
Cymorth a datblygiad cymunedau ymarfer – cwestiynau cyffredin
Os oes gennych chi gwestiynau am ein gwasanaeth cymorth a datblygiad cymunedau ymarfer, efallai y cewch ateb ar y dudalen hon.
Dw i ddim yn siŵr os yw’r cynnig hwn yn addas i mi. Alla i siarad â rhywun?
Wrth gwrs. Os nad ydych yn siŵr a yw'r cynnig cymorth hwn yn addas i chi, cysylltwch â ni ar cymunedau@gofalcymdeithasol.cymru a gallwn ni eich helpu i benderfynu. Byddwn ni hefyd yn trafod os yw'r gefnogaeth yn iawn i chi yn ein cyfarfod cychwynnol.
I ba raddau fyddwch chi’n ymwneud â’n gwaith?
Byddwn ni'n trafod hyn yn ein cyfarfod cychwynnol. Byddwn ni'n cytuno gyda'n gilydd sut fydd y gefnogaeth yn edrych.
A wnewch chi fy helpu i hwyluso fy nghyfarfodydd cymunedol gydag aelodau?
Yn dibynnu ar ba gefnogaeth rydyn ni'n cytuno gyda'n gilydd, gallwn ni rannu cyngor ar sut i hwyluso cyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb, yn seiliedig ar yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu o hwyluso ein cyfarfodydd cymunedol ein hunain. Os yw hwn yn faes lle rydych chi'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol, gallwn ni eich helpu i ddatblygu cynllun ar gyfer rhai o'ch cyfarfodydd cychwynnol, eu mynychu a rhoi adborth i chi yn seiliedig ar yr hyn rydyn ni'n ei arsylwi. Byddai hyn yn gyfyngedig o amser ac yn dibynnu ar gapasiti.
A fyddaf yn cael cymorth technegol gan Ofal Cymdeithasol Cymru?
Na, nid yw hyn yn rhan o'r cynnig cymorth. Ond gallwn ni eich cefnogi i ddatblygu neu guradu cynnwys a gwella ymgysylltiad trwy lwyfannau ar-lein.
Beth ydych chi'n ei ddisgwyl gennyf? Dw i ddim yn siŵr bod gen i'r amser, ond mae gen i ddiddordeb.
Mae hwnna'n iawn. Byddwn ni'n mynd ar eich cyflymder chi ac yn cytuno gyda'n gilydd pa mor aml rydyn ni'n cwrdd ac am ba hyd. Os byddwch chi'n penderfynu nad yw'r gefnogaeth yn iawn i chi ar unrhyw adeg, gallwn ni oedi neu ddod â'r gefnogaeth i ben, a gallwch chi gysylltu â ni os ydych chi'n penderfynu dechrau cael mynediad at y cymorth eto.
Ydy hi'n iawn i mi newid fy meddwl yn ystod y broses?
Ie, wrth gwrs. Os ydych chi'n penderfynu nad yw'r cynnig cymorth hwn yn iawn i chi ar hyn o bryd, yna gallwn ni ddod â'n cefnogaeth i ben. Rydych chi'n rhydd i gysylltu â ni yn y dyfodol os hoffech chi ailgychwyn y gefnogaeth.
Pa mor aml y byddwn ni'n cwrdd un i un?
Os ydyn ni'n cytuno bod y gefnogaeth un i un yn iawn i chi, byddwn ni'n trafod pa mor aml rydyn ni'n cwrdd i weddu i'ch argaeledd chi a'n argaeledd ni.
Mae pwnc fy nghymuned yn sensitif iawn ac yn gyfrinachol. A oes gennych chi gontract a fydd yn helpu i leihau pryderon fy uwch dîm arweinyddiaeth am hyn?
Oes, mae gennym ni gontract sy'n ymdrin â'r pwnc o gyfrinachedd. Byddwn ni'n siarad â chi trwy hyn a bydd y ddau ohonom yn ei lofnodi cyn i ni ddechrau gweithio gyda'n gilydd.
A wnewch chi fy helpu i fesur llwyddiant fy nghymuned?
Os hoffech chi help i fesur llwyddiant eich cymuned, rydyn ni hefyd yn cynnig cefnogaeth gwerthuso trwy ein gwefan Grŵp Gwybodaeth.
Rwy'n nerfus mai chi yw'r rheoleiddiwr
Yn ogystal â'n rôl ni i gofrestru'r gweithlu, gall Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd eich helpu i wella eich ymarfer. Mae'r gwasanaeth hwn ar wahân i'n gwaith rheoleiddio
Mwy o gwestiynau?
Os oes gennych chi mwy o gwestiynau, e-bostiwch cymunedau@gofalcymdeithasol.cymru.