Gallwn ni gynnig cefnogaeth i'ch cais am gyllid ymchwil. Am fwy o wybodaeth ar y prosiectau sydd eisoes yn cael cefnogaeth ewch at ein Porwr prosiectau.
Mae'r Fframwaith Cymorth ac Ymgysylltu Ymchwil yn gosod y gefnogaeth ffurfiol y gallwn ni ei chynnig i ymchwilwyr. Mae hyn yn cynnwys y meini prawf rydyn ni'n eu defnyddio i wneud penderfyniadau ynghylch pa brosiectau gallwn eu cefnogi.
Pa gefnogaeth mae pobl yn gofyn amdani?
Mae ymchwilwyr yn aml yn gofyn i ni:
- hyrwyddo astudiaeth ymchwil ar ein sianeli cyfathrebu, fel cyfryngau cymdeithasol
- cymeradwyo eu hastudiaeth, fel y gallan nhw nodi hyn ar eu ceisiadau
- eistedd ar baneli ar gyfer adolygu ceisiadau am gyllid
- mynychu grwpiau cynghori neu lywio ar gyfer astudiaethau ymchwil
- cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil fel cyfranogwyr, megis cyfweliadau neu grwpiau ffocws
- ysgrifennu llythyrau i gefnogi ceisiadau ariannu yn gyffredinol, fel cadarnhau bod y pwnc neu'r cwestiwn ymchwil o ddiddordeb sylweddol i ofal cymdeithasol yng Nghymru neu gadarnhau y byddwn ni'n cefnogi ymchwilwyr gyda thasgau prosiect penodol
- rhoi caniatâd i gael mynediad at ddata a sy'n cael ei gadw ym Manc Data SAIL ar bobl gofrestredig
- bod yn bartneriaid ffurfiol mewn astudiaethau ymchwil, er enghraifft fel rhan o gonsortiwm
- gwahodd pobl gofrestredig ac unigolion eraill i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil.
Pryd i gysylltu â ni
Cysylltwch â ni yn nyddiau cynnar datblygiad eich cais os hoffech chi gael ein cefnogaeth.
Rydyn ni'n hapus i gael sgwrs anffurfiol am eich prosiect a thrafod ffyrdd y gallwn ni helpu.
Gallwn ni hefyd eich helpu i fireinio'ch cwestiynau ymchwil a dylunio prosiectau a all wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal cymdeithasol.
Gwybodaeth bwysig
Unwaith y byddwch chi'n barod i wneud cais ffurfiol am ein cefnogaeth, bydd angen i ni wybod:
- beth yw'r prosiect a beth ydych chi'n bwriadu darganfod
- pa gefnogaeth yr hoffech i ni ei darparu
- pam ei bod yn bwysig i Ofal Cymdeithasol Cymru gefnogi eich prosiect
- beth yw'r dyddiad cau ar gyfer eich cais am gyllid.