Skip to Main content

Defnyddio adrodd straeon ar gyfer newid mewn gwasanaethau iechyd, gofal a llesiant - DEEP

Dyddiad diweddaru diwethaf: 30 Ebrill 2024

Beth yw'r prosiect?

Mae Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) yn gweithio gyda phartneriaid i adeiladu cymuned ymchwil genedlaethol o academyddion, llunwyr polisi ac ymarferwyr o amgylch adrodd straeon.

Diolch i gyllid diweddar gan grant Rhwydwaith Arloesi Cymru (WIN), bydd DEEP yn gweithio gyda Phrifysgol Wrecsam a phrifysgolion eraill Cymru i gynllunio digwyddiad mewn person am ddim yn Wrecsam i gefnogi'r gymuned hon.

Bydd yn cynnig cyfleoedd datblygu ymchwil ac rhwydweithio o amgylch rôl adrodd straeon mewn gofal cymdeithasol, iechyd a datblygiad cymunedol.

Pam mae'n cael ei gynnal?

Nodwedd ganolog o DEEP yw'r defnydd o ddulliau stori a deialog mewn ymchwil, dysgu a datblygu.

Gan weithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, mae DEEP yn adeiladu dull mwy strategol o adrodd straeon, gan gynnwys creu rhwydweithiau adrodd straeon.

Mae’r rhwydwaith adrodd straeon yn cynnwys ymchwilwyr o bob rhan o’r DU, ymarferwyr, pobl â phrofiad byw, rheolwyr sefydliadol a llunwyr polisi yng Nghymru. Mae'r rhwydwaith eisoes wedi helpu i gefnogi a datblygu meddylfryd ynghylch ymchwil, polisi a datblygu ymarfer.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae DEEP a Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn archwilio dulliau adrodd straeon i gefnogi llesiant, gwerthuso a dysgu.

Cynhaliwyd digwyddiad deuddydd ar-lein am y tro cyntaf ym mis Medi 2022, lle cofrestrodd dros 100 o bobl i fynychu, ac yna dau ddigwyddiad mewn person llwyddiannus yn 2023 a dechrau 2024.

Ble a phryd mae’r gwaith yn cael ei wneud?

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Wrecsam a bydd mwy o fanylion ar gael cyn bo hir.

Yn y cyfamser, ewch i'n tudalen DEEP i ddysgu mwy am waith adrodd straeon mewn gofal cymdeithasol, iechyd a chymunedau.

Pwy sy'n cymryd rhan?

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Brifysgol Wrecsam a'i ariannu gan grant WIN.

Mae Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Wrecsam, Prifysgol Durham, Mencap Cymru, Cyngor Sir Benfro, a Chyngor Castell-nedd Port Talbot ymhlith y partneriaid allweddol i’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r prosiect.

Darganfod mwy

I gael gwybod mwy am y prosiect hwn, cysylltwch â Nick Andrews, Swyddog Ymchwil a Datblygu Ymarfer DEEP.

Darganfod mwy

Gwefan y prosiect:

http://www.deepcymru.org/cy/

Contact name:

Nick Andrews