Skip to Main content

Adnodd Data Cenedlaethol (NDR)

Mae Cymru yn cyflwyno ffordd newydd o sicrhau bod data iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu cael ei rannu a’i ddefnyddio’n effeithiol i gefnogi canlyniadau gwell i bobl – yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR).

Beth yw'r Adnodd Data Cenedlaethol?

Mae'r NDR yn blatfform data cenedlaethol sy'n cael ei gynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) ac ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. 

Ei nod yw cysylltu data iechyd a gofal cymdeithasol yn ddiogel ledled Cymru, gan ei gwneud hi'n haws cyrchu, dadansoddi a defnyddio mewn ffordd foesegol a diogel. 

Mae'r NDR yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth gan sefydliadau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, yr holl fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Llywodraeth Cymru. 

Rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod modd rhannu a defnyddio data er budd pobl yng Nghymru.

Mae'r NDR yn cynnwys tri phrif faes gwaith:

  • Ystorfa Data Gofal: Dyma ganolfan ganolog Cymru ar gyfer data gofal ac mae'n galluogi apiau iechyd a gofal i gael mynediad at gofnodion cleifion a chyfrannu atynt.
  • Platfform Dadansoddi Data Cenedlaethol: Bydd hyn yn helpu sefydliadau iechyd a gofal yng Nghymru i storio, cyrchu a dadansoddi data yn ddiogel i wella canlyniadau i bobl.
  • Amgylchedd Data Diogel: Mae hyn yn helpu pobl o sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol, diwydiant a'r byd academaidd i gynnal astudiaethau data gyda'i gilydd mewn amgylchedd diogel a rheoledig i fynd i'r afael â heriau allweddol.

Ni fydd angen i chi gael mynediad i'r NDR yn uniongyrchol. Byddwch yn cael eich cysylltu ag ef trwy'r system gyfrifiadurol rydych chi eisoes yn ei defnyddio yn eich gwaith bob dydd.

Pam mae'n cael ei gyflwyno?

Rydyn ni'n gwybod bod cyfathrebu da yn allweddol i gymorth effeithiol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Ar hyn o bryd, mae gwybodaeth bwysig amdanom ni wedi'i gwasgaru ar draws gwahanol systemau cyfrifiadurol sydd ddim yn cyfathrebu'n dda â'i gilydd. Gall hyn ei gwneud hi'n anoddach i weithwyr proffesiynol gael mynediad i'r wybodaeth gywir ar yr adeg iawn. Mae angen i ni allu rhannu gwybodaeth am anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl yn llawer mwy effeithiol nag y gallwn ar hyn o bryd.

Bydd yr NDR yn dod â'ch data iechyd a gofal cymdeithasol pwysig at ei gilydd, fel y gall gweithwyr proffesiynol wneud y penderfyniadau cywir i chi a'ch anwyliaid. 

Gall yr NDR hefyd helpu i wella iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy ddarparu data dienw ar gyfer ymchwil a chynllunio.

Sut bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu?

Mae yna reolau llym iawn ynglŷn â ble a phryd gall gwybodaeth pobl cael ei rhannu, a phwy sy'n gallu ei rhannu.

Dim ond gyda'r gweithwyr proffesiynol sydd angen mynediad at wybodaeth am y bobl maen nhw'n gweithio gyda nhw y bydd data yn yr NDR yn cael ei rannu.

Bydd eich gwybodaeth hefyd dim ond yn cael ei rhannu pan fydd ei angen, ac ond y darnau o wybodaeth y mae angen i weithiwr proffesiynol ei weld fydd yn cael eu rhannu.

Enghraifft: Stori Gwenda

Mae Gwenda yn yr ysbyty ar ôl cwympo.

Mae Gwenda, ei theulu a'i meddygon yn cytuno bod angen gofal preswyl dros dro arni i wella.

Oherwydd bod yr ysbyty, y gwasanaethau cymdeithasol a'r cartref gofal i gyd yn defnyddio'r NDR, mae ganddyn nhw i gyd mynediad at fanylion pwysig fel meddyginiaeth, alergeddau a chynllun gofal Gwenda.

Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i Gwenda a'i theulu ailadrodd yr un wybodaeth drosodd a throsodd i bob gwasanaeth, ac mae llai o risg o wallau.

Pryd mae'r NDR yn cael ei gyflwyno?

Bydd yr NDR yn dechrau cyflawni rhai o'i amcanion o 2025 ymlaen, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd yr holl sefydliadau sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu sy'n darparu gwasanaeth gofal cymdeithasol yn gallu ymuno cyn 2030. 

Rydyn ni eisoes yn cefnogi gofal cymdeithasol i baratoi ar gyfer yr NDR, trwy brosiectau fel ein gwaith aeddfedrwydd data a safonau data.

Mae'r NDR wedi'i gynllunio i ategu gwaith arall sy'n cael ei wneud yn y maes hwn, fel y mentrau Cysylltu Gofal a Chofnod Gofal Integredig, yn hytrach na chystadlu gyda nhw.

Mwy o wybodaeth

Os hoffech ddarganfod mwy am sut mae'r NDR yn cael ei gyflwyno mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru, cysylltwch â data@gofalcymdeithasol.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth gyffredinol am yr NDR, ewch i wefan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.