
Creu pecyn cymorth i gefnogi ymgysylltiad pobl sy’n gadael gofal â gwasanaethau amlasiantaeth
Dyddiad diweddaru diwethaf: 19 Mehefin 2025
Beth yw'r prosiect?
Defnyddiodd y prosiect hwn brofiad pobl sy'n gadael gofal ac ymarferwyr i gynhyrchu pecyn cymorth i gefnogi ymgysylltiad pobl sy'n gadael gofal â gwasanaethau aml-asiantaeth.
Nodau'r pecyn cymorth yw:
- cefnogi arferion sy'n ymateb i anghenion amrywiol pobl ifanc, tra'n ymateb i'w hanghenion newidiol
- gwella sgiliau proffesiynol wrth weithio gyda phobl ifanc i gael gwared ar rwystrau i ymgysylltu.
Mae'r pecyn cymorth yn cynnig canllawiau, offer ac argymhellion i gefnogi pobl sy'n gweithio gyda phobl sy'n gadael gofal.
Mae'n adnodd gall gweithwyr cyfeirio ato ac mae'n cynnwys rhestrau gwirio a all gefnogi arfer da.
Mae'r pecyn cymorth wedi'i lywio gan dystiolaeth o ymchwil cafodd ei chynnal gan Brifysgol Bangor, a oedd yn cynnwys cyfweliadau ag ymarferwyr a phobl sy'n gadael gofal.
Fel rhan o'r astudiaeth, cafodd podlediad ei gynhyrchu a oedd yn cynnwys lleisiau a phrofiadau pobl sy'n gadael gofal, ymarferwyr ac academyddion.
Pam y cafodd ei gyflawni?
Cysylltodd tîm gwasanaethau oedolion agored i niwed gwasanaethau cymdeithasol Conwy â Phrifysgol Bangor am eu bod am ddeall a dysgu mwy am y rhwystrau i gael mynediad at gymorth i oedolion ifanc sy'n gadael gofal.
Roedden nhw eisiau deall pam mae rhai pobl ifanc yn ymgysylltu â gwasanaethau tra nad yw eraill yn aml yn gwneud hynny. Roedd ganddyn nhw ddiddordeb mawr mewn datblygu'r prosiect hwn mewn partneriaeth ag ardaloedd lleol eraill ledled Cymru, a hefyd gydag oedolion ifanc sy'n cael mynediad at gymorth.
Roedden nhw eisiau gwybod mwy am eu profiadau byw o gael mynediad ac ymgysylltu â gwasanaethau.
Dangosodd y canfyddiadau gynnar:
- mae pobl sy'n gadael gofal yn teimlo'n anbarod wrth drosglwyddo i fyw'n annibynnol
- gall ymgysylltu â gwasanaethau cymorth helpu i lyfnhau'r trawsnewidiad hwn
- nid yw pawb yn ymgysylltu â'r gefnogaeth hon
- roedd llawer o bobl sy'n gadael gofal ac ymarferwyr aml-asiantaeth eisiau gwybod beth oedd y rhwystrau a'r galluogwyr i ymgysylltu.
Ble a phryd cafodd y gwaith ei wneud?
Cafodd yr ymchwil a ddatblygiad y pecyn cymorth ei wneud drwy gydol yr astudiaeth ddwy flynedd, a oedd wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, o fis Medi 2022 tan Awst 2024.
Roedd hyn yn cynnwys cyfarfodydd rheolaidd gyda grwpiau cynghori, gan gynnwys ymarferwyr a phobl sy'n gadael gofal.
Siaradodd yr ymchwilwyr â 21 o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal trwy gyfweliadau sy'n para hyd at awr. Fe wnaethon nhw gynnal grwpiau ffocws a chyfweliadau gydag ymarferwyr aml-asiantaeth, gan siarad â chyfanswm o 30 o bobl o dai, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a chynghorwyr personol.
Pwy oedd yn rhan o'r gwaith?
Cafodd y gwaith ei gyflawni gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd cydweithwyr a chyfranogwyr yr astudiaeth o bedwar awdurdod lleol:
- Conwy
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Torfaen.
Beth maen nhw wedi'i ddysgu?
Y prif rwystrau i ymgysylltu cafodd eu nodi oedd:
- peidio â theimlo eu bod wedi’u cefnoi neu wedi’u wrando arno
- cyfarfodydd yn rhy ffurfiol
- profiadau blaenorol gwael sy'n atal ymddiriedaeth rhag datblygu
- bod yn anymwybodol o wasanaethau a theimlo'n hunan-ddibynnol.
Y prif alluogwyr cafodd eu nodi oedd:
- cael gweithiwr cymorth da a chymorth hyblyg ac wedi’i theilwra
- cydnabod yr angen i roi cyfle i'r gweithiwr a derbyn cefnogaeth
- bod cyfathrebu rhwng ac o fewn gwasanaethau yn allweddol i ddarparu cefnogaeth cyfannol.
Y canlyniadau o ymgysylltu cafodd eu nodi oedd:
- gwell hyder
- llais, dewis a rheolaeth
- llai o arwahanrwydd cymdeithasol
- gwell iechyd meddwl (er enghraifft, llai o bryder)
- mwy o foddhad swydd i ymarferwyr ar ôl gweld oedolion ifanc maen nhw’n gweithio gyda yn profi mwy o annibyniaeth a gwell llesiant.
Mae'r pecyn cymorth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a'r hyfforddiant cysylltiedig wedi cael eu derbyn yn dda gan ymarferwyr. Mae llawer wedi bod yn awyddus i rannu'r pecyn cymorth gyda'u tîm a sefydliadau ehangach i ledaenu arfer da.
Mae rhai mewnwelediadau newydd wedi'u nodi. Roedd pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn awyddus i fod yn rhan o'r ymchwil ac yn cydnabod eu cyfranogiad fel 'cyfrifoldeb cymdeithasol'. Trwy'r cyfweliadau a'r podlediadau, anogodd llawer i bobl sy'n gadael gofal roi cyfle i'w gweithwyr cymorth ac ymgysylltu ag unrhyw wasanaethau a chefnogaeth a oedd ar gael iddyn nhw.
Myfyriodd ymarferwyr ar sut roedd clywed straeon cadarnhaol gan bobl sy'n gadael gofal yn werthfawr iddyn nhw, gan eu bod yn gallu gweld yn well y gwahaniaeth a wnaeth eu rôl fel ymarferydd i bobl ifanc.
Dywedodd un: "Mae'r pecyn cymorth yn rhoi persbectif o lais y person sy’n gadael gofal a'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Gobeithio y bydd yn ennyn pwysigrwydd cyfathrebu ac ymddiriedaeth. Rwy'n credu y bydd llawer o asiantaethau yn elwa o hyn."
Ychwanegodd un o'r rhai sy'n gadael gofal a oedd yn rhan o'r grŵp cynghori prosiect: "Rwy'n credu bod hyn yn bwysig, oherwydd nid oes llawer o bobl yn deall plant gofal neu bobl sy'n gadael gofal. Yn hyn, rydyn ni'n cael esbonio sut beth yw hi mewn gwirionedd. Doedden ni erioed eisiau cael ein rhoi yn y sefyllfa hon, ond rydyn ni'n ceisio ein gorau ac mae'n gadael i blant gofal eraill wybod bod digon o gefnogaeth allan yna."
Sut i gysylltu
I ddarganfod mwy am y prosiect hwn, cysylltwch â Dr Ceryl Davies neu Dr Louise Prendergast ym Mhrifysgol Bangor.
Darganfod mwy
Contact name:
Dr Ceryl Davies