).
Mae ymchwil gyda phlant a phobl ifanc yn dangos bod lleoliad cartref a sut y mae’n gysylltiedig â’r gymuned o’i gwmpas yn bwysig iawn. Gwelodd Sommerfeldt (2022) fod plant a phobl ifanc yn llawer mwy cadarnhaol am gartrefi a oedd yn edrych fel tai ‘normal’ yn hytrach na rhai a oedd yn edrych yn fwy sefydliadol. Pe bai cartref yn hollol wahanol i adeiladau eraill yn y gymuned, gallai fod yn fwy amlwg i bobl eraill eu bod yn byw mewn cartref preswyl i blant (Sommerfeldt, 2022).
Mae ymchwil gan Gonsortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant (2024) yn dangos fod y lleoliad gorau ar gyfer cartref yn dibynnu ar anghenion a dymuniadau pob plentyn unigol. Er enghraifft, efallai nad yw rhai plant yn hoffi byw mewn ardal wledig oherwydd eu bod yn teimlo’n ynysig, tra mae eraill yn teimlo nad ydyn nhw’n ddiogel os ydyn nhw’n byw mewn ardal drefol. Mae’r ymchwil yma’n dangos ei bod yn bwysig siarad â phobl ifanc er mwyn darganfod eu hanghenion a’u dewisiadau. Mae hefyd yn nodi mai’r ffordd o sicrhau bod anghenion unigol plant yn cael eu diwallu lle bynnag y bo modd yw drwy ddarparu nifer o wahanol fathau o leoliadau mewn gwahanol ardaloedd.
Amgylchedd cartref
Mae ymchwil yn ymwneud â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fyw mewn cartrefi gofal yn pwysleisio pwysigrwydd amgylchedd y cartref. Mae barn llawer o blant am ofal preswyl da yn canolbwyntio ar nodweddion materol y cartref. Mae hyn yn cynnwys ei faint, cynllun, ac a yw’n diwallu eu hanghenion o ran preifatrwydd neu’n caniatáu iddyn nhw wneud dewisiadau ynghylch eu mannau eu hunain (Sommerfeldt, 2022; Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant, 2024). Mae pethau sy’n peri pryder i blant a phobl ifanc, ac sy’n derbyn sylw yn yr ymchwil, yn cynnwys yr angen am:
- breifatrwydd mewn ystafelloedd gwely, a gwahaniaeth amlwg rhwng mannau i unigolion a mannau i’w rhannu (Sommerfeldt, 2022)
- digon o le, ond nid cymaint fel bod y cartref yn ymddangos yn wahanol i gartrefi eraill yn y gymuned (Sommerfeldt, 2022; Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant, 2024)
- preifatrwydd mewn ystafelloedd ymolchi, â digon o ystafelloedd ymolchi ar gyfer nifer y plant, pobl ifanc, a staff (Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant, 2024)
- dim swyddfeydd staff (Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant, 2024), neu os oes swyddfeydd, bod y staff yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser mewn ardaloedd sy’n cael eu rhannu yn hytrach nag yn y swyddfa (Sommerfeldt, 2022).
Ystyriaeth bwysig i bobl sy’n gweithio ym maes gofal preswyl i blant yw sut i sicrhau cydbwysedd rhwng diogelwch a phreifatrwydd, cyfforddusrwydd, a rheolaeth unigolyn dros amgylchedd y cartref. Gall hyn fod yn anodd, ond mae sicrhau bod plant yn teimlo’n gyfforddus yn eu cartref yn hollbwysig ar gyfer eu llesiant (Allcock, 2019; Johnson, 2016; Sommerfeldt, 2022). Mae Williams et al. (2024) yn disgrifio profiad cadarnhaol un person ifanc a oedd yn rhan o’u hastudiaeth a oedd yn gallu addurno ei ystafell i adlewyrchu ei ddiddordebau, er bod arno angen goruchwyliaeth gyson oherwydd pryderon yn ymwneud â diogelwch. Mae hyn yn awgrymu y gallai cynorthwyo plant i gael rheolaeth dros y ffordd y mae eu gofod nhw’n edrych fod yn ffactor pwysig er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol, hyd yn oed pan fydd pryderon ynghylch diogelwch neu fwy o fesurau diogelwch yn eu lle.
