Skip to Main content

Ymddygiad celcio a chymorth gofal cymdeithasol

Ysgrifennwyd gan Dr Flossie Caerwynt a Dr Kat Deerfield, golygwyd gan Dr Eleanor Johnson a Dr Grace Krause

Tachwedd 2026

Yn y crynodeb o dystiolaeth hwn, rydyn ni yn tynnu sylw at ymchwil berthnasol a chyfoes ar ymddygiad celcio a chymorth gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Celcio (hoarding) yw pan fydd pobl yn cronni cymaint o bethau sydd ganddyn nhw mae’n bygwth eu diogelwch, ond ni alla nhw gael gwared a’r bethau. Mae hyn yn golygu bod celcio yn gyflwr iechyd meddwl ac yn risg iechyd a diogelwch ymarferol. Gall ymchwil helpu i ddod o hyd i ffyrdd gwell o gefnogi pobl sy’n profi ymddygiad celcio. Mae'n bwysig bod y cymorth yn helpu eu cadw’n ddiogel tra’n parchu eu hymreolaeth ac osgoi achosi trawma.

Oedolyn a phlentyn gyda bocs cardbord mawr

Adnabod anhwylder celcio

Sut mae ymddygiad celcio 'n edrych

Celcio yw pan fydd nifer y pethau sydd gan rywun yn dechrau amharu ar ei fywyd bob dydd. Efallai y bydd gan bobl sy'n profi ymddygiad celcio gymaint o bethau yn eu cartref, ni allant eu storio’n effeithiol. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw goginio, glanhau, neu gysgu. Gallan nhw hefyd ei chael hi'n anodd iawn – yn emosiynol neu'n ymarferol – i drefnu pethau neu gael gwared arnyn nhw. Yn aml, mae pobl yn teimlo cryn gywilydd a gofid am eu hymddygiad celcio. Gall hyn arwain atyn nhw’n ynysu eu hunain oddi wrth bobl eraill, gan gynnwys anwyliaid a gweithwyr proffesiynol.

Diagnosis iechyd meddwl penodol yw ‘anhwylder celcio’, y byddwn yn ei egluro'n fanylach nes ymlaen yn y crynodeb hwn. Ond nid pawb sy'n cael mynediad at gymorth celcio fydd yn cael diagnosis o anhwylder celcio. 

Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n defnyddio’r term ‘ymddygiad celcio’ i ddisgrifio amrywiaeth o ymddygiad sy'n ymwneud â chronni llawer o bethau, mewn ffordd sy'n achosi gofid neu a allai beryglu iechyd neu llesiant rhywun. Dyma sut mae Steils et al. (2022) yn defnyddio’r term ‘ymddygiad celcio’ yn eu hadolygiad o ymchwil sy’n ymwneud â chelcio. 

Mae termau eraill y mae ymchwilwyr wedi'u defnyddio i ddisgrifio celcio yn cynnwys (Steils et al., 2022):

  • annibendod neu anhrefnu
  • budreddi, lle bernir bod ymddygiad celcio wedi arwain at amodau anhylan
  • syndrom Diogenes, pan fo’r person sy’n arddangos ymddygiad celcio yn oedolyn hŷn.

Celcio gwrthrychau yw’r math mwyaf adnabyddus o gelcio. Ond gall pobl gelcio pethau eraill hefyd, fel anifeiliaid neu gynnwys digidol (Mind, 2022a). Mae anghenion gofal cymdeithasol pobl sy’n profi’r mathau hyn o ymddygiad celcio yn wahanol i anghenion pobl sy’n celcio gwrthrychau (Arluke et al., 2017; Nathanson, 2009). Oherwydd hyn, rydyn ni’n canolbwyntio ar ymddygiad celcio gwrthrychau. 

Mae ymddygiad celcio yn fater cymhleth i ofal cymdeithasol oherwydd nad oes llwybrau cymorth clir bob amser. Mae ymchwil yn dangos ei bod hi’n bwysig:

  • canolbwyntio ar anghenion a phryderon unigol person sy'n profi ymddygiad celcio
  • canolbwyntio â'r anawsterau sy'n sail i'r ymddygiad, yn hytrach na chael gwared ar eiddo’n unig
  • cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i ddarparu cymorth amlasiantaethol.
Pen person gyda symbol croes feddygol

Diagnosis iechyd meddwl penodol yw ‘anhwylder celcio’.

Meini prawf diagnostig

Mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD-11) gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn nodi anhwylder celcio yn gyflwr meddygol ac yn amlinellu meini prawf diagnostig ar ei gyfer. Mae’r WHO yn diffinio anhwylder celcio fel:

“Nodweddir anhwylder celcio gan gronni eiddo oherwydd caffael gormodol neu anhawster i gael gwared ar eiddo, waeth beth fo'u gwerth go iawn. Nodweddir caffael gormodol gan ysgogiadau neu ymddygiadau ailadroddus sy'n gysylltiedig â chasglu neu brynu eitemau. Nodweddir anhawster i gael gwared ar eiddo gan angen canfyddedig i gadw eitemau a'r gofid sy'n gysylltiedig â chael gwared ohonynt. Mae cronni eiddo yn arwain at leoedd byw yn mynd yn anniben i'r pwynt bod eu defnydd neu eu diogelwch yn cael ei beryglu. Mae'r symptomau'n arwain at ofid sylweddol neu amhariad sylweddol mewn meysydd gweithredu personol, teuluol, cymdeithasol, addysgol, galwedigaethol neu feysydd pwysig eraill (WHO, 2021).”

