Cefnogi pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal
Ysgrifennwyd gan Dr Grace Krause a’i olygu gan Dr Eleanor Johnson a Dr Kat Deerfield
Awst 2024
Mae pawb yn haeddu gwneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain. Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n tynnu sylw at ymchwil berthnasol a chyfoes ynglŷn â chefnogi oedolion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth i wneud penderfyniadau am eu gofal. Rydyn ni’n ystyried pwysigrwydd gwerthoedd a dealltwriaeth, amser, cymryd risgiau cadarnhaol a chyfathrebu wrth gefnogi pobl i wneud penderfyniadau.
Cyflwyniad
Mae pawb yng Nghymru yn haeddu gwneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain. Weithiau, mae pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yn teimlo nad yw eu lleisiau’n bwysig neu nad oes ganddyn nhw reolaeth dros eu gofal a’u cymorth eu hunain. Mae’r teimlad hwn o fod heb bŵer yn gwrthgyferbynnu ag un o egwyddorion sylfaenol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n nodi bod pawb sy’n cael mynediad at ofal yn haeddu cael llais, a rheolaeth, dros eu cymorth.
Mae tystiolaeth ymchwil yn dangos y gall cael mwy o reolaeth dros eich bywyd a’ch gofal eich hun wella llesiant meddyliol a chorfforol ymhlith pobl sy’n derbyn gofal a chymorth (Krist et al., 2017; McGovern, 2015; Kim a Park, 2017; Kloos et al., 2019; Doyle et al., 2013; Bunn et al., 2018; Tambuyzer et al., 2014). Mae rhywfaint o dystiolaeth hefyd bod cyfraddau llesiant uwch ymhlith staff sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal lle mae gan y bobl y maen nhw’n eu cefnogi fwy o ymreolaeth (Krist et al., 2017; McGovern, 2015). Mae’r crynodeb hwn yn cyflwyno ymchwil ar sut i gefnogi oedolion i wneud penderfyniadau a chael rheolaeth dros eu gofal.
Gall damcaniaeth gymdeithasol ein helpu i feddwl am beth mae’n ei olygu i bobl gael rheolaeth dros eu bywydau a sut mae cael y rheolaeth hwnnw yn gallu cynyddu llesiant. Yn y cyd-destun hwn, mae damcaniaeth gymdeithasol yn golygu set o syniadau sy’n ein helpu i ddeall mwy am beth sy’n digwydd a pham. Mae damcaniaeth gymdeithasol hefyd yn ein helpu i feddwl am sut gallwn ni hyrwyddo newid. Yn y crynodeb hwn, edrychwn ar sut gall pethau fel rhoi digon o amser i bobl wneud penderfyniadau, meithrin perthnasoedd da, cael dealltwriaeth craff o risg, a darparu gwybodaeth hygyrch rymuso pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal.
Beth ydyn ni’n ei olygu wrth sôn am wneud penderfyniadau?
Efallai ei fod yn ymddangos yn amlwg y dylai pawb cael y cyfle i wneud penderfyniadau am eu gofal eu hunain. Ond mae’n bwysig meddwl am y gwahanol elfennau y gallwn ni eu hystyried fel rhan o wneud penderfyniadau. Er enghraifft, gall fod yn ddefnyddiol meddwl am wahanol elfennau ein bywydau lle mae’n rhaid i bobl wneud penderfyniadau yn eu cylch. Amlygodd Alison Tarrant (2022) bwysigrwydd gweithrediad, yn ei hymchwil ar sut mae mudiadau pobl anabl yn sôn am fyw’n annibynnol yng Nghymru. Mae gweithrediad yma yn golygu teimlo rheolaeth dros bethau yn eich bywyd (Cole, 2019). Daeth Tarrant (2022) i’r casgliad bod tair lefel o weithrediad:
1. Gweithrediad personol
Mae gweithrediad personol yn ymwneud â chael dewis a rheolaeth dros eich bywyd eich hun a'r pethau sy'n effeithio arnoch chi. Mae hyn yn cynnwys pethau fel dewis pwy sy'n eich cefnogi a chael mynediad uniongyrchol at arian.
2. Gweithrediad cymdeithasol
Mae gweithrediad cymdeithasol yn ymwneud â phopeth sy'n galluogi pobl i fyw bywyd bodlon a chymryd rhan mewn gweithgareddau a pherthnasoedd bob dydd. Mae hyn yn golygu byw yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain, mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, cyfeillgarwch a pherthnasoedd rhamantus.
3. Dinasyddiaeth
Yn olaf, mae gan bobl hawl i fodoli fel dinasyddion llawn y byd. Mae’r math hwn o weithrediad yn llai pendant na’r gweddill ond yr un mor bwysig. Mae’n cynnwys gwneud pobl yn ymwybodol o’u hawliau, yn benodol eu hawl i gael mynediad at y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i wireddu eu gweithrediad personol a chymdeithasol.
Mae archwilio’r tri math hwn o weithrediad hefyd yn golygu edrych ar bobl mewn perthynas â’i gilydd. Mae academyddion ac eiriolwyr wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen i ni feddwl am bobl o fewn eu cymunedau, ac o fewn cymdeithas, lle rydyn ni i gyd yn dibynnu ar ein gilydd.
Mae gweld pobl yn rhyng-gysylltiedig hefyd yn ein galluogi i ddeall sut mae gwahanol fathau o weithrediad yn gysylltiedig â’i gilydd. A sut mae gwella ymdeimlad pobl o berthyn hefyd yn gwella dewis a rheolaeth. Er bod cael rheolaeth dros bethau bob dydd yn bwysig, mae dewis a rheolaeth hefyd yn bethau sy’n cael eu cyflawni ar y cyd. Mae astudiaeth McConnell et al. (2020) ar sut i rymuso pobl â dementia yn dangos bod “grwpiau grymuso” lle gall pobl feithrin hunaniaeth gyffredin yn bwysig. Maen nhw’n rhoi cyfle i bobl deimlo bod ganddyn nhw fwy o reolaeth dros eu bywydau a'u gofal. Yn yr un modd, mae grwpiau hunan-eiriolaeth ymhlith pobl ag anableddau dysgu yn chwarae rôl bwysig wrth helpu pobl i ddatblygu hunaniaeth newydd a phositif (Anderson a Bigby, 2017). Gan fenthyg termau Tarrant (2022), mae hunan-eiriolaeth yn gyfle i bobl fynegi gweithrediad cymdeithasol a dinasyddiaeth, ond mae hefyd yn gwella eu hymdeimlad o weithrediad personol.
