Cefnogi pontio mwy llyfn i wasanaethau oedolion i bobl ifanc ag anableddau dysgu yn Sir Benfro
Dyddiad diweddaru diwethaf: 14 Gorffennaf 2026
Beth yw'r prosiect?
Nod y prosiect hwn oedd helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu a’u teuluoedd yn Sir Benfro i symud yn fwy llyfn i wasanaethau oedolion.
Cafodd y prosiect ei ddatblygu gan Ganolfan IMPACT mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro. Roedd yn cyfuno tystiolaeth, cydweithio a chyd-gynhyrchu i gryfhau cymorth yn ystod y cyfnod pontio.
Fe waneth y prosiect ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol, pobl ifanc a’u teuluoedd drwy gymysgedd o weithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb, gan gynnwys cyfweliadau un i un a grŵp rhanddeiliaid y prosiect o’r enw ‘Pontio Gyda’n Gilydd’.
Gweithiodd y cyngor hefyd, ochr yn ochr â’r bobl ifanc a’u teuluoedd, gyda dau hyfforddwr strategol uwch i ddeall pa flaenoriaethau oedd bwysicaf er mwyn cefnogi newid strategol.
Arweiniodd y gwaith at nifer o allbynnau i gefnogi cyfnodau pontio mwy llyfn, gan gynnwys ffyrdd o annog cydweithio parhaus, camau i wneud gwybodaeth yn haws ei chael a’i deall, a chreu adnoddau newydd i deuluoedd.
Pam gafodd y gwaith ei wneud?
Cafodd y prosiect ei ddatblygu mewn ymateb i ymrwymiad Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Penfro i wella’r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc ag anableddau dysgu a’u teuluoedd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer byd oedolion a symud rhwng gwasanaethau.
Er mwyn llywio’r gwaith hwn, defnyddiodd y prosiect dystiolaeth genedlaethol a lleol, gan gynnwys adolygiad o’r llenyddiaeth gan dîm IMPACT, a chyfweliadau â phobl â phrofiad byw, sefydliadau lleol a’r trydydd sector, gwasanaethau, ymarferwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill.
Dangosodd y canfyddiadau fod llawer o bobl ifanc a theuluoedd yn wynebu ansicrwydd, pryder ac anawsterau wrth geisio dod o hyd i wybodaeth a chymorth yn ystod y cyfnod hwn.
Helpodd y cysylltiad rhwng blaenoriaethau lleol a’r dystiolaeth i lunio ffocws y prosiect ar wella gwybodaeth, cydweithio, cyd-gynhyrchu a chymorth i bobl ifanc a theuluoedd drwy gydol y broses bontio.
Gall y cyfnod pontio godi cwestiynau cymhleth am bynciau fel:
- effaith y Ddeddf Galluedd Meddyliol
- iechyd a llesiant
- addysg a gyrfaoedd
- cyfeillgarwch a pherthnasoedd
- annibyniaeth ariannol
- tai yn y dyfodol.
Gall teuluoedd ei chael hi’n anodd cael gafael ar y cyngor a’r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw am y pynciau hyn, gan wneud y daith yn anodd ei llywio.
Cafodd y prosiect ei gynnal er mwyn gwella profiadau drwy sicrhau:
- gwybodaeth gliriach a mwy hygyrch
- mwy o rannu gwybodaeth am ddarparwyr gwasanaethau lleol
- cydlynu cryfach rhwng asiantaethau
- cyd-gynhyrchu parhaus gyda theuluoedd.
Ei nod oedd meithrin hyder, lleihau ansicrwydd a phryder diangen, a darparu llwybrau mwy llyfn a chyson i fyd oedolion.
Ble a phryd cafodd y gwaith ei wneud?
Cafodd y prosiect ei gynnal yn Sir Benfro, gan weithio’n uniongyrchol gyda gwasanaethau oedolion Cyngor Sir Penfro. Gwneithiodd y tîm hefyd gyda phobl ifanc ag anableddau dysgu a’u teuluoedd, asiantaethau a gwasanaethau amrywiol, a sefydliadau lleol a chenedlaethol.
Roedd y prosiect yn rhedeg rhwng mis Medi 2024 a mis Awst 2025.
Pwy oedd yn rhan o'r gwaith?
Cafodd y prosiect ei ariannu gan Ganolfan IMPACT, gyda chymorth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a’r Health Foundation.
Beth maen nhw wedi'i ddysgu?
Mae’r prosiect wedi helpu i wella cydweithio, gwybodaeth a chyd-gynhyrchu mewn gwasanaethau pontio.
Un o brif ganlyniadau’r prosiect oedd sefydlu grŵp rhanddeiliaid ‘Pontio Gyda’n Gilydd’ i:
- gasglu a rhannu gwybodaeth
- datblygu gallu, sgiliau a pherthnasoedd sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth
- gweithio gyda’i gilydd mewn man diogel
- gwella dealltwriaeth o beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio
- cynyddu cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio
- creu dull cynaliadwy, amlasiantaethol o bontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
Roedd canlyniadau eraill yn cynnwys:
- creu llwyfan gwybodaeth mwy hygyrch ar wefan y cyngor, wedi’i gyd-ddylunio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd
- cydweithio â phartneriaid cenedlaethol eraill i gyflwyno gweminarau’r National Development Team for Inclusion (NDTi) a gweithdai cyngor ariannol DOSH i gynulleidfa ehangach
- hyrwyddo opsiynau seibiant a chymorth drwy sesiynau newydd i arddangos gwasanaethau a gweithgareddau a digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid
- creu ffilm fer (‘I Can, I Will’) a gafodd ei chyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc a theuluoedd sy’n byw yn Sir Benfro. Mae’r ffilm yn tynnu sylw at yr angen am sgyrsiau cynharach ac at y dull cynhwysol o bontio sydd wedi’i gynllunio
- datblygu adnoddau newydd i helpu teuluoedd i reoli’r broses bontio eu hunain, hybu llesiant a theimlo’n fwy gwybodus a pharod.
Mae’r canlyniadau hyn wedi cryfhau partneriaethau, gwella’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei rhannu, a gosod sylfeini ar gyfer cymorth pontio mwy cynhwysol yn y dyfodol.
Cysylltwch
Os hoffech chi wybod mwy am y prosiect hwn, cysylltwch â Sarah Jenkins yng Nghanolfan IMPACT ar JenkinsSL@cardiff.ac.uk.
Darganfod mwy
Contact name:
Sarah Jenkins