Mae datblygu anhwylder celcio fel diagnosis wedi arwain at rywfaint o ddadlau. Mae rhai arbenigwyr yn dadlau y gall diagnosis arwain at ganlyniadau positif drwy agor cyfleoedd am driniaeth. Ond gall ystyried ymddygiad celcio fel anhwylder y mae modd ei ddiagnosio hefyd greu neu gynyddu stigma (Brown a Pain, 2014; Steils et al., 2022; gweler hefyd Orr et al., 2019). 

Gall y termau seiciatrig sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio anhwylder celcio gynyddu stigma sy'n gysylltiedig a chelcio. Un enghraifft sy'n cael ei thrafod aml mewn llenyddiaeth am gelcio yw diffyg ymwybyddiaeth. Mae hyn yn digwydd pan nad yw person yn cydnabod sut mae ei ymddygiad yn effeithio arno ef neu ar eraill, neu pan nad yw'n gweld ei ymddygiad fel problem (Autonomy Project, 2025). Mae hyn yn rhan bwysig o’r meini prawf a ddefnyddir i ddiagnosio anhwylder celcio (Samuels et al., 2007; BPS, 2015). 

Mewn un astudiaeth o bobl sy'n celcio, disgrifiwyd 21 y cant fel bobl nad oeddent yn cydnabod eu hymddygiad fel problem (Samuels et al., 2007). Ond nid yw'r disgrifiad hwn yn cyfleu cymhlethdod y ffordd y mae pobl yn gweld eu problemau’n iawn (BPS, 2015). Mae gan hyn oblygiadau sylweddol i ofal, fel y byddwn yn ei drafod yn fanylach yn y crynodeb hwn.

Person yn edrych trwy ffenestr

Gall y termau seiciatrig sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio anhwylder celcio gynyddu stigma sy'n gysylltiedig a chelcio.

Celcio fel symptom o gyflyrau eraill

Mae cysylltiad agos rhwng ymddygiad celcio ac iechyd meddwl. Yn aml, mae’n dechrau fel ffordd o ymdopi â sefyllfaoedd sy’n achosi straen neu drawma (Mind, 2022b). Mae hyn yn golygu na all ymddygiad celcio gael ei drin yn llwyddiannus heb fynd i'r afael â gwraidd y broblem. Wrth ddarparu gofal a chymorth i bobl sy’n profi ymddygiad celcio, mae'r un egwyddorion yn berthnasol ag ar gyfer gofalu am bobl sy'n wynebu cyflyrau iechyd meddwl eraill neu bobl sydd wedi wynebu trawma (McGrath et al., 2024). Gallwch ddysgu mwy am gymorth gofal cymdeithasol sy'n seiliedig ar drawma yn ein crynodeb o dystiolaeth ar ddulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma.

Mae cysylltiad rhwng ymddygiad celcio â rhai ddiagnosisau eraill hefyd, er na fydd gan bawb sy'n profi ymddygiad celcio y cyflyrau hyn. Fel diagnosis, mae anhwylder celcio yn rhan o deulu'r anhwylderau gorfodaeth ac obsesiwn (OCD). Mae'r teulu hwn hefyd yn cynnwys anhwylder gorfodaeth ac obsesiwn (OCD), anhwylder dismorffig y corff, a gorbryder iechyd (sydd hefyd yn cael ei alw’n anhwylder pryder salwch neu hypochondria). Mae'r cyflyrau hyn i gyd yn cynnwys rhyw fath o feddyliau neu ymddygiad ailadroddus (ICD-11). Gan eu bod yn rhannu nifer o'r un nodweddion, credwyd bod anhwylder celcio yn fath o OCD cyn iddo gael diagnosis ar ei ben ei hun. 

Mae ymddygiad celcio yn fwy cyffredin ymhlith pobl ar y sbectrwm awtistiaeth a phobl sydd â syndrom Prader-Willi na’r boblogaeth gyffredinol. Gall fod cysylltiad hefyd rhwng ymddygiad celcio ac anableddau dysgu, ond mae angen mwy o ymchwil i ddeall y berthynas hon yn llawn (BPS, 2015). 

Mewn gofal cymdeithasol, mae celcio a hunanesgeuluso'n cael eu trafod yn aml gyda’i gilydd. Rydyn ni’n sôn am rai o'r rhesymau am hyn yn fwy manwl nes ymlaen yn y crynodeb. Gall hunanesgeuluso fod yn ffordd ddefnyddiol o asesu a oes pryderon diogelu sy'n gysylltiedig ag ymddygiad celcio. Ond nid yw'r ffordd y mae'r berthynas rhwng celcio a hunanesgeuluso yn cael ei disgrifio bob amser yn glir. Weithiau, caiff celcio ei ddisgrifio fel math o hunanesgeuluso. Ar adegau eraill, caiff hunanesgeuluso ei weld fel canlyniad ymddygiad celcio. Mae'r anghysondebau hyn yn ei gwneud hi'n anodd deall y berthynas rhwng celcio a hunanesgeuluso (Thew a Salkovskis, 2016). 