Mae Tarrant yn dadlau gall syniadau fel cynhwysiant neu fyw'n annibynnol cael eu gorsymleiddio gan academyddion ac eraill. Yn benodol, weithiau nid yw gwaith sy’n edrych ar annibyniaeth yn dangos dealltwriaeth ddigon trylwyr o’r gwahanol fathau o weithrediad sy’n bwysig ym mywyd rhywun. Yn sgil hynny, gall ganolbwyntio, mewn modd cyfyngedig, ar y syniad o ddewis. O ganlyniad, gall y math hwn o astudiaeth academaidd ei chael yn anodd llywio ymarfer. Mae Jackson (2015) hefyd yn dadlau bod gan rai academyddion ac ymgyrchwyr ddealltwriaeth o hawliau ac annibyniaeth sy’n rhy gul, gan edrych ar yr unigolyn yn unig; yn hytrach na meddwl am sut rydyn ni i gyd yn gysylltiedig â phobl eraill.
Gall hyn arwain at eiriolaeth a chymorth sy’n ddiffygiol i rai pobl. Er enghraifft, mae meddu ar weithrediad yn gallu golygu gwahanol fathau o gymorth i bobl ag anableddau dysgu. Yn hytrach na gweld gweithrediad fel rhywbeth sy'n ymwneud â rheolaeth unigolyn yn unig, mae Jackson yn dadlau bod angen i ni hefyd ystyried ffactorau strwythurol. Y ffactorau hyn yw pethau fel credoau pobl, y ffordd y mae gofal cymdeithasol yn cael ei reoleiddio ac effaith pwysau ariannol ar ofal cymdeithasol.
Egwyddorion allweddol sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau ym maes gofal cymdeithasol
Yn yr adran hon, rydyn ni’n cyflwyno dwy egwyddor allweddol sy’n ymwneud â chefnogi pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal: y model cymdeithasol o anabledd a galluedd.
Y model cymdeithasol o anabledd
Cafodd y model cymdeithasol o anabledd ei ddatblygu’n wreiddiol yn y 1970au gan Undeb y Rhai ag Amhariad Corfforol yn Erbyn Arwahanu (Chapman, 2023). Diffiniodd hwn y model cymdeithasol o anabledd yn wahanol i'r model anabledd unigol neu feddygol. O fewn y model unigol neu feddygol, mae’r gofal a’r cymorth y mae pobl anabl yn eu defnyddio yn canolbwyntio ar “drwsio” person. Mewn cymhariaeth, nid yw’r model cymdeithasol yn cyfleu’r ffaith bod rhywbeth o’i le ar bobl anabl unigol, neu bod angen trwsio unrhyw beth.
Yn hytrach, mae’r model cymdeithasol yn mynnu bod gan bobl anabl yr hawl i gyfranogi’n llawn mewn cymdeithas ac mai’r byd o’u cwmpas ddylai fod yn hygyrch. Gall gwneud y byd yn hygyrch gynnwys edrych ar yr hyn sy'n atal pobl rhag gallu gwneud penderfyniadau am eu bywydau (Tarrant, 2022). Mae’r model cymdeithasol wedi’i fabwysiadu’n eang ers hynny gan fudiadau anabledd yng Nghymru a thu hwnt. Gallwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y model cymdeithasol o anabledd ar wefan Anabledd Cymru.
Galluedd
Weithiau gall fod yn anodd i bobl wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain. Mae cael galluedd meddyliol yn golygu gallu deall, cadw, pwyso a mesur a chyfathrebu gwybodaeth sydd eu hangen i wneud penderfyniadau (Mind, 2024). Gall Deddf Galluedd Meddyliol (2005) ymddangos fel pe bai galluedd yn ddewis rhwng y ddau begwn. Hynny yw, bod rhywun naill ai’n gallu gwneud penderfyniadau neu beidio.
Mae’r ymchwilydd Lucy Series (2015) yn dadlau bod angen i ni feddwl mewn ffordd fwy cymhleth ynglŷn â sut i sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu gwarchod pan fyddan nhw’n brin o alluedd. Mae’n dadlau na ddylen ni ystyried diffyg galluedd fel diffyg personol sy’n gwneud person yn ananlluog i wneud penderfyniadau. Yn hytrach, mae angen i ni sefydlu model cymorth, sy’n seiliedig ar y model cymdeithasol o anabledd ac yn galluogi pawb i wneud penderfyniadau i’r graddau sy’n bosibl. O’r safbwynt hwn, rôl pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yw cefnogi pobl i adnabod rhwystrau ac agweddau gwahaniaethol sy’n cyfyngu ar eu dewisiadau wrth wneud penderfyniadau.
Yn yr un modd, mae ymchwilwyr eraill wedi disgrifio’r angen i ddeall galluedd fel “ffenomena perthynol”. Cafodd y cysyniad hwn ei ddatblygu mewn astudiaeth gan McDaid a Delaney (2011). Cafodd pobl a oedd wedi cael triniaeth seiciatryddol eu cyfweld. Daeth i’r amlwg fod pobl yn aml yn ymwybodol iawn o'r broses o golli eu galluedd i wneud penderfyniadau. Disgrifiodd pobl y profiad o deimlo eu bod yn colli galluedd fel un annifyr iawn. Cafodd y profiad o bobl eraill yn gwneud penderfyniadau drostyn nhw hefyd ei ddisgrifio fel profiad negyddol a di-rym.
Roedd McDaid a Delaney (2011) yn datgan fod y profiad negyddol o golli galluedd yn llai trawmatig pan oedd pobl yn teimlo eu bod yn derbyn gwybodaeth mewn ffyrdd hygyrch. Roedd hyn hefyd yn wir pan oedden nhw’n teimlo bod y person a oedd yn gwneud penderfyniadau ar eu rhan yn ddibynadwy. Yn y cyd-destun hwn, daeth galluedd yn berthynol, yn yr ystyr ei fod yn rhywbeth y gallai pobl ei ddatblygu mewn perthynas â'u hamgylchedd a'r bobl o'u cwmpas.