Lleoliadau sy’n ystyriol o drawma
Mae ymchwil yn tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma wrth ddylunio lleoliadau gofal preswyl. Mae Ames a Loebach (2023) yn awgrymu y gallai dylunio sy’n ystyriol o drawma leihau aildrawmateiddio a hybu gwytnwch plant sy’n byw mewn gofal preswyl.
Mae dylunio sy’n ystyriol o drawma yn cyfeirio at y cyfuniad o gefnogaeth â materion tai, iechyd, a llesiant er mwyn hybu a chynorthwyo â’r broses o iachau’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan drawma (West Waddy Archadia, 2023). Mae’r dull gweithredu hwn yn cymryd yr hyn rydyn ni’n ei wybod yn barod am ofal sy’n ystyriol o drawma ac yn ei gymhwyso i ddylunio lle neu amgylchedd. Mae llawer o egwyddorion dylunio sy’n ystyriol o drawma yn gyson â phryderon plant a phobl ifanc am eu hamgylchedd cartref (Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant, 2024). Maen nhw’n cynnwys sicrhau:
- bod gwahaniaethau amlwg rhwng mannau cyffredin a phreifat
- bod gwahaniad acwstig cryf a bod mannau preifat wedi’u dylunio er mwyn ynysu rhag sŵn, i’r graddau y mae hynny’n bosibl
- bod plant a phobl ifanc yn cael addurno eu hystafelloedd preifat yn unol â’u chwaeth a’u dewisiadau eu hunain.
Gall dilyn yr egwyddorion hyn ddarparu gofod diogel i blant tra maen nhw’n mynd drwy’r prosesau gwella, a chefnogi ymdeimlad o rymuso (West Waddy Archadia, 2023).
Cysondeb, parhad, a strwythur
Mae tystiolaeth yn awgrymu nad oes un model gofal ‘gorau’ ymhlith yr holl fodelau gofal preswyl sy’n dangos canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc. Er bod yr ymchwil am fodelau gofal yn cefnogi rhesymau amrywiol dros effeithiolrwydd pob un, gall defnyddio model fod yn ffactor cadarnhaol ynddo’i hun hefyd (Cordis Bright, 2018). Mae hyn oherwydd bod modelau sydd wedi’u diffinio’n glir yn darparu strwythur ac yn cefnogi cysondeb a pharhad gofal (Cordis Bright, 2018).
Mae’n gyffredin i blant gael eu lleoli mewn gofal preswyl ar ôl byw mewn nifer o leoliadau. Mae symud i leoliad arall yn anodd i blant a phobl ifanc. Gall achosi teimladau o drallod ac arwahanrwydd, a gall achosi anawsterau wrth geisio cael mynediad at wasanaethau cymorth (Park et al., 2020). Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (2019) yn argymell y dylai gofal preswyl gael ei weld fel opsiwn cadarnhaol i rai plant mewn rhai sefyllfaoedd, yn hytrach na chael ei ystyried fel ‘dewis olaf’ ym mhob achos. I rai plant a phobl ifanc, yr ymyriad hwn sy’n cynnig y cyfle gorau o barhad gofal. Mae angen gwneud rhagor o waith er mwyn sicrhau bod gofal preswyl yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol pan mai dyma’r lleoliad gorau ar gyfer unigolyn. Mae hyn yn cynnwys herio canfyddiadau negyddol o ofal preswyl a sicrhau bod y darpariaeth sy’n cael ei gynnig cystal ag y gall fod (Holmes et al., 2018).
Er hyn, mae ymchwil yn dangos bod agweddau ar ofal preswyl sy’n heriol i lawer o blant. Gall strwythur a threfniadau rheolaidd bywyd mewn gofal preswyl wrthdaro â’u syniad o ‘gartref’ a gall hyn gael effaith negyddol ar eu profiadau (Sommerfeldt, 2022). Ond mae cysondeb o ran y dull gweithredu sy’n cael ei ddefnyddio gan staff gofal preswyl hefyd yn gallu helpu i wella profiadau plant o ofal preswyl (Sommerfeldt, 2022). Mae’r canfyddiadau hyn yn sôn am yr anhawster o sicrhau cydbwysedd rhwng strwythur a dewisiadau unigol mewn gofal preswyl i blant. Mae ymchwil gyda phlant a phobl ifanc yn dangos bod dilyniant staff a pherthnasoedd cyson rhwng plant a staff yn hollbwysig er mwyn creu’r cydbwysedd hwn (Sommerfeldt, 2022).