Mae celcio a hunanesgeuluso yn ddau beth gwahanol, a gallan nhw ddigwydd ar wahân, yn ogystal â gyda'i gilydd. Nid yw pawb sy'n profi ymddygiad celcio yn hunanesgeuluso, ac nid pawb sy’n hunanesgeulusoyn profi ymddygiad celcio. Mae’r crynodeb hwn yn canolbwyntio ar ymddygiad celcio, a dim ond pan fo ymchwil a pholisi'n tynnu sylw at y cysylltiad rhwng celcio a hunanesgeuluso y byddwn yn trafod hunanesgeuluso.

Person yn golchi dysgl

Mewn gofal cymdeithasol, mae celcio a hunanesgeuluso'n cael eu trafod yn aml gyda’i gilydd. 

Cyd-destun cymdeithasol a ddiwylliannol

Celcio fel continwwm ymddygiadol 

Mae rhai ymchwilwyr yn dadlau bod gwahanol ffyrdd o ymddwyn tuag at bethau a'u casglu yn rhan arferol o brofiad dynol (Steils et al., 2022). O'r safbwynt hwn, nid yw celcio'n ymddygiad anhwylder unigryw ond yn ffurf eithafol o ymddygiad sy'n gyffredin ymhlith pobl. Mae hyn yn golygu y gall fod yn anodd penderfynu pryd y daw cronni eiddo yn broblem oherwydd caiff nifer o'r arwyddion traddodiadol o ymddygiad celcio (fel ymlyniad emosiynol i eiddo neu gronni pethau am ddim rheswm amlwg) eu gweld mewn ymddygiad nad yw’n anhwylder.  

Er enghraifft, mae nifer o bobl yn mwynhau casglu gwrthrychau penodol, fel cardiau masnach neu bethau eraill. Er bod gan yr hobi hwn debygrwydd ag anhwylder celcio, nid yw’n achosi’r un problemau (Nordsletten a Mataix-Cols, 2012). Gall cydnabod cyd-destun cymdeithasol celcio a’r stigma sy’n gallu bod yn gysylltiedig ag ef. Gall hyn helpu i ddatblygu dealltwriaeth fwy cytbwys a pharchus tuag at bobl sy’n profi ymddygiad celcio (Steils et al., 2022).

Oedolion hŷn ac ymddygiad chelcio

Gall pobl o unrhyw oedran brofi ymddygiad celcio. Mae ymchwil yn dangos bod ymddygiad celcio, i'r rhan fwyaf o bobl, yn dechrau cyn troi’n oedolyn (Steils et al., 2022; Thew a Salkovskis, 2016). Ond yn aml, mae celcio ei ystyried fel problem sy’n effeithio’n bennaf ar bobl hŷn. Mae sawl  rheswm posibl dros hyn. Gall digwyddiadau bywyd sy’n achosi straen fod yn gysylltiedig â symptomau mwy difrifol. A gall ymddygiad celcio waethygu wrth i berson brofi digwyddiadau sy'n achosi straen yn ystod ei fywyd (Thew a Salkovskis, 2016). Mae hyn hefyd yn wir am gyflyrau cysylltiedig, fel anhwylder gorfodaeth ac obsesiwn (OCD), yn ogystal â phroblemau iechyd meddwl eraill (WHO, 2021). Mae pobl hefyd yn cronni bethau yn naturiol dros gyfnod eu bywydau, p'un a ydynt yn profi ymddygiad celcio ai peidio.

Gall hyn arwain at fwy o broblemau yn hwyrach mewn bywyd, os yw nifer yr eiddo yn cyrraedd lefel a allai fod yn beryglus. Gall pobl hŷn hefyd wynebu mwy o berygl o effaith ymddygiad celcio os ydyn nhw yn datblygu anhawsterau symudedd neu gydbwysedd (Steils et al., 2022). Yn ogystal, gall rhai pobl hefyd golli cymorth cymdeithasol wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, er enghraifft ganlyniad profedigaeth (BPS, 2015). O ganlyniad, gall oedran wneud ymddygiad celcio yn fwy weladwy neu'n fwy tebygol o ddod i sylw gwasanaethau. Ond mae ymchwil yn awgrymu nad yw oedran yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd person yn profi ymddygiad celcio (Grisham et al., 2006).

Ffactorau amgylcheddol

Gall y mannau y mae pobl yn byw ynddyn nhw ddylanwadu ar ba mor debygol o gael eu hystyried fel rhai sy'n profi ymddygiad celcio. Mae llawer o bobl sy’n profi ymddygiad celcio yn dweud bod eu hymddygiad celcio ond yn broblem oherwydd eu bod yn byw mewn man cyfyng (Orr et al., 2019). Gall pobl sy’n byw mewn cartrefi mawr storio nifer fawr o bethau heb i hyn achosi problemau, ac mae hyn fel arfer yn cael ei ystyried fel ymddygiad arferol. Os bydd person sydd â chartref bach, neu sy'n rhannu cartref â nifer o bobl eraill, yn ceisio storio'r un faint o bethau, mae'n debygol y bydd eu cartref yn mynd yn orlawn (Arnold a Lang, 2007). Mae hyn wedi’i gysylltu’n agos â'r ffaith bod pobl ag incwm is yn fwy tebygol o gael eu trin am ymddygiad celcio (Kretzer et al., 2023; Prosser et al., 2024). Mae cysylltiad hefyd rhwng oedran a ffactorau amgylcheddol, gan fod pobl hŷn yn fwy tebygol o symud i gartref llai (Eckfield ac Wallhagen, 2013). 