Deddfwriaeth a chanllawiau ar gyfer gwneud penderfyniadau gofal cymdeithasol
Mae sawl darn o ddeddfwriaeth yng Nghymru sy’n fframweithiau ar gyfer hyrwyddo hawliau dynol, dewis a rheolaeth pobl dros eu bywydau a’u gofal. Gyda’i gilydd, mae’r darnau hyn o ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn glir bod rhaid cefnogi pobl i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014)
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn hyrwyddo dull sy’n seiliedig ar gryfderau fel elfen ganolog o benderfynu pa ofal y dylai person ei gael, ac fel rhan allweddol o ddarparu’r gofal hwnnw (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2023). Egwyddor sylfaenol gyntaf y Ddeddf yw: “Llais a rheolaeth – rhoi unigolyn a’u hanghenion wrth wraidd eu gofal, a rhoi llais a rheolaeth iddyn nhw er mwyn cyrraedd y canlyniadau sy’n creu llesiant.” Egwyddor arall yw cydgynhyrchu. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru o’r farn y dylai pobl, yn ogystal â chael rheolaeth dros eu bywydau eu hunain, hefyd llywio sut mae gwasanaethau’n cael eu datblygu a’u rhedeg.
Deddf Galluedd Meddyliol (2005)
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn datgan y dylai pobl gael eu cynnwys yn amlwg ac yn ystyrlon yn eu cynlluniau gofal eu hunain. Rhaid i asesiadau o alluedd meddyliol rhywun ddilyn proses dau gam penodol sydd wedi ei hamlinellu yn y Ddeddf. Mae’r Ddeddf yn nodi bod gan bawb alluedd oni bai bod tystiolaeth yn cael ei dderbyn i’r gwrthwyneb. Mae hefyd yn nodi bod angen i “bob cam ymarferol” i helpu pobl i wneud penderfyniadau fod wedi’u “cymryd heb lwyddiant” cyn tybio na all person wneud penderfyniad. Mae’n bwysig nodi bod y Ddeddf yn cydnabod y gallai fod gan bobl lefelau gwahanol o alluedd mewn sefyllfaoedd gwahanol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (2006)
Pwrpas y Confensiwn yw hybu hawl pobl anabl i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain. Egwyddor gyntaf y Confensiwn yw “parch at urddas cynhenid, ymreolaeth unigol gan gynnwys y rhyddid i wneud eich dewisiadau eich hun ac annibyniaeth pobl”.
Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol (2019)
Mae Llywodraeth Cymru (2019) wedi ymrwymo i wreiddio’r model cymdeithasol o anabledd mewn polisi yn ei fframwaith a’i gynllun Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol. Mae hyn yn golygu y bydd polisïau’r dyfodol yn canolbwyntio ar ddileu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan lawn mewn cymdeithas.
Beth mae ymchwil yn ei ddweud wrthym sy’n bwysig wrth gefnogi pobl i wneud penderfyniadau?
Mae ymchwil yn dangos bod sawl ffactor pwysig i’w hystyried o ran cefnogi pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal. Mae’r rhain yn cynnwys:
- rôl gweithwyr
- ymwybyddiaeth a hyfforddiant
- rhoi amser
- cymryd risgiau cadarnhaol
- cyfathrebu a mynediad at wybodaeth.
Rôl gweithwyr
Dangosodd adolygiad o astudiaethau gwahanol mai perthnasoedd oedd y rhan bwysicaf o’r hyn sy’n gwneud gofal yn dda neu’n ddrwg i bobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau gofal (de São José et al., 2016). Felly mae gan weithwyr gofal cymdeithasol rôl bwysig wrth alluogi pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal. Yn yr adran hon, rydyn ni’n cyflwyno ymchwil sy'n edrych ar y rhyngweithio rhwng gweithwyr gofal cymdeithasol a'r bobl y maen nhw’n eu cefnogi, i ddarganfod pryd mae'r rhyngweithio hyn yn grymuso neu'n dadrymuso.
Roedd astudiaeth a oedd yn ymchwilio i’r broses o roi cymorth wrth wneud penderfyniadau ym maes gofal pobl hŷn yn Iwerddon yn dangos fod cysylltiadau cryf rhwng staff a phobl yn defnyddio gwasanaethau gofal yn ffactor allweddol wrth alluogi’r broses o wneud penderfyniadau (Donnelly et al., 2021). Serch hynny, roedd amgylcheddau prysur a chyfyngiadau amser yn aml yn ei gwneud hi'n anodd dod o hyd i amser i feithrin y perthnasoedd hyn.
Mae ymchwil arall hefyd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd perthnasoedd da rhwng pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a gweithwyr gofal cymdeithasol. Mewn un astudiaeth, bu ymchwilwyr yn cyfweld ag aelodau o grwpiau hunan-eiriolaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn Nghatalonia (Sbaen) (Fullana et al., 2019). Mae grwpiau hunan-eiriolaeth yn grwpiau o bobl sy'n gweithio gyda'i gilydd i eirioli dros eu hawliau ar y cyd. Nododd Fullana et al. (2019) fod perthnasoedd da gyda gweithwyr cymorth cyflogedig yn gwneud i hunan-eiriolwyr deimlo bod eu dewisiadau yn cael eu cefnogi gan staff. Serch hynny, roedd aelodau grwpiau eiriolaeth weithiau'n teimlo bod gweithwyr cyflogedig yn rhwystro eu penderfyniadau neu’n rheoli’n ormodol.
Hyd yn oed pan fydd pethau’n cael eu sefydlu’n benodol i rymuso pobl i wneud penderfyniadau am eu bywydau, gall hyn arwain at gyfyngu ar ddewisiadau pobl. Roedd un astudiaeth yn ymchwilio i’r ddeinameg rhwng staff cymorth a phobl ag anableddau dysgu mewn cartref grŵp.Y casgliad oedd bod y bwriad a’r realiti o ran grymuso rhywun ddim wastad yn cyfateb i’r un peth (Jingree et al., 2006). Er enghraifft, mewn cyfarfodydd a oedd i fod i rymuso pobl i godi eu llais, yn aml nid oedd y rhai a oedd yn dymuno lleisio eu pryderon yn cael lle i siarad gan staff a oedd yn cadeirio. Yn hytrach, byddai'r staff hyn yn enwebu pobl eraill i siarad, gan symud y sgwrs oddi wrth y person a'i gŵyn (Jingree et al., 2006).