Casgliad
Bydd y newid i system nid-er-elw o ofal preswyl i blant yn golygu newidiadau sylweddol i’r dirwedd gofal preswyl ledled Cymru. Mae hyn yn cynnig cyfle i feddwl am ofal preswyl i blant mewn ffordd sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae nifer o wahanol ddulliau o ddarparu gofal preswyl sy’n cefnogi plant a phobl ifanc, ond mae gan y dulliau gweithredu hyn rai elfennau cyffredin. Mae’n bwysig sicrhau bod gofal preswyl i blant yn seiliedig ar egwyddorion therapiwtig, bod ganddo strwythur cyson, a bod staff yn cael cefnogaeth briodol. Mae lleoliad cartref, ei gysylltiadau â’r gymuned, a sut mae ei amgylchedd wedi’i gynllunio yn ystyriaethau yr un mor bwysig ac wedi cael eu hamlygu gan blant a phobl ifanc. Mae cydnabod y pethau hyn yn rhan bwysig o weithio tuag at ganlyniadau cadarnhaol i bob plentyn a pherson ifanc sy’n byw yng Nghymru.
Darllen ychwanegol
Dyma restr o’r pum adnodd mwyaf perthnasol i gefnogi pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal sydd naill ai'n rhai mynediad agored neu sydd ar gael yn e-Lyfrgell GIG Cymru.
- Bailey, C., Klas, A., Cox, R., Bergmeier, H., Avery, J. a Skouteris, H. (2019) ‘Systematic review of organisation-wide, trauma-informed care models in out-of-home care (OoHC) settings’, Health and Social Care in the Community, 27 (3), tt. e10-e22, doi:10.1111/hsc.12621, ar gael yn https://doi.org/10.1111/hsc.12621.
- Holmes, L., Connolly, C., Mortimer, E. a Hevesi, R. (2018) ‘Residential group care as a last resort: Challenging the rhetoric’, Residential Treatment for Children and Youth, 35 (3), tt. 209-224, doi:10.1080/0886571X.2018.1455562, ar gael yn https://doi.org/10.1080/0886571X.2018.1455562.
- Mann, M., Lifford, K., O’Connell, S., Weightman, A., Searchfield, L., Lewis, R., Cooper, A. ac Edwards, A. (2023) ‘A rapid review of what organisational level factors support or inhibit the scale and spread of innovations in children’s social care’, MedRxiv, 2023.04.03.23288061, doi:10.1101/2023.04.03.23288061, ar gael yn https://www.medrxiv.org/content/10.1101/2023.04.03.23288061v1.
- Parry, S., Cox, N., Andriopoulou, P., Oldfield, J., Roscoe, S., Palumbo-Haswell, J. a Collins, S. (2023) ‘Mechanisms to Enhance Resilience and Post-traumatic Growth in Residential Care: A Narrative Review’, Adversity and Resilience Science, 4 (1), tt. 1-21. doi:10.1007/s42844-022-00074-w, ar gael yn https://doi.org/10.1007/s42844-022-00074-w.
- Sommerfeldt, M. B. (2022) ‘“Sometimes I feel at home”: adolescents’ narratives of everyday life in residential care’, Journal of Children’s Services, 17 (1), tt. 33-44. doi:10.1108/JCS-12-2020-0086, ar gael yn https://doi.org/10.1108/JCS-12-2020-0086.
Rhestr cyfeiriadau -
Ablitt, J., Jimenez, P. a Holland, S. (2024) Cael gwared ag elw o ofal preswyl a gofal maeth i blant: adolygiad o dystiolaeth, Llywodraeth Cymru, ar gael yn https://www.llyw.cymru/dileu-elw-o-ofal-preswyl-maeth-plant-adolygiad-o-dystiolaeth (cyrchwyd: 15 Gorffennaf 2024).