Ffactorau cymdeithasol

Mae oedran a’r amgylchedd yn ddau ffactor sy'n chwarae rhan wrth benderfynu a yw ymddygiad celcio yn peri risg corfforol i rywun. Ond mae ffactorau eraill sy'n helpu i benderfynu a yw ymddygiad celcio yn broblem ac a oes angen ymyrryd. Gall y rhain gynnwys niwed i ansawdd bywyd person. Er enghraifft, os na alla nhw gysgu mewn gwely neu wneud defnydd llawn o offer a chyfleusterau cegin.

Mae peth ymchwil yn dadlau bod gan oedolion sydd â'r gallu i wneud penderfyniadau yr hawl i fyw heb y cyfleusterau hyn, os ydyn nhw yn dymuno (Larkin et al., 2024). Ond mae ymchwil arall yn awgrymu y gall gweithwyr gofal cymdeithasol fod yn rhy gyflym i dybio bod oedolion sydd â’r gallu meddyliol yn dewis byw mewn amodau gwael (Scourfield, 2010; Preston-Shoot, 2023). 

Gall hunanesgeuluso ddigwydd o ganlyniad i gyfres o benderfyniadau bach dros amser, yn hytrach nag o ganlyniad un dewis ymwybodol ynglŷn â ffordd o fyw. Felly, gall rhai pobl wrthod cymorth oherwydd eu bod yn chael hi'n anodd cydnabod bod eu penderfyniadau wedi arwain at problemau (Scourfield, 2010). Yn yr achosion hyn, mae'n bwysig cydbwyso hawl pobl i ymreolaeth â phryderon ynghylch diogelu (Scourfield, 2010; Preston-Shoot, 2023; Millen, 2010). Gall presenoldeb anifeiliaid neu blant mewn cartref hefyd gynyddu'r angen am ymyrraeth (Larkin et al., 2024; McGrath et al., 2024).

Tŷ

Celcio mewn deddfwriaeth a chanllawiau

Ychydig iawn o ddeddfwriaeth neu ganllawiau sy’n canolbwyntio'n benodol ar gelcio, yng Nghymru a thu hwnt. Pan fo pryderon am lesiant person sy’n profi ymddygiad celcio, efallai y bydd angen edrych ar eu sefyllfa o safbwynt diogelu. Ond gall hyn fod yn heriol, gan nad oes polisi ffurfiol ar sut y dylai gofal cymdeithasol ymateb i ymddygiad celcio.

Yn Lloegr, mae polisi'n cysylltu hunanesgeuluso a chelcio. Mae modd ystyried hunanesgeuluso yn fethiant i ofalu am eich hun i'r graddau y daw'n fygythiad i iechyd a diogelwch (SCIE, 2024b). Ond o ran polisi, nid yw hunanesgeuluso wedi'i ddiffinio'n glir, ac mae’r berthynas â chelcio hefyd yn aneglur. Gall gweithwyr proffesiynol gysylltu celcio a hunanesgeuluso pan fyddan nhw yn ystyried bod y sefyllfa wedi dod yn anniogel i'r unigolyn sy'n profi ymddygiad celcio. Ond gall ymddygiad celcio effeithio’n negyddol ar fywyd person heb arwain o reidrwydd at sefyllfa lle byddan nhw yn troi at gymorth gofal cymdeithasol.

Nid yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diffinio hunanesgeuluso’n benodol. Ond mae’n diffinio esgeulustod, yn gyffredinol, fel “methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol unigolyn, sy’n debygol o arwain at amharu ar lesiant yr unigolyn”. Mae rhai byrddau diogelu wedi penderfynu bod hunanesgeuluso yn bodloni’r meini prawf ar gyfer esgeulustod o dan y Ddeddf (er enghraifft, gweler Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru, 2022; Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, 2016).

Arwyddbost a pherson yn cerdded i'r cyfeiriad arall

Ychydig iawn o ddeddfwriaeth neu ganllawiau sy’n canolbwyntio'n benodol ar gelcio, yng Nghymru a thu hwnt.

Cymorth gofal cymdeithasol ar gyfer ymddygiad celcio

Gall cefnogi pobl sy’n profi ymddygiad celcio fod yn gymhleth. Fel cyflyrau iechyd meddwl eraill yn nheulu'r anhwylderau gorfodaeth ac obsesiwn (OCD), mae ymddygiad celcio yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Nid mater o gronni pethau yn unig yw hyn. Gan fod ymddygiad celcio’n aml yn ymateb i drawma, gall pobl sy’n cael eu heffeithio hefyd brofi symptomau eraill sy'n gysylltiedig â thrawma, fel teimlo'n anobeithiol neu'n methu symud ymlaen. Gall hefyd effeithio ar allu pobl i feithrin a chynnal perthnasoedd (McGrath et al., 2024; Millen et al., 2017). 

Mae tair agwedd wahanol i ymddygiad celcio, ac mae angen math gwahanol o gymorth ar bob un. Mae hyn yn cynnwys cymorth i fynd i'r afael â’r canlynol:

  1. yr achosion sy'n sail i'r ymddygiad celcio, gan gynnwys therapïau siarad, therapi gwybyddol-ymddygiadol (CBT) neu feddyginiaeth (Mind, 2025)
  2. yr ymddygiad celcio ei hun, a allai gynnwys hyfforddiant i feithrin sgiliau trefnu iach, a chyfleoedd i ymarfer didoli a chael gwared ar eitemau mewn amgylcheddau sy'n peri llai o straen emosiynol (Gleason et al., 2021) 
  3. unrhyw bryderon ynghylch iechyd a diogelwch, fel hyfforddiant diogelwch personol, neu drefnu gwasanaeth glanhau i ofalu am lendid heb daflu eiddo i ffwrdd yn unig) (Kretzer et al., 2023; Gleason et al., 2021).