Yn hytrach na galluogi pobl yn y cartref grŵp i sôn am eu hoffterau ac i wneud awgrymiadau, byddai staff yn aml yn llywio sgyrsiau tuag at yr opsiynau a oedd orau ganddyn nhw. Roedd yr ymchwil yn dangos bod staff weithiau’n teimlo eu bod yn “gwybod yn well” na phobl a oedd yn byw yn y cartref grŵp ac felly nid oedden nhw’n rhoi digon o gyfle i bobl ddod i’w casgliadau eu hunain (Jingree et al., 2006).
Nododd Finnlay et al. (2008) fod dewisiadau sy’n cael eu rhoi i bobl ag anableddau dysgu yn aml yn gyfyng oherwydd y ffordd y mae pethau’n cael eu geirio. Hyd yn oed heb gyfyngu’n benodol ar yr opsiynau sydd ar gael i bobl, gall staff sy’n cefnogi pobl i wneud penderfyniadau ddylanwadu ar yr hyn y maen nhw’n ei benderfynu. Gallai hyn ddigwydd wrth gyflwyno opsiynau penodol yn unig, portreadu canlyniadau gwahanol ddewisiadau mewn ffyrdd penodol, neu drwy gynnig (neu beidio â chynnig) cymorth i oresgyn materion ymarferol.
Yn arwyddocaol, mae’r dystiolaeth yn dangos pan fydd gweithwyr yn dadrymuso pobl, nid yw hyn o reidrwydd oherwydd esgeulustra neu fod yn ddi-hid. Mae'n gwneud synnwyr felly deall gweithredoedd gweithwyr fel rhai sy'n deillio o wrthdaro rhwng gwerthoedd gwahanol sy’n llywio eu gwaith.
Gwerthoedd a dealltwriaeth
Yn aml mae'n rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol gydbwyso gwerthoedd sy’n cystadlu â’i gilydd yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae Jingree et al. (2006) yn awgrymu y gallai’r ddeinameg negyddol sy’n cael ei hamlygu yn eu hastudiaeth ddeillio o staff sy’n profi gwrthdaro rhwng galluogi pobl i gael eu grymuso, ar y naill law, a’u dyletswydd gofal, ar y llaw arall. Gall y ddyletswydd gofal hon arwain gweithwyr yn anelu at greu’r math o amgylchedd sydd orau i bobl yn eu barn nhw drwy osgoi gwrthdaro a cheisio cadw trafodaethau’n bositif.
Yn yr un modd, ysgrifennodd Finnlay et al. (2008) am sut roedd gweithwyr yn cydbwyso disgwyliadau sy’n groes i’w gilydd. Roedd disgwyl i'r staff sicrhau bod yr holl bobl roedden nhw’n gweithio gyda nhw wedi bwyta, yn defnyddio'r toiled, ac yn lân wrth newid sifft. Yn yr un modd, roedd adroddiadau bod staff yn annog pobl i beidio â gwneud pethau eu hunain oherwydd argraff o ddiffyg sgiliau cywir neu oherwydd pryderon am hylendid. Roedd cefnogi pobl i gael mwy o ymreolaeth yn ychwanegu at y llwyth gwaith hwn ac yn arafu rhai o'r prosesau hyn. Byddai cefnogi pobl i wneud penderfyniadau eu hunain, yn hytrach na gwneud penderfyniadau drostyn nhw, wedi golygu methu â chyflawni’r holl ddyletswyddau eraill yn ôl y disgwyl. Er mwyn ei gwneud yn bosibl i weithwyr gofal cymdeithasol gefnogi pobl yn iawn, mae'n bwysig mynd i'r afael â'r agweddau a'r diwylliannau hyn.
Rydyn ni wedi cynhyrchu adnoddau a all fod yn ddefnyddiol i staff gofal cymdeithasol sy’n cefnogi pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal. Mae’r rhain yn cynnwys:
1. Egwyddorion ymarfer: Cydbwyso risgiau, hawliau a chyfrifoldebau ar gyfer oedolion: dull cadarnhaol o ymdrin â risgiau (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2020).
Mae'r 12 egwyddor ymarfer hyn yn cynnig cymorth ymarferol i helpu i gydbwyso dymuniadau pobl sydd angen cymorth â ffactorau amgylcheddol fel cymorth i deuluoedd, polisïau ac adnoddau. Mae’r egwyddorion yn datgan y “dylai gwneud penderfyniadau ddechrau a gorffen gyda’r hyn sy’n bwysig i’r person”.
2. Deall dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2022)
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys canllaw i gefnogi pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal i ddatblygu eu canlyniadau eu hunain. Mae hyn yn golygu darganfod beth mae person eisiau ei gyflawni a'i gefnogi gyda’r nodau hyn.
Rhoi amser
Mae gallu gwneud penderfyniadau yn golygu cael digon o amser i brosesu gwybodaeth. Nid un weithred yw gwneud penderfyniad chwaith, ond proses barhaus. Mae hyn yn golygu y bydd angen cymorth parhaus ar bobl i wneud penderfyniadau.
Siaradodd Taylor a Donnelly (2006) â gweithwyr proffesiynol a oedd yn gweithio gyda phobl hŷn mewn lleoliadau gofal hirdymor i ganfod sut roedd penderfyniadau yn cael eu gwneud. Un rhwystr i bobl hŷn rhag gwneud penderfyniadau am eu gofal hirdymor oedd eu bod yn aml yn cael eu gwneud mewn ymateb i argyfwng, er enghraifft, ar ôl cwympo. Weithiau roedd yn rhaid gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd brys hefyd. Roedd hyn oherwydd nad oedd cyllid weithiau ar gael i gefnogi pobl ag anghenion cymorth is nes bod eu sefyllfa’n dod yn argyfwng neu oherwydd bod pobl hŷn yn amharod i dderbyn mwy o gymorth yn gynharach.