Allcock, A. (2019) Healing environments for children who have experienced trauma, IRISS, ar gael yn https://doi.org/10.31583/esss.20190506 (cyrchwyd: 2 Ebrill 2024).
Ames, R. L. a Loebach, J. E. (2023) ‘Applying trauma-informed design principles to therapeutic residential care facilities to reduce retraumatization and promote resiliency among youth in care’, Journal of Child and Adolescent Trauma, 16 (4), tt. 805-817, doi:10.1007/s40653-023-00528-y.
Arolygiaeth Gofal Cymru (2019) Adolygiad cenedlaethol o gartrefi gofal i blant yng Nghymru 2018–19, ar gael yn 190926-adolygiad-cenedlaethol-o-gartrefi-gofal-i-blant-yng-nghymru-cy.pdf (arolygiaethgofal.cymru) (cyrchwyd: 2 Ebrill 2024).
Bailey, C., Klas, A., Cox, R., Bergmeier, H., Avery, J. a Skouteris, H. (2019) ‘Systematic review of organisation-wide, trauma-informed care models in out-of-home care (OoHC) settings’, Health and Social Care in the Community, 27 (3), tt. e10-e22, doi:10.1111/hsc.12621.
Bellonci, C. a Holmes, L. (2021) ‘Debate: The greater the needs the lesser the evidence – therapeutic residential care for young people’, Child and Adolescent Mental Health, 26 (1), tt. 78-79, doi:10.1111/camh.12448.
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2024, ar gael yn https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=43830 (cyrchwyd: 18 Mehefin 2024).
Cenhedloedd Unedig (2006) Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn, ar gael yn https://www.unicef.org.uk/what-we-do/un-convention-child-rights/ (cyrchwyd: 18 Gorffennaf 2024).
Comisiynydd Plant Cymru (2021) Adroddiad Blynyddol 2020-21, ar gael yn https://www.childcomwales.org.uk/wp-content/uploads/2021/10/AdroddiadBlynyddol2021_CYM_terfynol.pdf (cyrchwyd: 2 Ebrill 2024).
Consortiwm Comisiynu ar gyfer Plant Cymru (2024) Adroddiad ar yr Ymgynghoriad â'r Comisiynwyr Ifanc ‘Beth sy'n gwneud Cartref Plant da?’, ar gael yn https://www.arolygiaethgofal.cymru/sites/default/files/2024-08/Young%20commissioners%20report%20%28Cymraeg%29.pdf%20 (cyrchwyd: 21 Awst 2024).
Cordis Bright (2018, heb ei gyhoeddi) Review of models of residential care for children and young people.
Cordis Bright a Taylor-Collins, E. (2024) Dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma: crynodeb tystiolaeth, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/crynodebau-tystiolaeth/dulliau-gweithredu-syn-ystyriol-o-drawma.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ar gael yn https://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2014/4/resources (cyrchwyd: 18 Gorffennaf 2024).
Holmes, L., Connolly, C., Mortimer, E. a Hevesi, R. (2018) ‘Residential group care as a last resort: challenging the rhetoric’, Residential Treatment for Children and Youth, 35 (3), tt. 209-224, doi:10.1080/0886571X.2018.1455562.
Independent Care Review (2020) The promise, ar gael yn https://www.carereview.scot/wp-content/uploads/2020/03/The-Promise_v7.pdf (cyrchwyd: 2 Ebrill 2024).
James, S. (2011) ‘What works in group care? - a structured review of treatment models for group homes and residential care’, Children and Youth Services Review, 33 (2), tt. 308-321, doi:10.1016/j.childyouth.2010.09.014.
Johnson, D. (2016) A best fit model of trauma-informed care for young people in residential and secure services, ar gael yn https://www.kibble.org/wp-content/uploads/2017/08/best-fit-model-trauma-informed-care.pdf (cyrchwyd: 2 Ebrill 2024).
Llywodraeth Cymru (2021) Newid i fodelau gofal nid-er-elw ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru – Datganiad y bwrdd rhaglen ar bolisïau, ar gael yn https://www.llyw.cymru/newid-i-fodelau-gofal-nid-er-elw-ar-gyfer-plant-syn-derbyn-gofal-yng-nghymru/datganiad-y-bwrdd-rhaglen-ar-bolisiau (cyrchwyd: 2 Ebrill 2024).