Cydweithio amlasiantaethol

Mae darparu cymorth ar gyfer y tair agwedd ar ymddygiad celcio yn golygu gweithio gydag weithwyr proffesiynol o amrywiaeth o asiantaethau. Mae amgylchiadau'r unigolyn yn dibynnu a'r math o gymorth sydd ei angen arnyn nhw. Gall yr asiantaethau hyn gynnwys gwasanaethau gofal cymdeithasol, iechyd, tân ac achub, lles anifeiliaid, iechyd amgylcheddol, a gwasanaethau eraill (Haighton et al., 2023). Felly, mae cydweithio amlasiantaethol effeithiol yn hanfodol i ddarparu cymorth effeithiol i bobl sy'n profi ymddygiad celcio.

Mae'n rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol gydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill i ddeall pa fath o ofal sydd ei angen ym mhob achos (Gleason et al., 2021). Dangosodd dadansoddiad o adolygiadau diogelu oedolion yn Lloegr fod y ffactorau canlynol yn bwysig er mwyn sicrhau cymorth amlasiantaethol llwyddiannus (Martineau et al., 2021):

  • presenoldeb da mewn cyfarfodydd amlasiantaethol
  • rhannu gwybodaeth yn effeithiol
  • gwybodaeth dda o'r llwybrau diogelu a chyfreithiol, a'r defnydd priodol ohonynt wrth ymateb i hunanesgeuluso, gan gynnwys pan fo ymddygiad celcio yn rhan o’r sefyllfa.

Dangosodd un astudiaeth fod y rhan fwyaf o reolwyr diogelu oedolion yn dweud bod ymyriadau cyd gysylltiedig, amlddisgyblaethol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn effeithiol. Gall y dull hwn gefnogi a gwella llesiant pobl hŷn sy'n hunanesgeuluso ac yn profi ymddygiad celcio (Owen et al., 2022).

Canolbwyntio ar yr anghenion sy'n sail i'r ymddygiad

Mae angen i unrhyw gymorth a ddarperir i bobl sy'n profi ymddygiad celcio ystyried yr achosion sy'n sail i'r ymddygiad lle bo modd. Mae ymyriadau sy'n ceisio mynd i'r afael ag ymddygiad celcio heb ddeall y cyd-destun ehangach, fel gorfodi rhywun i gael gwared ar annibendod, yn anhebygol o helpu yn yr hir dymor (SCIE, 2024b). 

Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo gofid pe bai rhywun yn taflu llawer o'u heiddo i ffwrdd. Nid yw pobl sy'n profi ymddygiad celcio yn eithriad (gyda diagnosis o ymddygiad celcio neu beidio). Gan fod ymddygiad celcio’n aml yn cynnwys ymlyniad gryf at eiddo, gall y syniad o gael gwared beri gofid mawr (BPS, 2015).

Person â llaw wedi’i chodi o flaen ei wyneb

Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo gofid pe bai rhywun yn taflu llawer o'u heiddo i ffwrdd.

Deall persbectif

Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yn pwysleisio pa mor bwysig yw ceisio deall sut mae person yn gweld ei ymddygiad neu ei brofiadau ei hun (BPS, 2015). Yn achos ymddygiad celcio, mae cronni pethau yn aml yn amlwg i bobl eraill.

Ond yn aml mae gwahaniaethau sylweddol rhwng y ffordd mae person sy’n profi ymddygiad celcio yn deall eu sefyllfa a sut mae'r bobl sy'n agos atyn nhw yn ei deall. Gall hyn arwain at ddisgrifio pobl sy'n cronni pethau fel rhai sydd â ‘chraffter gwael’ neu sy'n ‘rhithdybiol’ (Tolin et al., 2010). Fel y trafodwyd yn gynharach yn y crynodeb hwn, gall y termau hyn gyfrannu at stigma. Ac nid ydi hyn yn helpu i fynd i'r afael â phroblemau sy'n sail i'r ymddygiad celcio. 

Mae pobl sy’n profi ymddygiad celcio yn disgrifio eu problemau mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai’n canolbwyntio ar y ffaith nad oes ganddyn nhw ddigon o le storio, tra bod eraill yn dweud eu bod nhw’n cael trafferth trefnu. Dylai gweithwyr gofal cymdeithasol osgoi defnyddio termau sy’n gallu cyfrannu at stigma wrth ddisgrifio’r profiadau hyn. Gall hyn wneud pobl yn llai tebygol o ymgysylltu â gwasanaethau. Yn hytrach, mae'n well ceisio deall safbwynt y pobl eu hunain. Gall hyn helpu pobl i ymgysylltu’n fwy â chymorth, triniaeth ac ymyriadau sy'n ymwneud ag ymddygiad celcio (BPS, 2015). 