Yn ôl Taylor a Donnelly (2006), roedd “natur argyfyngus” prosesau gwneud penderfyniadau yn aml yn lleihau opsiynau ac yn ei gwneud yn anoddach i benderfyniadau gael eu gwneud am ofal rhywun. Mewn prosiect wedi cydgynhyrchu i gefnogi pobl ag anableddau dysgu i wneud penderfyniadau am frechlynnau, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2023) hefyd fod cael digon o amser i wneud penderfyniadau yn ffactor pwysig. Soniodd y bobl ag anableddau dysgu a gyfrannodd at y gwaith hwn am y ffaith nad oedden nhw’n aml yn cael digon o amser i wneud penderfyniadau am eu hiechyd.
Mae ymchwilwyr eraill wedi dadlau y dylai cynllunio gofal a chymorth fod yn broses barhaus. Dylai’r broses hon roi cyfle i bawb sy’n gysylltiedig ystyried beth sydd wedi digwydd, meddwl am yr hyn a allai ddigwydd nesaf, nodi anghenion a nodau personol, trafod opsiynau a phenderfynu sut bydd nodau’n cael eu cyflawni. (Eaton et al., 2015). Mae’r broses hon yn gofyn am gyfathrebu parhaus rhwng darparwyr gofal, y person sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth a’u teuluoedd/gofalwyr. Mae hyn yn sicrhau bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud ar yr adeg iawn, a bod modd newid penderfyniadau dros amser pan fydd anghenion neu ddewisiadau’r person yn newid (Bunn et al., 2018; Harrison Dening et al., 2019).
Cymryd risgiau cadarnhaol
Mae cymryd risgiau cadarnhaol wedi derbyn cryn sylw yn y cyd-destun Cymreig. Mae adroddiad ar y rhwystrau a’r galluogwyr wrth gymryd risgiau cadarnhaol a phenderfynu ar y cyd ar wefan y Grŵp Gwybodaeth (Blood a Wardle, 2024).
Gwnaeth James et al. (2017) werthusiad o brosiect peilot ar “weithwyr cymdeithasol penodol” yn Lloegr. Edrychodd y gwaith ar y ffordd y mae syniadau am risg a pherygl yn aml yn cyfyngu ar ryddid pobl ag anableddau dysgu. Roedden nhw’n dadlau bod pryderon am risg yn aml yn arwain at agweddau arglwyddiaethol a chyfyngiadau ar sut roedd pobl yn byw eu bywydau. Mae’r agwedd arglwyddiaethol yn golygu meddwl eich bod chi'n gwybod beth sydd orau i rywun arall. Maen nhw’n dadlau bod yn rhaid i hyfforddiant gweithwyr cymdeithasol fod wedi’i wreiddio yn y model cymdeithasol o anabledd fel y gallan nhw gefnogi pobl i gael gwared ar y rhwystrau sy’n eu hwynebu wrth wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain.
Darganfyddodd Jingree et al. (2006) yn eu hastudiaeth, bod rhai gweithwyr gofal cymdeithasol yn profi gwrthdaro rhwng eu nod i ddarparu gofal da a hwyluso gweithrediad pobl. Gall hyn fod yn broblem benodol pan ddaw’n fater o benderfyniadau gan bobl sy’n peri risg wirioneddol neu ddychmygol yng ngolwg pobl eraill. Yn y cyd-destun hwn, gall y cysyniad o “gymryd risgiau cadarnhaol” gynnig rhai opsiynau i gefnogi pobl mewn ffordd rymusol. Mae cymryd risgiau cadarnhaol yn golygu nodi’r canlyniadau positif posib i unigolyn a’r niwed posib a allai ddigwydd drwy gymryd risg (Field et al. 2024). Gan edrych ar gysyniadau cymryd risgiau cadarnhaol a sut maen nhw’n cael eu defnyddio’n ymarferol, mae Seale et al. (2013) yn dadlau y gall ffyrdd o weithio gyda phobl ag anableddau dysgu sy’n cofleidio risg arwain at fwy o greadigrwydd a llesiant uwch.
Gall cymryd risgiau cadarnhaol ein helpu i ddeall y ffordd orau o gefnogi pobl wrth wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd yn ogystal â phenderfyniadau pwysig mewn bywyd. Mae Finnlay et al. (2008) yn dangos y gall canolbwyntio ar y penderfyniadau mawr ym mywydau pobl weithiau ddisodli’r penderfyniadau bach sydd hefyd yn arwyddocaol iddyn nhw. Maen nhw’n defnyddio cartref gofal preswyl fel enghraifft. Newidiodd y cartref gofal ei ffordd o weini bwyd i ddangos pwysigrwydd caniatáu pobl i wneud penderfyniadau bach. Nid oedden nhw bellach yn paratoi platiau o fwyd i bawb ac, yn hytrach, yn gosod y bwyd yng nghanol y bwrdd. Rhoddodd y newid hwn ddewis i bobl a oedd yn byw yn y cartref gofal o ran beth i'w fwyta a faint. Dadleuodd yr ymchwilwyr nad oedd y newid hwn yn hawdd i staff cymorth. Roedden nhw’n poeni y gallai pobl or-fwyta, dinistrio llestri neu wneud gormod o lanast. Er mwyn hwyluso mwy o weithrediad dros prydau bwyd i bobl y cartref, roedd angen i'r staff cymorth oresgyn pryderon am risgiau posib.
Efallai nad yw newidiadau bach fel hyn yn hawdd i weithwyr gofal cymdeithasol ond gallan nhw fod yn bwerus o ran rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau eu hunain. O ran rheoli a hyfforddi staff, mae Finnlay et al. (2008) yn dadlau bod angen sicrwydd ar staff na fyddan nhw’n cael eu cosbi. Hynny yw bod modd aberthu rhywfaint ar drefn a glanweithdra, fel bod pobl yn gallu gwneud mwy o benderfyniadau am y ffordd rydyn nhw eisiau byw.
