
Am ein llyfrgell hyfforddiant
Mae ein llyfrgell o gyrsiau a digwyddiadau dysgu yn eich helpu i ddod o hyd i hyfforddiant sydd wedi’i argymell ar gyfer pobl fel chi.
Fe wnaethon ni ei ddatblygu yn dilyn prosiect a edrychodd ar ddatblygu sgiliau data mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
I ddechrau, bydd y llyfrgell yn canolbwyntio ar amlygu cyfleoedd dysgu i wella sgiliau data a dadansoddi.
Gobeithiwn ymestyn y llyfrgell yn y dyfodol i gwmpasu ystod o bynciau. Cofiwch gadw llygad am fwy o newyddion.
Sut mae'r cyrsiau'n cael eu cyrchu
Mae'n rhaid i gyrsiau sy'n cael eu hychwanegu at y llyfrgell fodloni nifer o feini prawf gwahanol i'w cynnwys.
Byddwn ond yn ystyried:
- cyrsiau sy'n cael eu darparu gan sefydliadau lle mae lleoliad y cwrs yng Nghymru, neu lle mae’r sefydliad wedi’i leoli yng Nghymru
- cyrsiau sy'n cael eu cynnal gan unrhyw sefydliad academaidd addysg bellach neu addysg uwch, a chyrff cysylltiedig, sydd wedi'u lleoli yng Nghymru neu ar-lein ac yn hygyrch yng Nghymru (megis y Brifysgol Agored)
- cyrsiau gan unrhyw un o asiantaethau Llywodraeth y DU, gan gynnwys gweinyddiaethau datganoledig sy’n darparu cyfleoedd hyfforddi a dysgu perthnasol
- cyrsiau sy'n cael eu cynnig gan sefydliadau .wales/.cymru eraill, gan y gallai’r rhain fod yn sefydliadau sydd wedi’u sefydlu’n benodol i ddiwallu anghenion dysgu pobl sy’n gweithio yng Nghymru
- adnoddau dysgu sy'n cael eu cynnig gan ddatblygwyr offer safonol y diwydiant neu sefydliadau dysgu. Er enghraifft, adnoddau hyfforddi Microsoft ar gyfer Power BI.
Er mwyn cadw adnoddau’n hygyrch, yn ogystal â'r uchod, fe wnaethom hefyd chwilio am gynnwys dethol a churadedig sy'n berthnasol ac yn rhad ac am ddim i'w gyrchu. Rhaid i hyn fod yn gynnwys sydd wedi'i ddyfynnu fel ffynhonnell ddysgu o ansawdd uchel gan sefydliad sy'n bodloni o leiaf un arall o'r meini prawf hyn, er enghraifft, cyrsiau a restrir gan wasanaethau gyrfa cenedlaethol.
Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cyfeirio pobl at beiriannau chwilio eraill sy’n rhestru cyfleoedd perthnasol, megis MOOC (Massively Open Online Courses).
Nid yw cynhwysiant yn y llyfrgell yn golygu bod y Grŵp Gwybodaeth, na Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cymeradwyo cwrs neu gyfle dysgu. Mae llawer o gyfleoedd ar gael yn y llyfrgell ac nid ydyn ni'n gallu asesu ansawdd pob un.
Rydyn ni wedi ceisio dewis ein cynnwys yn ofalus, a chan ddarparwyr y gellir ymddiried ynddyn nhw, i ddiwallu anghenion y gymuned ymchwil a dadansoddol ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Os ydych chi wedi mynychu cwrs a hysbysebwyd yn y llyfrgell nad oedd o'r safon yr oeddech yn ei ddisgwyl, rhowch wybod i ni.