Gall nifer o bobl sy’n profi ymddygiad celcio deimlo'n anghyfforddus siarad am eu sefyllfa, felly mae angen trin sgyrsiau yn dosturiol, heb feirniadaeth (Millen et al., 2017). Mae creu amgylchedd cefnogol a pharchu ymreolaeth yn bwysig hefyd (Kretzer et al., 2023). 

Person yn curo ar ddrws

Gall pobl fod yn gyndyn i ofyn am help a wynebu llawer o rwystrau wrth wneud hynny.

Ymyriadau ar gyfer hunanesgeuluso ac ymddygiad celcio

Mae diffyg canllawiau neu ymchwil sy’n benodol i ofal cymdeithasol ynghylch sut i gefnogi pobl sy'n profi ymddygiad celcio nad ydyn nhw yn hunanesgeuluso. Nid oes llawer o ganllawiau ar gael gyfer cefnogi pobl sy'n arddangos y ddau fath o ymddygiad. Er bod gweithwyr proffesiynol yn cytuno ar rai egwyddorion arfer da, nid oes llawer o werthusiadau ffurfiol wedi'u cynnal i ddarparu tystiolaeth i gefnogi'r meysydd hyn (Owen et al., 2022). Mae'r rhan fwyaf o ganllawiau'n ymdrin ag hunanesgeuluso yn gyffredinol, yn hytrach nac ar ymddygiad chelcio’n benodol.

Canfu’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE) fod yr ymyriadau mwyaf llwyddiannus ar gyfer hunanesgeuluso (gan gynnwys ymddygiad celcio) yn rhannu tair nodwedd gyffredin. Fel arfer, mae’r ymyriadau hyn yn (SCIE, 2024a):

  1. hyblyg, i weddu i amgylchiadau’r unigolyn
  2. agored i drafodaeth, i addasu yn unol â lefelau goddefgarwch yr unigolyn
  3. gymesur, gan barchu ymreolaeth yr unigolyn a chanolbwyntio ar leihau risg yn hytrach na’i ddileu’n llwyr.

Mae SCIE hefyd yn cynnig rhai egwyddorion cyffredinol ar gyfer ymyriadau sy'n ymwneud â hunanesgeuluso. Mae'n awgrymu y dylai nhw ymgorffori'r tactegau hyn, a dylai’r cymorth gynnwys (SCIE, 2024b):

  1. cydweithio amlasiantaethol i sicrhau bod y dull priodol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob person
  2. gwrando ar safbwyntiau'r person a'u pharchu, gan weithio tuag at y canlyniadau y maen nhw eu heisiau
  3. deall y gallai rheoli risg yn effeithiol, nid newid ymddygiad, yw'r canlyniad gorau 
  4. adnabod achosion sy'n sail i'r sefyllfa er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r mater
  5. dull hirdymor, gan nad yw ymyriadau byr yn debygol o fod yn llwyddiannus
  6. cynnwys ymgysylltiad rheolaidd, cadarnhaol a pharhaus, gan helpu'r person i wneud cynnydd a rheoli risg.

Mae'r egwyddorion hyn yn cyd-fynd â chanllawiau ymchwilwyr ar gyfer cefnogi pobl sy'n chwilio am gymorth ar gyfer ymddygiad celcio. Gall pobl fod yn gyndyn i ofyn am help a wynebu llawer o rwystrau wrth wneud hynny. Mae'r rhain yn cynnwys rhwystrau personol, fel ofn cael eu barnu neu deimlo dan ormod o bwysau, a rhwystrau allanol, fel bylchau mewn gwasanaethau. Gall gwasanaethau gefnogi pobl sy'n chwilio am gymorth drwy fabwysiadu dull sy'n dangos tosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn (McGrath et al., 2024). 

Ond mae datblygu ymyriadau sy’n seiliedig ar yr hyn sy'n gwneud i rywun deimlo'n ddiogel ac wedi'i gefnogi'n dda. Gan barchu ei hawl i wneud penderfyniadau am ei fywyd ei hun ar yr un pryd. Mae diffyg ymchwil a chanllawiau ar sut i gefnogi pobl sy'n profi ymddygiad celcio, ond nad ydyn nhw hefyd yn hunanesgeuluso.

Casgliadau

Mae'r crynodeb hwn yn amlinellu’r ymchwil ddiweddaraf ar ymddygiad gelcio, a'r ffyrdd gorau o gefnogi pobl sy'n ei brofi. Mae’n ystyried sut mae ymddygiad celcio’n gysylltiedig ag oedran, amgylchedd a chyd-destun cymdeithasol. Mae ymchwil yn dangos y dylai ymyriadau ar gyfer ymddygiad celcio gynnwys cymorth i fynd i’r afael â’r canlynol:

  • yr achosion a'r anghenion sy'n sail i'r ymddygiad celcio
  • yr ymddygiad ei hun
  • pryderon sy’n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch.

Y ffordd orau o wneud hyn yw drwy flaenoriaethu cydweithio amlasiantaethol, osgoi ymyriadau gorfodol sy'n debygol o achosi trawma. A mabwysiadu agwedd heb feirniadaeth, sy'n cydnabod barn unigolion eu hunain ar eu hymddygiad.

Darllen pellach

Dyma restr o'r pum adnodd mwyaf perthnasol ar ymddygiad celcio sydd naill ai ar gael drwy fynediad agored neu yn rhad ac am ddim drwy e-Lyfrgell GIG Cymru. 