Serch hynny, mae pryderon ynglŷn â’r defnydd o gymryd risgiau cadarnhaol mewn lleoliadau eraill. Mae’r ymchwilydd Lucy Series (2022) wedi nodi sawl enghraifft lle mae pobl mewn cyflwr difrifol wedi cael eu troi i ffwrdd o wasanaethau iechyd meddwl ar y sail bod ganddyn nhw alluedd. Mae Series (2022) yn cyfeirio at nifer o adroddiadau gan bobl sydd wedi synio am hunanladdiad ac sy’n sôn iddyn nhw gael gwybod bod ganddyn nhw “y galluedd” i gymryd risgiau yn lle cael y cymorth roedden nhw’n gofyn amdano.
Cynhaliodd yr ymgyrchydd a’r ymchwilydd, a oroesodd, Wren Aves (2022) arolwg
ar-lein. Ymatebodd pobl a oedd yn gleifion iechyd meddwl cyfredol neu’n gyn-gleifion y gwrthodwyd gofal iddyn nhw ar y sail bod ganddyn nhw y galluedd i wneud penderfyniadau. Derbyniodd Aves 211 o ymatebion wrth bobl a ddisgrifiodd y niwed sylweddol deilliodd o’u cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl. Er bod angen mwy o ymchwil cadarn i'r defnydd o gymryd risgiau cadarnhaol mewn gwasanaethau iechyd meddwl, mae'r arolwg hwn yn nodi rhai risgiau moesegol posib y mae angen i ymarferwyr fod yn ymwybodol ohonyn nhw. Dylai pobl gael eu galluogi i wneud penderfyniadau am eu bywydau, hyd yn oed pan nad yw’r rhai sy’n eu cefnogi yn cytuno â’r penderfyniad hwnnw. Pan fydd pobl yn gofyn am help ac yn dweud na allan nhw wneud penderfyniadau eu hunain, rhaid eu credu. Ac osgoi eu rhoi mewn perygl ar y sail y gallan nhw wneud penderfyniadau am eu bywyd eu hunain. Mae hyn yn cynnwys pan fydd person yn ymwybodol eu bod yn dioddef argyfwng iechyd meddwl a synio am hunanladdiad.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod pobl sydd weithiau’n cael mynediad at gymorth mewn perygl difrifol. Nid yw sefyllfaoedd fel cam-drin, esgeulustod neu drais domestig yn risgiau i’w cofleidio.
Cyfathrebu a mynediad at wybodaeth
Mae cyfathrebu effeithiol yn thema fawr arall yn yr ymchwil ar wneud penderfyniadau ym maes gofal cymdeithasol. Nododd Finnlay et al. (2008) faterion cyfathrebu fel rhwystr mawr i sicrhau y gall pobl gael rheolaeth dros eu bywydau. Er enghraifft, roedd staff mewn cartrefi gofal preswyl yn aml yn dibynnu’n ormodol ar gyfathrebu llafar, hyd yn oed pan oedd yn well gan bobl ddulliau eraill.
Mae rhai astudiaethau wedi canfod canlyniadau da wrth archwilio sut beth yw cyfathrebu effeithiol â phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth ar lefel unigol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio dulliau fel fideos, lluniau a deunyddiau darllen gydag iaith glir fel y bo'n briodol (Nilsen et al., 2022; Davies et al., 2019; Haroon et al., 2022). I bobl ag anableddau dysgu, gall fersiynau hawdd eu deall o ddogfennau, sy’n cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd hygyrch, hefyd gefnogi pobl i wneud penderfyniadau (Anabledd Dysgu Cymru, 2024).
Mae’n werth cofio y gall heriau cyfathrebu a gwahanol ddealltwriaethau a gwerthoedd chwarae rhan sylweddol ym mhrofiadau pobl sydd ar y cyrion gyda’r gwasanaethau cymdeithasol (Kagan et al., 2002). Mae “ar y cyrion” fan hyn yn golygu pobl sy'n rhan o grŵp lleiafrifol ac a allai brofi gwahaniaethu. Gallai hyn fod oherwydd eu hethnigrwydd, anabledd, oedran, hunaniaeth o ran rhywedd neu anfantais economaidd.
Casgliad
Mae’r crynodeb hwn yn dangos y gall galluogi pobl i gael rheolaeth dros eu bywydau fod yn gymhleth. Hyd yn oed pan fydd staff yn gwneud eu gorau i gefnogi pobl i gael bywydau da, weithiau gallan nhw weithredu mewn ffordd sy'n eu dadrymuso. Mae canfyddiadau ymchwil yn cynnig cipolwg ar sut i gefnogi pobl i fyw eu bywydau mor rhydd â phosib ac yn ôl yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw. Mae hyn yn golygu rhoi cymorth iddyn nhw ddatblygu gweithrediad yn eu bywydau personol a chymdeithasol, yn ogystal ag ymdeimlad o ddinasyddiaeth. Mae hefyd yn golygu deall galluedd nid fel rhywbeth sydd gan rywun neu beidio, ond fel rhywbeth sydd wastad yn bodoli mewn perthynas ag amgylchedd unigolyn a’r bobl o’u cwmpas.
Darllen ychwanegol
Dyma restr o’r pum adnodd mwyaf perthnasol i gefnogi pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal sydd naill ai'n rhai mynediad agored neu sydd ar gael yn e-Lyfrgell GIG Cymru.
- Jingree, T., Finlay, W. M. L. ac Antaki, C. (2006) ‘Empowering words, disempowering actions: an analysis of interactions between staff members and people with learning disabilities in residents’ meetings’, Journal of Intellectual Disability Research, 50 (3),tt. 212-226, doi:10.1111/j.1365-2788.2005.00771.x, ar gael yn https://doi.org/10.1111/j.1365-2788.2005.00771.x (cyrchwyd: 14 Mai 2024)
- Seale, J., Nind, M. a Simmons, B. (2013) ‘Transforming positive risk-taking practices: the possibilities of creativity and resilience in learning disability contexts’, Scandinavian Journal of Disability Research, 15 (3), tt. 233-248, doi:10.1080/15017419.2012.703967, ar gael yn https://doi.org/10.1080/15017419.2012.703967 (cyrchwyd: 14 Mai 2024)
- Jackson, R. (2015) Who Cares? The impact of ideology, regulation and marketisation on the quality of life of people with an intellectual disability, Sheffield: Centre for Welfare Reform, ar gael yn https://citizen-network.org/uploads/attachment/449/who-cares.pdf (cyrchwyd: 13 Mai 2024).