Llywodraeth Cymru (2022) Crynodeb: Newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth sylfaenol – Dileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2022-09/crynodeb-newidiadau-arfaethedig-i-ddeddfwriaeth-sylfaenol-dileu-elw-o-ofal-plant-syn-derbyn-gofal.pdf (cyrchwyd: 2 Ebrill 2024).
Llywodraeth Cymru (2023) Plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol: Ebrill 2022 i Fawrth 2023, ar gael yn https://www.llyw.cymru/plant-syn-derbyn-gofal-gan-awdurdodau-lleol-ebrill-2022-i-fawrth-2023-html (cyrchwyd: 2 Ebrill 2024).
Macdonald, G., Millen, S., McCann, M., Roscoe, H. ac Ewart-Boyle, S. (2012) Therapeutic approaches to social work in residential child care settings, Social Care Institute of Excellence, ar gael yn https://pureadmin.qub.ac.uk/ws/portalfiles/portal/225847993/Report_58.pdf (cyrchwyd: 2 Ebrill 2024).
Mann, M., Lifford, K., O’Connell, S., Weightman, A., Searchfield, L., Lewis, R., Cooper, A. ac Edwards, A. (2023) ‘A rapid review of what organisational level factors support or inhibit the scale and spread of innovations in children’s social care’, MedRxiv, 2023.04.03.23288061, doi:10.1101/2023.04.03.23288061.
Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ar gael yn https://www.legislation.gov.uk/cy/mwa/2011/2/contents (cyrchwyd: 15 Gorffennaf 2024).
McNamara, P. M. (2020) ‘Family partnering in Australian therapeutic residential care: a scoping study’, Residential Treatment for Children and Youth, 37 (4), tt. 293-313, doi:10.1080/0886571X.2020.1786486.
Montserrat, C., Llosada-Gistau, J., Garcia-Molsosa, M. a Casas, F. (2022) ‘The subjective well-being of children in residential care: has it changed in recent years?’, Social Sciences, 11 (1), 25, doi:10.3390/socsci11010025.
Parry, S., Cox, N., Andriopoulou, P., Oldfield, J., Roscoe, S., Palumbo-Haswell, J. a Collins, S. (2023) ‘Mechanisms to enhance resilience and post-traumatic growth in residential care: a narrative review’, Adversity and Resilience Science, 4 (1), tt. 1-21. doi:10.1007/s42844-022-00074-w.
Parry, S., Williams, T. ac Oldfield, J. (2021) ‘Reflections from the forgotten frontline: “The reality for children and staff in residential care” during COVID‐19’, Health and Social Care in the Community, 30, tt. 212-224, doi:10.1111/hsc.13394.
Sommerfeldt, M. B. (2022) ‘“Sometimes I feel at home”: adolescents’ narratives of everyday life in residential care’, Journal of Children’s Services, 17 (1), tt. 33-44, doi:10.1108/JCS-12-2020-0086.
Urban Foresight a Deerfield, K. (2024) Gwella llesiant a chadw’r gweithlu: crynodeb tystiolaeth, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/crynodebau-tystiolaeth/gwell-llesiant-a-chadw (cyrchwyd: 18 Gorffennaf 2024).
West Waddy Archadia (2023) Trauma informed design within learning disabilities environments, ar gael yn https://www.housinglin.org.uk/_assets/Resources/Housing/OtherOrganisation/Trauma-Informed-Design-Within-Learning-Disabilities-Environments.pdf (cyrchwyd: 2 Ebrill 2024).
Williams, A., Bayfield, H., Elliott, M., Lyttleton-Smith, J., Young, H., Evans, R. a Long, S. (2024) ‘Secure futures? A mixed methods study on opportunities for helping young people referred to secure children’s homes for welfare reasons’, Journal of Children’s Services, 19 (1), tt. 38-53, doi:10.1108/JCS-06-2022-0019.
Yr Adran Addysg (2024) Children accommodated in secure children’s homes, ar gael yn https://explore-education-statistics.service.gov.uk/find-statistics/children-accommodated-in-secure-childrens-homes (cyrchwyd: 18 Mehefin 2024).