  1. Gleason, A., Perkes, D. and Wand, A.P.F. (2021) ‘Managing hoarding and squalor’, Australian Prescriber, 44(3), t. 79-84, doi:10.18773/austprescr.2021.020.
  2. McGrath, M., Russell, A.M. and Masterson, C. (2024) ‘‘A more human approach … I haven’t found that really’: experiences of hoarding difficulties and seeking help’, Behavioural and Cognitive Psychotherapy, 52(1), t. 1-13, doi:10.1017/S1352465823000425.
  3. Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (2024b) ‘Self-neglect at a glance’, ar gael yn https://www.scie.org.uk/self-neglect/at-a-glance/ (mynediad ar 19 Mawrth 2025).
  4. Steils, N., Woolham, J., Manthorpe, J., Martineau, S., Owen, J., Stevens, M. and Tinelli, M. (2022) What do we know about hoarding behaviour and treatment approaches for older people? A thematic review, NIHR Policy Research Unit in Health and Social Care Workforce, The Policy Institute, King’s College London, ar gael yn https://kclpure.kcl.ac.uk/portal/en/publications/what-do-we-know-about-hoarding-behaviour-and-treatment-approaches/ (mynediad: 11 Mai 2026).
  5. Thew, G.R. and Salkovskis, P.M. (2016) ‘Hoarding among older people: An evaluative review’, The Cognitive Behaviour Therapist, 9(32), doi:10.1017/S1754470X16000180.
Cyfeiriadau - Cliciwch i ehangu

Arluke, A., Patronek, G., Lockwood, R. and Cardona, A. (2017) ‘Animal Hoarding’, in J. Maher, H. Pierpoint and P. Beirne (eds.) The Palgrave International Handbook of Animal Abuse Studies, London: Palgrave Macmillan UK, t. 107-129, doi:10.1057/978-1-137-43183-7_6.

Arnold, J.E. and Lang, U.A. (2007) ‘Changing American home life: trends in domestic leisure and storage among middle-class families’, Journal of Family and Economic Issues, 28, t. 23-48, doi:10.1007/s10834-006-9052-5.

Autonomy Project (2025) ‘Insight and Capacity’, ar gael yn https://autonomy.essex.ac.uk/our-research/insight-capacity/ (mynediad: 1 Medi 2025).

Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) (2015) A psychological perspective on hoarding - DCP good practice guidelines, ar gael yn https://hoardingdisordersuk.org/wp/wp-content/uploads/2019/03/A-Psychological-Perspective-on-Hoarding-%E2%80%93-DCP-Good-Practice-Guidelines.pdf (mynediad 19 Mawrth 2025).

Brown, F. and Pain, A. (2014) ‘Developing an Approach to Working with Hoarding: Space for Social Work’, Practice, 26(4), t. 211–224, doi:10.1080/09503153.2014.934799.

Eckfield, M.B. and Wallhagen, M.I. (2013) ‘The synergistic effect of growing older with hoarding behaviors’, Clinical Nursing Research, 22(4), t. 475–491, doi:10.1177/1054773813496422.

Gleason, A., Perkes, D. and Wand, A.P.F. (2021) ‘Managing hoarding and squalor’, Australian Prescriber, 44(3), t. 79-84, doi:10.18773/austprescr.2021.020.

Grisham, J.R., Frost, R.O., Steketee, G., Kim, H. and Hood, S. (2006) ‘Age of onset of compulsive hoarding’, Anxiety Disorders, 20, t. 675-686, doi:10.1016/j.janxdis.2005.07.004.

Haighton, C., Caiazza, R. and Neave, N. (2023) “In an ideal world that would be a multiagency service because you need everybody’s expertise”, Managing hoarding disorder: A qualitative investigation of existing procedures and practices. PLoS ONE 18(3), doi:10.1371/journal.pone.0282365.

Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) (2021) International Classification of Diseases, Eleventh Revision (ICD-11), ar gael yn https://icd.who.int/browse11 (mynediad: 19 Mawrth  2025).

Kretzer, F., Ragsdale, S., Keefer, L., O’Baker, M., Martin, D. and Hubbard, K. (2023) ‘Occupational Therapy Practitioner Interventions for Individuals with Hoarding Tendencies: A Descriptive and Associational Survey’, American Journal of Applied Psychology, 12(3), t. 63-70, doi:10.11648/j.ajap.20231203.11.

Larkin, P., Bratiotis, C. and Woody, S.R. (2024) ‘Assessment of Critical Health and Safety Risks in Homes where Hoarding is Prevalent’, Journal of Community Health, 49, t. 8-16, doi:10.1007/s10900-023-01238-0.

Martineau, S., Manthorpe, J., Woolham, J., Steils, N., Stevens, M., Owen, J. and Tinelli, M. (2021) Social care responses to self-neglect among older people: an evidence review of what works in practice. NIHR Policy Research Unit in Health and Social Care Workforce, The Policy Institute, King’s College London.

McGrath, M., Russell, A.M. and Masterson, C. (2024) ‘‘A more human approach … I haven’t found that really’: experiences of hoarding difficulties and seeking help’, Behavioural and Cognitive Psychotherapy, 52(1), t. 1-13, doi:10.1017/S1352465823000425.

Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru (2022) ‘Ymddygiadau Risg Uchel (gan gynnwys Hunanesgeulusoa Chelcio)’, ar gael yn https://cysur.wales/regional-policies-procedures/high-risk-behaviours-including-self-neglect-and-hoarding/ (mynediad 14 Mawrth 2025).