- Series, L. (2015) ‘Relationships, autonomy and legal capacity: Mental capacity and support paradigms’, International Journal of Law and Psychiatry, 40, tt. 80-91, doi:10.1016/j.ijlp.2015.04.010, ar gael yn http://doi.org/10.1016/j.ijlp.2015.04.010 (cyrchwyd: 14 Mai 2024)
- Tarrant, A. (2022) ‘Independent Living as a Counter-Narrative’, International Journal of Disability and Social Justice, 2 (1), tt. 48-73, doi:10.13169/intljofdissocjus.2.1.0048, ar gael yn http://doi.org/10.13169/intljofdissocjus.2.1.0048 (cyrchwyd: 14 Mai 2024)
Rhestr cyfeiriadau -
Anabledd Dysgu Cymru (2024) Hawdd ei Ddeall Cymru, ar gael yn https://www.ldw.org.uk/cy/hawdd-ei-ddeall-cymru/ (cyrchwyd: 14 Mai 2024).
Anderson, S. a Bigby, C. (2017) ‘Self-Advocacy as a Means to Positive Identities for People with Intellectual Disability: “We Just Help Them, Be Them Really”’, Journal of Applied Research in Intellectual Disabilities, 30 (1), tt. 109-120, doi: 10.1111/jar.12223.
Aves, W. (2022) ‘If You Are Not A Patient They Like, Then You Have Capacity’, Psychiatry is Driving Me Mad, ar gael yn https://www.psychiatryisdrivingmemad.co.uk/post/if-you-are-not-a-patient-they-like-then-you-have-capacity (cyrchwyd: 13 Mai 2024).
Blood, I. a Wardle, S. (2024) Risg cadarnhaol a phenderfyniadau ar y cyd, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/reports/positive-risk-and-shared-decision-making (cyrchwyd: 14 Mai 2024)
Bunn, F., Goodman, C., Russell, B., Wilson, P., Manthorpe, J., Rait, G., Hodkinson, I. a Durand, M. (2018) ‘Supporting shared decision making for older people with multiple health and social care needs: a realist synthesis’, BMC Geriatrics, 18, 165, doi: 10.1186/s12877-018-0853-9.
Cenhedloedd Unedig (2006) Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau, ar gael yn https://www.un.org/disabilities/documents/convention/convention_accessible_pdf.pdf (cyrchwyd: 13 Mai 2024).
Chapman, R. (2023) Empire of Normality: Neurodiversity and Capitalism, Llundain, Pluto.
Cole, N. L. (2019) ‘How Sociologists Define Human Agency’, ThoughtCo, 2 Ionawr 2021, ar gael yn https://www.thoughtco.com/agency-definition-3026036 (cyrchwyd: 13 Mai 2024).
Crynodeb o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/hyb-gwybodaeth-a-dysgu/deddf-sswb/trowsolwg (cyrchwyd: 14 Mai 2024).
Davies, N., Schiowitz, B., Rait, G., Vickerstaff, V. a Sampson, E. (2019) ‘Decision aids to support decision-making in dementia care: a systematic review’, International Psychogeriatrics, 31 (10), tt. 1403-1419, doi:10.1017/S1041610219000826.
de São José, J., Barros, R., Samitca, S. a Teixeira, A. (2016) ‘Older persons’ experiences and perspectives of receiving social care: a systematic review of the qualitative literature’, Health and Social Care in the Community, 24, tt. 1-11, doi:10.1111/hsc.12186.
Deddf Galluedd Meddyliol 2005, ar gael yn https://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2005/9/contents/enacted (cyrchwyd: 14 Mai 2024).
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ar gael yn https://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2014/4/resources (cyrchwyd: 14 Mai 2024).Social Services and Well-being (Wales) Act 2014
Donnelly, S., Ó Coimín, D, O’Donnell, D., Ní Shé, E., Davies C., Christophers, L., McDonald, S. a Kroll, T. (2021) ‘Assisted decision-making and interprofessional collaboration in the care of older people: a qualitative study exploring perceptions of barriers and facilitators in the acute hospital setting’, Journal of Interprofessional Care, 35 (6), tt. 852-862, doi:10.1080/13561820.2020.1863342.
Doyle, C., Lennox, L. a Bell, D. (2013) ‘A systematic review of evidence on the links between patient experience and clinical safety and effectiveness’, BMJ Open, 3, e001570, doi:10.1136/bmjopen-2012-001570.
Eaton, S., Roberts, S. a Turner, B. (2015) ‘Delivering person centred care in long term conditions.’ BMJ, 350, doi:10.1136/bmj.h181.
Field, L., Nagy, L., Knaggs, T. a Collett, J. (2024) ‘Positive risk-taking within social care for adults with physical disabilities: A review of guidelines in practice in England’, British Journal of Occupational Therapy, 2024; 0 (0). doi:10.1177/03080226241246511.
Finnlay, W., Walton, C. ac Antaki, C. (2008) ‘Promoting choice and control in residential services for people with learning disabilities’, Disability & Society, 23 (4), tt. 349-360, doi:10.1080/09687590802038860.
Fullana, J., Pallisera, M. a Díaz-Garolera, G. (2019) ‘How do people with learning disabilities talk about professionals and organizations? Discourse on support practices for independent living’, Disability & Society, 34 (9-10), tt. 1462-1480, doi:10.1080/09687599.2019.1594701.
Gofal Cymdeithasol Cymru (2020) Egwyddorion ymarfer, Cydbwyso risgiau, hawliau a chyfrifoldebau ar gyfer oedolion: dull cadarnhaol o ymdrin â risgiau, ar gael yn https://socialcare.wales/cms-assets/documents/Practice-principles-CYM-224.pdf (cyrchwyd: 13 Mai 2024).
Gofal Cymdeithasol Cymru (2022) Deall dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/gwella-gofal-a-chymorth/canlyniadau-personol/deall-dull-syn-canolbwyntio-ar-ganlyniadau (cyrchwyd: 13 Mai 2024).
