Skip to Main content

Hybu diwylliant ymchwil yng Nghastell-nedd Port Talbot

Dyddiad diweddaru diwethaf: 10 Mai 2024

Beth yw'r prosiect?

Nod y prosiect hwn oedd hyrwyddo diwylliant ymchwil ymhlith ymarferwyr gofal cymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae Rachel Scourfield a Liza Turton yn weithwyr cymdeithasol ymgynghorol yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot. Yn 2022, fe wnaethnon nhw sicrhau cyllid gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) o dan y Wobr Arweinwyr Ymchwil Seiliedig ar Ymarfer. Galluogodd hyn iddyn nhw gael swydd bwrpasol wedi'i hariannu am 12 mis gyda chymorth busnes. Eu cylch gwaith oedd ymwreiddio diwylliant ymchwil i ymarferwyr wrth ddefnyddio tystiolaeth mewn ymarfer.

Dechreuodd Rachel a Liza trwy ddefnyddio canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) i ddadansoddi achosion ôl-weithredol a chanfod ei fod yn darparu strwythur defnyddiol ar gyfer gwaith. Roedd hyn yn cynnwys gwirio rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr amlddisgyblaethol. Fel rhan o'r gwaith hwn, daeth yn gynyddol amlwg y byddai defnyddio amrywiaeth o ymchwil a thystiolaeth o fudd i ymarferwyr yn eu gwaith ac wrth sicrhau gwell canlyniadau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau.

Roedd y dulliau a ddefnyddiwyd fel rhan o'r prosiect yn cynnwys:

  • hwyluso gweithdai gyda'r timau peilot i gasglu data llinell sylfaen ac effaith
  • hwyluso sesiynau mapio achosion gyda'r timau, lle gellid dadansoddi achosion cymhleth gan ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth
  • cynorthwyo staff i gael mynediad at ymchwil a thystiolaeth a’u defnyddio.

Roedd y prosiect yn unigryw yng Nghymru a denodd lawer iawn o ddiddordeb gan amrywiaeth o sefydliadau ymchwil. 

Pam y cafodd ei gyflawni?

Mae rhwystrau cydnabyddedig o ran defnyddio ymchwil a thystiolaeth mewn gofal cymdeithasol. Yn wahanol i gydweithwyr ym maes iechyd, nid oes gan ofal cymdeithasol seilwaith sy'n addas ar gyfer y ffordd hon o weithio.

Yn aml mae diffyg amser gwarchodedig i ymarferwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n datblygu diwylliant ymchwil. Hefyd, yn aml mae sgiliau sydd angen eu datblygu i fagu hyder a gwybodaeth wrth ddod o hyd i ymchwil gofal cymdeithasol a’i deall.

Mae atgyfeiriadau sy'n cyrraedd gwasanaethau yn mynd yn fwy a mwy cymhleth, gyda llai o adnoddau ar gael. Mae'r angen i ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth mewn ymarfer yn cael ei gydnabod fwyfwy i fod yn hanfodol i lywio'r broses o wneud penderfyniadau a chreu gwell canlyniadau.

Ble a phryd cafodd y gwaith ei wneud?

Dechreuodd y prosiect ym mis Ebrill 2023 a daeth i ben ddiwedd mis Mawrth 2024.

Cynhaliwyd y prosiect yng Nghastell-nedd Port Talbot gyda thri thîm peilot mewn gwasanaethau oedolion.

Pwy oedd yn rhan o’r gwaith?

Roedd y prosiect yn cynnwys gweithio gyda thri thîm peilot yng Nghastell-nedd Port Talbot:

  • y tîm anabledd cymhleth
  • tîm rhwydwaith Castell-nedd
  • tîm o therapyddion galwedigaethol.

Mae'r timau'n wahanol iawn i’w gilydd ac yn cynnwys cymysgedd o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn ogystal â hyn, roedd amrywiaeth o bobl sy'n cyfrannu at gynhadledd ar ddiwedd y prosiect yn cymryd rhan hefyd. Bydd y gynhadledd yn cynnwys arddangosiadau o'r cynnydd y mae pobl wedi'i wneud drwy'r prosiect hwn, yn ogystal â chlywed straeon gan y timau am ei werth i'w gwaith. Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth o ble cafodd defnyddio ymchwil a thystiolaeth effaith gadarnhaol ar ganlyniadau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau.

Roedd uwch reolwyr yn gefnogol iawn ac mae Rachel a Liza wedi gallu rhannu eu taith a'u profiad gydag awdurdodau lleol cyfagos.

Mae NICE wedi bod yn rhan o’r gwaith o gefnogi'r defnydd o'u canllawiau i gefnogi ymarfer hefyd.

Mae Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) a'r tîm ysgogi gwybodaeth yng Ngofal Cymdeithasol Cymru wedi datblygu pecyn cymorth sy'n cynnwys technegau ar gyfer datblygu amgylchedd wedi’i gyfoethogi gan dystiolaeth a chefnogi ymarferwyr i ymgysylltu'n haws ag ymchwil a thystiolaeth.

Cefnogodd Ysgol Economeg Llundain Liza a Rachel gan ddefnyddio astudiaeth theori newid a gynhaliwyd i edrych ar ddatblygu diwylliant ymchwil a gweithredu canllawiau NICE mewn gofal cymdeithasol.

Beth maen nhw wedi'i ddysgu?

Cafwyd llawer o fanteision a dysgwyd llawer o'r prosiect hwn, gan gynnwys:

  • cyfraniadau'r gwaith hwn at ddatblygu ymhellach y broses o wneud penderfyniadau proffesiynol cadarn ymhlith ymarferwyr gofal cymdeithasol, canlyniadau cadarnhaol i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, ac effaith gadarnhaol ar lesiant ymarferwyr wrth gefnogi gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth
  • cydnabod yr angen am swyddi pwrpasol gydag amser i ddarparu arweinyddiaeth ar gyfer y gwaith pwysig hwn. Hefyd, bod ymgorffori diwylliant ymchwil yn cymryd llawer o amser a'r perygl yw y bydd yn anghynaliadwy heb arweinyddiaeth
  • bod awydd i ddatblygu diwylliant ymchwil ac y gellid ehangu hyn ar draws y sefydliad yn fwy cyffredinol
  • manteision gweithio gan ddefnyddio dull cydweithredol gyda chymorth cydweithwyr yn Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) a'r tîm ysgogi gwybodaeth yng Ngofal Cymdeithasol Cymru
  • gall fod diffyg hyder a sgiliau ymhlith ymarferwyr wrth ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth yn ymarferol. Mae'r rôl arweinyddiaeth hon yn hollbwysig i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl fel unigolion
  • wrth ddod i ddiwedd y prosiect, mae’r effaith i’w gweld yn amlwg, ond mae llawer i'w wneud o hyd i ymgorffori diwylliant ymchwil yn ymarferol.

Darganfod mwy

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Melanie Weaver neu Liza Turton yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot.

Darganfod mwy

Gwefan y prosiect:

Contact name:

Melanie Weaver

Email address:

m.weaver@npt.gov.uk