Millen, A., Linkovski, O., Dunn, L.B. and Rodriguez, C.I. (2017) ‘Ethical Challenges in Treating Hoarding Disorder: Two Primary Care Clinical Case Studies’, Focus: The Journal of Lifelong Learning in Psychiatry, 15(2), t. 185-189, doi:10.1176/appi.focus.20170002.

Mind (2025) ‘Treatment for hoarding disorder’, ar gael yn https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/hoarding/treatment-for-hoarding-disorder/ (mynediad 5 Medi 2025).

Mind (2022a) ‘Hoarding: About hoarding’, ar gael yn https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/hoarding/about-hoarding/ (mynediad 19 Mawrth 2025).

Mind (2022b) ‘Hoarding: Causes of hoarding’, ar gael yn https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/hoarding/causes-of-hoarding/ (mynediad 19 Mawrth 2025).

Nathanson, J.A. (2009) ‘Animal Hoarding: Slipping Into the Darkness of Comorbid Animal and Self-Neglect’, Journal of Elder Abuse & Neglect, 21, t. 307-324, t. 10.1080/08946560903004839.

Nordsletten, A.E. and Mataix-Cols, D. (2012) ‘Hoarding versus collecting: Where does pathology diverge from play?’, Clinical Psychology Review, 32, t. 165-176, doi:10.1016/j.cpr.2011.12.003.

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru (2016) ‘Polisïau a Gweithdrefnau Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru i Gefnogi Pobl sy’n Hunanesgeulusoar gael yn  https://www.northwalessafeguardingboard.wales/wp-content/uploads/2019/02/North-Wales-Self-Neglect-Protocol-V2-1-1.pdf (mynediad 19 Mawrth 2025).

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru (2017) ‘Protocol Celcio’, ar gael yn https://www.northwalessafeguardingboard.wales/wp-content/uploads/2019/03/Hoarding-Protocol-2018-12-19.pdf (mynediad 19 Mawrth 2025).

Orr, D.M.R., Preston-Shoot, M. and Braye, S. (2019) ‘Meaning in hoarding: perspectives of people who hoard on clutter, culture and agency’, Anthropology & Medicine, 26, 
t. 263-279, doi:10.1080/13648470.2017.1391171.

Owen, J., Woolham, J., Manthorpe, J., Steils, N., Martineau, S., Stevens, M. and Tinelli, M. (2022) ‘Adult safeguarding managers' understandings of self-neglect and hoarding’, Health & Social Care in the Community, 30(6), t. e4405-e4415, doi:10.1111/hsc.13841.

Preston-Shoot, M. (2023) ‘Human stories about self-neglect: told, untold, untellable and unheard narratives in safeguarding adult reviews’, The Journal of Adult Protection, 25(6), t. 321-338, doi:10.1108/JAP-04-2023-0014.

Prosser, R.M., Dennis, J. P. and Salkoskis, P.M. (2024) ‘Understanding stigma in hoarding disorder: A systematic review’, Journal of Obsessive-Compulsive and Related Disorders, 41, doi:10.1016/j.jocrd.2024.100872.

Samuels, J.F., Bienvenu, O.J., Pinto, A., Fyer, A.J., McCracken, J.T., Rauch, S.L., Murphy, D.L., Grados, M.A., Greenberg, B.D., Knowles, J.A., Piacentini, J., Cannistraro, P.A., Cullen, B. and Riddle, M.A. (2007). ‘Hoarding in obsessive-compulsive disorder: Results from the OCD collaborative genetics study’, Behaviour Research and Therapy, 45(4), t. 673–686, doi:10.1016/j.brat.2006.05.008.

Scourfield, P. (2010) ‘Reflections on the serious case review of a female adult (JK)’, The Journal of Adult Protection, 12(4), t. 16-30, doi:10.5042/jap.2010.0641.

Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (2024a) ‘Self-neglect policy and practice: Learning from the frontline and people with lived experience’, ar gael yn https://www.scie.org.uk/app/uploads/2024/06/self-neglect_general_briefing.pdf (mynediad 2 Medi 2025).

Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (2024b) ‘Self-neglect at a glance’, ar gael yn https://www.scie.org.uk/self-neglect/at-a-glance/ (mynediad 19 Mawrth 2025).

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ar gael yn https://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/resources (mynediad 19 Mawrth 2025).

Steils, N., Woolham, J., Manthorpe, J., Martineau, S., Owen, J., Stevens, M. and Tinelli, M. (2022) What do we know about hoarding behaviour and treatment approaches for older people? A thematic review, NIHR Policy Research Unit in Health and Social Care Workforce, The Policy Institute, King’s College London, ar gael yn https://kclpure.kcl.ac.uk/portal/en/publications/what-do-we-know-about-hoarding-behaviour-and-treatment-approaches/ (mynediad: 11 Mai 2026).

Thew, G.R. and Salkovskis, P.M. (2016) ‘Hoarding among older people: An evaluative review’, The Cognitive Behaviour Therapist, 9(32), doi:10.1017/S1754470X16000180.

Tolin, D.F., Fitch, K.E., Frost, R.O. and Steketee, G. (2010) ‘Family informants’ perceptions of insight in compulsive hoarding’, Cognitive Therapy and Research, 34(1), t. 69–81, doi:10.1007/s10608-008-9217-7.