Haroon, M., Dissanayaka, N. N., Angwin, A. J. a Comans, T. (2022) ‘How effective are pictures in eliciting information from people living with dementia? A systematic Review’, Clinical Gerontologist, 46 (4), tt. 511-524, doi:10.1080/07317115.2022.2085643.
Harrison Dening, K., Sampson, E. L. a De Vries, K. (2019) ‘Advance care planning in dementia: recommendations for healthcare professionals.’ Palliative Care: Research and Treatment, 12, doi: 10.1177/1178224219826579.
Iechyd Cyhoeddus Cymru (2023) Fideo newydd a chanllaw hawdd ei ddarllen i gefnogi pobl ag anabledd dysgu trwy’r broses frechu, ar gael yn https://icc.gig.cymru/newyddion1/fideo-newydd-a-chanllaw-hawdd-ei-ddarllen-i-gefnogi-pobl-ag-anabledd-dysgu-trwyr-broses-frechu/ (cyrchwyd: 13 Mai 2024).
Jackson, R. (2015) Who Cares? The impact of ideology, regulation and marketisation on the quality of life of people with an intellectual disability, Sheffield: Centre for Welfare Reform, ar gael yn https://citizen-network.org/uploads/attachment/449/who-cares.pdf (cyrchwyd: 13 Mai 2024).
James, E., Morgan, H. a Mitchell, R. (2017) ‘Named social workers – better social work for learning disabled people?’, Disability & Society, 32 (10), tt. 1650-1655, doi:10.1080/09687599.2017.1340019.
Jingree, T., Finlay, W. M. L. ac Antaki, C. (2006) ‘Empowering Words, Disempowering Actions: An Analysis of Interactions between Staff Members and People with Learning Disabilities in Residents’ Meetings’, Journal of Intellectual Disability Research, 50 (3), tt. 212-226, doi:10.1111/j.1365-2788.2005.00771.x.
Kagan, C., Burns, D., Burton, M., Crespo, I., Evans, R., Knowles, K., Lalueza, J.L. a Sixsmith, J. (2002) ‘Working with people who are marginalized by the social system: Challenges for community psychological work’, European Community Psychology: Community, Power, Ethics and Values: Papers from the European Community Psychology Congress, Barcelona, pp. 400-412, ar gael yn http://www.compsy.org.uk/margibarc.pdf (cyrchwyd: 14 Mai 2024).
Kim S. K. a Park, M. (2017) ‘Effectiveness of person-centered care on people with dementia: a systematic review and meta-analysis’, Clinical Interventions in Aging, 12, tt. 381-397, doi:10.2147/CIA.S117637.
Kloos, N., Trompetter, H. R., Bohlmeijer, E. T. a Westerhof, G. J. (2019) ‘Longitudinal associations of autonomy, relatedness, and competence with the well-being of nursing home residents’, The Gerontologist, 59 (4), tt. 635-643, doi:10.1093/geront/gny005.
Krist, A. H., Tong, S. T., Aycock, R. A. a Longo, D. R. (2017) ‘Engaging Patients in Decision-Making and Behavior Change to Promote Prevention’, Studies in Health Technology and Informatics, 240, tt. 284-302, doi:10.3233/ISU-170826.
Llywodraeth Cymru (2019) Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol, ar gael yn https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2019-09/action-on-disability-the-right-to-independent-living-framework-and-action-plan.pdf (cyrchwyd: 13 Mai 2024).
McConnell, T., Best, P. Sturm, T., Stevenson, M., Donnelly, M., Taylor, B. J. a McCorry, N. (2020) ‘A Translational Case Study of Empowerment into Practice: A Realist Evaluation of a Member-Led Dementia Empowerment Service’, Dementia (London, England), 19 (6), tt. 1974-1996, doi:10.1177/1471301218814393.
McDaid, S. a Delaney, S. (2011) ‘A social approach to decision-making capacity: exploratory research with people with experience of mental health treatment’, Disability & Society, 26 (6), tt. 729-742, doi:10.1080/09687599.2011.602864.
McGovern, J. (2015) ‘Living Better With Dementia: Strengths-Based Social Work Practice and Dementia Care, Social Work in Health Care, 54 (5), tt. 408-421, doi:10.1080/00981389.2015.1029661.
Mind (2024) Mental Capacity Act 2005, ar gael yn https://www.mind.org.uk/information-support/legal-rights/mental-capacity-act-2005/capacity/ (cyrchwyd: 13 Mai 2024).
Nilsen, E. R., Hollister, B., Söderhamn, U. a Dale, B. (2022) ‘What matters to older adults? Exploring person‐centred care during and after transitions between hospital and home’, Journal of Clinical Nursing, 31 (5-6), tt. 569-581, doi:10.1111/jocn.15914.
Seale, J., Nind, M. a Simmons, B. (2013) ‘Transforming positive risk-taking practices: the possibilities of creativity and resilience in learning disability contexts’, Scandinavian Journal of Disability Research, 15 (3), tt. 233-248, doi:10.1080/15017419.2012.703967.
Series, L. (2015) ‘Relationships, autonomy and legal capacity: Mental capacity and support paradigms’, International Journal of Law and Psychiatry, 40, tt. 80-91, doi:10.1016/j.ijlp.2015.04.010.
Series, L. (2022) ‘The “you’ve got the capacity to choose to kill yourself” phenomenon, and what we can do about it’, ar gael yn https://thesmallplaces.wordpress.com/2022/06/10/the-youve-got-the-capacity-to-choose-to-kill-yourself-phenomenon-and-what-we-can-do-about-it/ (cyrchwyd: 13 Mai 2024).
Tambuyzer, E., Pieters, G. a Van Audenhove, C. (2014) ‘Patient involvement in mental health care: one size does not fit all’, Health Expectations, 17 (1), tt.138-150, doi:10.1111/j.1369-7625.2011.00743.x.
Tarrant, A. (2022) ‘Independent living as a counter-narrative: a work of resistance and repair’, International Journal of Disability and Social Justice, 2 (1), tt. 48-73, doi:10.13169/intljofdissocjus.2.1.0048.
Taylor, B. J. a Donnelly, M. (2006) ‘Professional perspectives on decision making about the long-term care of older people’, British Journal of Social Work, 36 (5), tt. 807-826, doi:10.1093/bjsw/bch322.