Skip to Main content

Ail-lunio gwasanaethau i oedolion ym Mhowys drwy hybiau lleol

Dyddiad diweddaru diwethaf: 27 Hydref 2025

Beth yw'r prosiect?

Mae'r prosiect Hwb Lleol yn fenter drawsnewid sydd â'r nod o ail-lunio gwasanaethau oedolion ledled Powys.  

Ei brif uchelgais yw grymuso unigolion i aros yn ddiogel, yn gryf ac yn annibynnol yn eu cymunedau trwy ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar.  

Bydd pob Hwb Lleol yn cynnig cefnogaeth galw heibio a digidol, gan gynnwys offer wedi'u pweru gan AI, a bydd yn cael ei ategu gan wasanaethau allgymorth mewn lleoliadau dros dro, fel llyfrgelloedd, i gyrraedd pobl mewn ardaloedd gwledig.  

Bydd yr hybiau yn symleiddio mynediad i weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol - fel gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a phartneriaid trydydd sector - yn y pwynt cyswllt cyntaf. Bydd hyn yn helpu i leihau oedi a'r risg o bobl yn cael eu trosglwyddo o un gwasanaeth i'r llall yn ddiangen.

Pam mae'n cael ei gynnal?

Gall y system bresennol arwain at ymatebion tameidiog, aros hir a phobl yn gorfod ailadrodd eu straeon sawl gwaith.  

Mae'r model hwn wedi'i gynllunio i leddfu'r pwysau ar wasanaethau statudol, lleihau amseroedd aros a gwella profiad y defnyddiwr trwy leihau'r angen am adrodd straeon dro ar ôl tro.  

Yn seiliedig ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r prosiect yn hyrwyddo cyd-gynhyrchu, llesiant a gwytnwch cymunedol. Mae hefyd yn cyd-fynd â nodau ehangach y cyngor ar gyfer cymorth cynnar a darparu gwasanaethau cynaliadwy. 

Ble a phryd mae'r gwaith yn digwydd?

Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud ym maes gofal cymdeithasol i oedolion ym Mhowys. 

Dechreuodd yn 2024 ac mae'n brosiect tair blynedd. 

Pwy sy'n cymryd rhan?

Mae'r gwaith yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Powys. 

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi darparu cymorth i ddatblygu'r model ymarfer newydd, yn ogystal ag anogaeth i reolwyr a chyflwyno Systemau Dysgu Dynol. Mae Systemau Dysgu Dynol yn ffordd o weithio sy'n canolbwyntio ar ddysgu, perthnasoedd ac addasu i'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i bobl. 

Cafodd yr anogaeth ei ddarparu gan Leaderful Action, a chafodd ei gomisiynu trwy ein gwasanaeth anogaeth arloesedd. 

Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan gyllid mewnol Cyngor Sir Powys a'r Gronfa Integreiddio Ranbarthol. 

Beth maen nhw wedi'i ddysgu o'r gwaith?

Er nad yw'r hybiau wedi'u rhoi ar waith eto, mae tîm y prosiect wedi ymgysylltu ag aelodau staff a'r cyhoedd ar sut ddylai'r dyfodol edrych. Roedd y tîm yn gweld yr ymgynghoriad a'r cyd-gynhyrchu hwn yn "hynod fuddiol". 

Roedd gan yr awdurdod rai rheolwyr cymharol newydd yn ei wasanaeth ac eisiau eu cefnogi i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen. I wneud hyn, nododd y tîm y byddai anogaeth unigol a grŵp yn helpu i gryfhau sylfeini cadarn y gwasanaeth. 

Roedd y rhaglen anogaeth yn llwyddiant ysgubol, gyda 10 rheolwr tîm yn cwblhau sawl sesiwn un-i-un. Roedd ganddyn nhw hefyd fynediad at sesiynau anogaeth grŵp.  

Fe wnaeth y sesiynau meithrin datblygiad arweinyddiaeth a chyflwyno meddwl Systemau Dysgu Dynol, y mae'r rheolwyr wedi dechrau ei gyflwyno yn eu timau.  

Her fawr i'r rheolwyr oedd ymrwymo amser i fynychu'r sesiynau anogaeth, ond roedden nhw'n teimlo bod y manteision o fynychu yn werth chweil.  

Adroddodd cyfranogwyr fwy o hyder, gwell ymgysylltu â'r tîm a dealltwriaeth gliriach o'u rolau wrth gyflawni'r model Hwb Lleol. 

Mae'r tîm hefyd wedi treialu amrywiad o ddatrysiadau AI ac wedi mabwysiadu llawer i'w harferion gwaith o ddydd i ddydd. Maen nhw wedi dysgu, er bod llawer o bryderon a heriau am bob agwedd ar AI, gall fod â manteision mawr unwaith y bydd mesurau diogelu priodol wedi'u hadeiladu. 

Sut i gysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â Nichola Barrett yng Nghyngor Sir Powys ar nichola.barrett@powys.gov.uk.  

Darganfod mwy

Gwefan y prosiect:

Contact name:

Nichola Barrett